Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwyf yn croesawu’r ymgynghoriad ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, ac ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu trafodaeth genedlaethol ar y mater pwysig hwn.
“Mae unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn effeithio ar fwy nag 1 o bob 4 person hŷn yng Nghymru a gall arwain at amryw o effeithiau niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol, sydd gyfystyr ag ysmygu 15 sigarét y dydd.
“Er fy mod yn croesawu ymrwymiad y gweinidog i sicrhau’r iechyd, lles ac ansawdd bywyd gorau posibl i bawb yng Nghymru, mae’n bwysig bod dull Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu anghenion penodol ein cymdeithas sy’n heneiddio.
“Mae mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn rhan hanfodol o fy nod o sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo, a byddaf yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r strategaeth sydd ar y gweill.”