Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru mai 60 fydd yr oedran cymwys i gael cerdyn bws rhatach o hyd.
Yn unol â chynigion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, roedd yn fwriad codi’r oedran cerdyn bws o 60 i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Byddai’r newid hwn wedi effeithio ar hyd at 300,000 o bobl hŷn.
Mae’r Comisiynydd wedi gwrthwynebu’r cynigion yn gyson ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi ei benderfyniad, gan ystyried bod teithio ar fws am ddim mor bwysig i gymaint o bobl hŷn ledled Cymru.
Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynydd mai 60 fyddai’r oedran cymwys i gael cerdyn bws o hyd yn ystod cyfarfod diweddar gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC.
Dywedodd Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd yr oedran cymwys i gael cerdyn bws yn codi, ac mai 60 fyddai o hyd.
“Fe wnes i wrthwynebu’r cynigion yn gyson, ac rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ailystyried yr effeithiau posib fyddai’n codi yn sgil newid yr oedran cymwys, a’i bod wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â hyn fel rhan o’r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru).
“Mae mynediad at deithiau bws am ddim yn fuddiol i bobl hŷn mewn sawl ffordd – mae’n helpu eu hiechyd, eu lles a’u hannibyniaeth ac yn eu galluogi nhw i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau, yn ogystal â’u helpu nhw gyda’u cyfrifoldebau gofalu a’u galluogi nhw i aros mewn gwaith neu gael mynediad at gyfleoedd dysgu neu hyfforddi.
“Wrth gwrs, mae mwy i’w wneud er mwyn gwella gwasanaethau trafnidiaeth ledled Cymru, ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu parhau i gadw mewn cysylltiad â’r byd a mynd i ble bynnag mae angen iddyn nhw fynd yn gyflym ac yn rhwydd.”