“Mae’r sefyllfa rydyn ni wedi’i gweld mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig COVID-19 wedi bod yn drychinebus, ac rydw i’n poeni nad yw hawliau pobl hŷn wedi cael eu diogelu i raddau digonol – yn y lleoliadau hyn ac ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach.
“Mae’n hollbwysig ymchwilio i’r pryderon hyn, a’r pryderon mae pobl hŷn, eu teuluoedd a staff mewn cartrefi gofal ledled Cymru wedi’u codi. Rydw i’n credu mai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fyddai’r sefydliad gorau i ymchwilio i’r camau mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd a chraffu arnynt, fel rhan o ymchwiliad ehangach sy’n edrych ar brofiadau pobl hŷn a’r camau sydd wedi cael eu cymryd ledled y DU.
“Mae’n rhaid i hawliau pobl hŷn fod yn ganolog i’r camau gweithredu a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am yr hyn sy’n digwydd yn ein cartrefi gofal, ac rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n croesawu mesurau craffu allanol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a fydd yn helpu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu nawr ac yn y dyfodol.”