Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Comisiynydd yn galw am newid sylfaenol i wasanaethau seibiant yng Nghymru

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw am newid sylfaenol o ran sut mae pobl yn meddwl am wasanaethau seibiant a’r modd y cânt eu darparu yng Nghymru, yn sgil cyhoeddi adroddiad newydd sy’n tynnu sylw at brofiadau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia o wasanaethau seibiant.

Mae adroddiad Ailystyried Seibiant y Comisiynydd, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 26 Ebrill), yn esbonio nad yw gwasanaethau seibiant traddodiadol yn aml yn ddigon hyblyg i fodloni a diwallu anghenion pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, ac yn aml ni fyddant yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol.  Yn yr achosion gwaethaf, bydd gwasanaethau seibiant nad ydynt yn diwallu anghenion pobl yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd a’u lles, a gallant ddwyn eu hannibyniaeth oddi arnynt.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn dangos hefyd bod seibiant hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cyflwyno amrywiaeth o fanteision i ofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia, a bod dulliau arloesol yn aml yn arwain at ganlyniadau gwell gan hefyd gynnig gwerth gwell am arian.

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn ystod cyfres o sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd ledled Cymru gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, a rannodd eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau seibiant ac a fynegodd eu barn am sut y dylid eu gwella.

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Er i fy adroddiad ganfod sawl enghraifft o arfer da o ran darparu seibiant, yn amlach na pheidio mae’n yn canolbwyntio ar wahanu ac ar ddarparu ‘egwyl o’r baich gofal’.

Ond nid yw’r gwasanaethau traddodiadol hyn bob amser yn diwallu anghenion pobl yn effeithiol, a dyna pam mae angen i ni newid yn sylfaenol sut y caiff seibiant ei ddarparu.

“Mae angen i wasanaethau seibiant fod yn hyblyg, yn ymatebol ac yn hawdd i bobl gael gafael arnynt. Dylent gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia i gynnal eu perthnasau, parhau i fod yn annibynnol ac yn rhan o’u cymunedau, a chadw a datblygu sgiliau newydd”.

Mae’r adroddiad yn nodi amrywiaeth o gamau gweithredu sydd eu hangen i wella seibiant, ac mae’r Comisiynydd wedi dechrau trafod gyda sefydliadau allweddol – yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Rhwydwaith Dysgu – i archwilio sut gellir mynd i’r afael â’r materion a nodwyd ganddi.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i ddefnyddio canfyddiadau adroddiad Ail-ystyried Seibiant i lywio’r gwaith o ddatblygu camau a fydd yn cael eu cymryd o dan Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-2022. Bydd y Comisiynydd yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni’n ystyrlon.

Ychwanegodd y Comisiynydd: “Er bod fy adroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar brofiadau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, mae’r materion a nodwyd yn effeithio ar lawer o bobl eraill y mae angen seibiant arnyn nhw.

“Heb gamau ystyrlon i newid sut rydyn ni’n meddwl am seibiant a’r gwahaniaeth y gall ei wneud, bydd iechyd, lles ac annibyniaeth pobl yn parhau i fael eu tanseilio, gan arwain at gostau sylweddol i gyllid cyhoeddus ac, yn bwysicach oll, at gostau personol annerbyniol i unigolion”.

Cliciwch yma i lawrlwytho Ailystyried Seibiant ar gyfer Pobl a Effeithir gan Ddementia

Happy older man sitting at home with a walking stick

“We need to see a fundamental shift in thinking about the ways in which respite is delivered.”

Older People’s Commissioner for Wales, Sarah Rochira

“Respite services need to be easy to access, flexible and responsive, and should support people affected by dementia to maintain relationships, remain independent and engaged with their communities, and retain and develop new skills.”

The report sets out a range of action that is needed to improve respite, and the Commissioner has begun discussions with key organisations – including Social Care Wales and the Carers Learning and Improvement Network – to explore how the issues she has identified will be addressed. The Welsh Government has also made a commitment to use the findings of the Rethinking Respite report to inform the development of action that will be delivered under the Dementia Action Plan for Wales 2018-2022 and the Commissioner will work with the Cabinet Secretary to ensure this commitment is taken forward in a meaningful way.

The Commissioner added: “Although my report focuses specifically on the experiences of people affected by dementia, the issues identified affect many others who need respite.

“Without meaningful action to change the way we think about respite and understand the difference it can make, people’s health, wellbeing and independence will continue to be undermined, leading to significant costs to the public purse and, more importantly, unacceptable personal costs to individuals across Wales.”

Click here to read Rethinking for People Affected by Dementia

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges