Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

COP26: Mae herio mythau ynglŷn â phobl hŷn a’r newid yn yr hinsawdd yn hanfodol

i mewn Newyddion

Mae’n bosibl mai’r newid yn yr hinsawdd yw’r broblem fwyaf eang sy’n wynebu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac ym mis Tachwedd bydd arweinwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o’r byd yn dod at ei gilydd ar gyfer Cynhadledd COP26 yn Glasgow, gyda’r nod o gytuno ar gamau i ddiogelu’r amgylchedd.

Rydym ni i gyd yn pryderu am y newid yn yr hinsawdd, sydd eisoes yn cael effaith ar iechyd a lles pobl hŷn a’n gallu i heneiddio’n dda, a bydd yr wythnosau nesaf yn hollbwysig o ran y frwydr i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Yn anffodus, fel rhan o’r trafodaethau hir dros yr wythnosau nesaf, rydym ni’n debygol o ddod ar draws rhywfaint o rethreg oedyddol yn seiliedig ar fythau a chamsyniadau am bobl hŷn a’r newid yn yr hinsawdd, rhywbeth sydd wedi dod yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r argyfwng hinsawdd waethygu?

Fel y nodwyd mewn adroddiad diweddar gan Kings College Llundain[1], does gan y mythau cyffredin am bobl hŷn a’r newid yn yr hinsawdd – sef nad yw pobl hŷn yn poeni am y peth na’i effaith, er enghraifft, neu nad ydyn nhw’n barod i gymryd camau i ddiogelu’r amgylchedd – ddim unrhyw sail mewn gwirionedd.

Canfu’r adroddiad fod y lefelau o gytuno bron yr un fath  ar draws y cenedlaethau a bod pobl yn fodlon gwneud newidiadau mawr i’w ffordd o fyw eu hunain er mwyn lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd.

Mae’r canfyddiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn data o Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n dangos bod tua 90% o bobl dros 65 oed yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a bod dwy ran o dair o bobl dros 65 oed yn meddwl nad yw’r llywodraeth yn gwneud digon i ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.[2], [3] Mae’r arolwg hefyd yn dangos y ffyrdd y mae pobl hŷn yn newid eu hymddygiad oherwydd newid yn yr hinsawdd – dywedodd 40% o bobl dros 65 oed eu bod wedi lleihau faint o ynni maenn nhw’n ei ddefnyddio yn y cartref, tra bod 1 o bob 5 yn dweud eu bod nhw’n prynu cynnyrch ecogyfeillgar.[4]

Hefyd, mae sefydliadau pobl hŷn allweddol sy’n gweithio ar draws Cymru a’r DU, fel Cynghrair Pobl Hŷn Cymru a’r Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol, wedi galw am weithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gan ddangos pwysigrwydd y materion hyn i’w haelodau.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n herio’r mythau a’r camsyniadau hyn, sy’n gosod cenedlaethau iau a hŷn yn erbyn ei gilydd, yn ogystal â chyfrannu at naratifau oedyddol ehangach ynglŷn â phobl hŷn sy’n arwain at wahaniaethu. O ystyried maint y problemau sy’n ein hwynebu ar draws y byd, mae’n hanfodol ein bod ni’n unedig a bod pob cenhedlaeth yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. 

Dyna pam y byddaf, drwy gydol COP26, yn codi ymwybyddiaeth o’r camau y mae pobl hŷn yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â thynnu sylw at dystiolaeth ac ymchwil ynglŷn â’r effaith y mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar bobl hŷn.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod yn gofyn i bobl hŷn rannu eu straeon a rhoi gwybod i mi am y camau maen nhw’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a diogelu’r amgylchedd, ac mae’n amlwg bod llawer o bobl hŷn yn frwd dros achub y blaned.

Mae’r atebion yn dangos bod pobl hŷn ar draws Cymru’n cymryd camau bob dydd i ddiogelu’r amgylchedd – drwy ailddefnyddio ac ailgylchu, a lleihau eu defnydd o ynni – ac mae llawer o’r rheini a wnaeth ateb yn cymryd rhan weithredol mewn elusennau a sefydliadau amgylcheddol, fel Greenpeace, Extinction Rebellion ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru.

Mae hyn yn tanlinellu’r rôl hollbwysig y gallai pobl hŷn fod yn ei chwarae o ran ysgogi a gweithio gyda phobl eraill yn eu cymunedau i weithredu a dylanwadu ar ymateb arweinwyr gwleidyddol i’r argyfwng hinsawdd. Ond, os bydd y naratifau oedyddol yn ymwneud â phobl hŷn a’r newid yn yr hinsawdd yn parhau, mae perygl y bydd pobl hŷn – ynghyd â’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u hangerdd – yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan.

Fel y nodwyd uchod, mae’r newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael effaith ar bobl hŷn. Er enghraifft, mae’r lefelau cynyddol o lygredd a achosir gan y newid yn yr hinsawdd yn gallu gwaethygu cyflyrau iechyd sy’n fwy cyffredin ymysg pobl hŷn, fel COPD ac asthma, a chynyddu’r risg o gael trawiad ar y galon.[5] Ar ben hynny, mae cyfnodau o dymheredd eithafol sy’n cael eu hachosi gan y newid yn yr hinsawdd – cafodd Cymru ei rhybudd gwres eithafol cyntaf erioed yn ystod haf 2021 – yn creu risgiau iechyd penodol i bobl hŷn, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau ar y galon, diabetes a chyflyrau iechyd cronig eraill.

Yn yr un modd, mae tai oer sydd wedi’u hinswleiddio’n wael, sy’n cyfrannu’n sylweddol at y newid yn yr hinsawdd, yn effeithio’n uniongyrchol ar iechyd pobl hŷn, a hefyd yn cynyddu costau tanwydd, gan wthio pobl hŷn i dlodi tanwydd a’u gorfodi i ddewis a ydyn nhw’n rhoi gwres ymlaen neu’n bwyta.

Heb gymryd camau digonol, bydd y materion hyn, a’r effaith y maen nhw’n ei chael ar iechyd a lles pobl hŷn, yn parhau i dyfu. Ond drwy weithio gyda’n gilydd, gan gydnabod cyfraniad pobl hŷn a’r cyfraniad y gall pobl o bob oed ei wneud wrth ysgogi a gweithredu, mae gennym ni’r cyfle gorau posibl i roi diwedd ar y bygythiad y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi i bob un ohonom ni.



[1] https://www.kcl.ac.uk/policy-institute/assets/who-cares-about-climate-change.pdf

[2] Llywodraeth Cymru. (2021) Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau. Ar gael yn: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau

[3] ibid

[4] ibid

[5][5] US Environmental Protection Agency. (2021) Climate Change and the Health of Older Adults. Ar gael yn: https://www.cmu.edu/steinbrenner/EPA%20Factsheets/older-adults-health-climate-change.pdf

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges