Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Comisiynydd Pobl Hŷn yn ‘siomedig ac yn bryderus’ bod nifer sylweddol o bobl hŷn mewn cartrefi gofal yn dal i aros i gael eu brechu

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno brechiad y coronafeirws a chyflymder y broses honno yn ôl pob tebyg yn ystod yr wythnosau diwethaf yn rhywbeth i’w groesawu wrth gwrs, a hoffwn ddiolch i’r timau a’r gwirfoddolwyr ledled Cymru oedd yn rhan o’r gwaith o frechu am eu holl waith caled.

“Fodd bynnag, yn ôl y ffigyrau sydd newydd gael eu cyhoeddi, mae’n siomedig ac yn bryderus bod cyfran sylweddol o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru – tua chwarter ohonyn nhw– yn dal i aros i gael eu brechu, er gwaetha’r ffaith eu bod ar frig rhestr flaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

“Mae hefyd yn siomedig na roddodd Llywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth ynglŷn â pha bryd y byddai brechiadau’n cael eu rhoi i breswylwyr; er eu bod wedi cadarnhau y byddai timau brechu’n ymweld â chartrefi gofal.

“Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i leisio fy mhryderon ynglŷn â’r oedi hwn, ac wedi gofyn iddyn nhw roi amserlen fanwl i mi yn nodi pryd maen nhw’n disgwyl y bydd yr holl bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn cael eu dos cyntaf o’r brechiad. Rwyf hefyd eisiau sicrhad na fydd yr oedi hwn yn effeithio ar roi’r brechiad i grwpiau blaenoriaeth eraill nac ar roi’r ail ddos i bobl. 

“Mae pob dos o’r brechiad sy’n cael ei roi i bobl hŷn yn cynnig gwarchodaeth i’r rhai sydd fwyaf bregus ac yn lleihau’r posibilrwydd o gael eu taro’n wael gan y coronafeirws. Mae unrhyw oedi yn y broses o frechu pobl sydd mewn grwpiau blaenoriaeth yn golygu bod iechyd a bywydau pobl hŷn mewn perygl.

“Byddaf felly’n parhau i graffu’n fanwl ar y gwaith o gyflwyno’r brechiad, i sicrhau bod pob ymdrech bosibl yn cael ei gwneud i sicrhau bod y bobl sydd mewn grwpiau blaenoriaeth yn cael eu brechiadau cyn gynted â phosibl.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges