Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
“Rwyf yn croesawu’r ffaith fod y Bil Taliadau Tywydd Oer, sy’n ceisio diwygio anghysondebau yn y system taliadau tywydd oer, wedi cael ei gyflwyno i Dŷ’r Cyffredin gan Hywel Williams, AS o Gymru, a’i fod wedi cael cefnogaeth trawsbleidiol.
“Bob blwyddyn yng Nghymru, ceir nifer fawr o farwolaethau y byddai modd eu hosgoi yn ystod y gaeaf (dros 1,800 yn ôl y ffigurau diweddaraf[1]) o ganlyniad i’r tywydd oer, ac mae pobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol yn aml yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng cynhesu eu tai neu fwyta.
“O dan y system taliadau tywydd oer bresennol, mae pobl hŷn mewn perygl o golli cyfleoedd i gael cymorth ariannol hanfodol yn ystod cyfnodau o dywydd oer parhaus, a hynny o ganlyniad i’r mecanweithiau a ddefnyddir i benderfynu a oes modd gwneud taliad tywydd oer.
“Os caiff y ddeddfwriaeth arfaethedig ei phasio, byddai’n sicrhau bod y ffyrdd o fynd i’r afael â’r broblem hon yn cael eu harchwilio, a fyddai’n gam cadarnhaol ymlaen.”
[1] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/datasets/excesswintermortalityinenglandandwalesreferencetables