Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Comisiynydd yn lansio ymgyrch i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i herio a thynnu sylw at y gwahaniaethu ar sail oedran dyddiol mae pobl hŷn yn ei wynebu.

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o sut mae gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar bobl hŷn a chymdeithas, a newid agweddau fel nad yw’r gwahaniaethu mae pobl hŷn yn ei wynebu yn cael ei weld fel rhywbeth derbyniol mwyach.

Mae’r Comisiynydd eisiau i bobl hŷn a’r cyhoedd rannu esiamplau o wahaniaethu ar sail oedran y maent wedi eu gweld neu ddod ar eu traws, fel ei bod yn gallu herio’r rhai sy’n defnyddio iaith sy’n gwahaniaethu ar sail oedran, yn cyfleu stereoteipiau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran neu’n gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd yn erbyn pobl hŷn, gan eu dal i gyfrif. Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Er gwaethaf dealltwriaeth gynyddol o ffurfiau eraill ar ragfarn a gwahaniaethu, a’r effaith mae’r rhain yn ei chael ar unigolion a’r gymdeithas, mae gwahaniaethu ar sail oedran i’w weld yn eang ac mae’n cael ei weld yn dderbyniol yn aml hefyd.

“Bob dydd, rydyn ni’n clywed iaith ac yn gweld lluniau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran ac yn cadarnhau stereoteipiau am bobl hŷn sydd â’u ffocws yn aml ar salwch, dirywiad a breguster. Yn aml iawn mae mynd yn hŷn yn cael ei gyflwyno fel rhywbeth i’w ofni yn hytrach na’i ddathlu.

“Mae hyn yn arwain at gymdeithas lle rydyn ni’n gweld gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill, yn ogystal ag ar y cyfryngau ac ym maes hysbysebu.

“Mae corff cynyddol o ymchwil yn dangos yr holl ffyrdd y mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cael effaith negatif ar bobl hŷn, gan effeithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, gwella o salwch, lefelau eithrio cymdeithasol a disgwyliad oes hyd yn oed.

“Felly mae mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran yn hanfodol a dyma pam rydw i wedi lansio fy ymgyrch Gwahaniaethu Ar Sail Oedran Pob Dydd heddiw – i dynnu sylw at ba mor amlwg yw gwahaniaethu ar sail oedran mewn cymdeithas a’r effaith arwyddocaol mae’n ei chael, ochr yn ochr â herio’n gadarn yr esiamplau o wahaniaethu ar sail oedran yr ydw i wedi’u gweld, a’r rhai sy’n cael eu rhannu gyda mi fel rhan o’r ymgyrch.”

I gefnogi’r ymgyrch, mae’r Comisiynydd wedi datblygu hwb #GwahaniaethuArSailOedranPobDydd, sy’n darparu amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol am adnabod a mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, ffeithiau a ffigurau defnyddiol ac astudiaethau achos sy’n dangos profiadau pobl hŷn.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi datblygu canllaw gwybodaeth newydd ar gyfer pobl hŷn – Gweithredu yn Erbyn Gwahaniaethu Ar Sail Oedran – a bydd hefyd yn cyflwyno cyfres o weithdai i’w helpu i adnabod gwahaniaethu ar sail oedran a’u grymuso i’w herio.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Rhaid i roi terfyn ar wahaniaethu ar sail oedran fod yn flaenoriaeth ar draws cymdeithas ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl hŷn, cyrff cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, busnesau a’r cyhoedd yn ehangach er mwyn herio a thynnu sylw at wahaniaethu ar sail oedran pob dydd. Drwy weithio gyda’n gilydd mae cyfle i ni newid agweddau a mynd i’r afael â’r gwahaniaethu ar sail oedran sy’n sail i gymaint o’r problemau mae pobl hŷn yn eu hwynebu heddiw.”

DIWEDD




Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges