Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cymru yn cynnal Ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, gan gymryd tystiolaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru.
“Bydd yr Ymchwiliad yn rhoi cyfle pwysig i Aelodau o’r Pwyllgor graffu ar y camau sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r methiannau annerbyniol a arweiniodd at gau ward Tawel Fan yn 2013.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen adroddiad y Pwyllgor ac rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi sicrwydd bod camau cadarnhaol wedi’u cymryd a bod systemau llywodraethu effeithiol ar waith i atal methiannau tebyg rhag digwydd eto.
“Fodd bynnag, pe bai’r Pwyllgor yn canfod bod angen cymryd camau pellach, byddwn yn disgwyl i’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i gyflawni’r newid angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pobl hŷn y mae angen cymorth gwasanaethau iechyd meddwl arnynt yng ngogledd Cymru yn cael mynediad at ofal a chymorth o’r radd flaenaf.”