Angen Help?
An older woman looking despondent with a Christmas tree behind her

Comisiynydd Pobl Hŷn yn galw am fwy o gefnogaeth i atal pobl rhag teimlo’n unig ac yn ynysig yng Nghymru

i mewn Newyddion

Comisiynydd Pobl Hŷn yn galw am fwy o gefnogaeth i atal pobl rhag teimlo’n unig ac yn ynysig yng Nghymru

Gallai pobl hŷn ledled Cymru fod mewn mwy o berygl o deimlo’n unig ac ynysig oni ddarperir rhagor o gefnogaeth i grwpiau a sefydliadau cymunedol y mae eu gwaith yn darparu cefnogaeth ac yn estyn allan i bobl hŷn a allai fod yn unig.

Dyna’r rhybudd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth i dystiolaeth a data ddatgelu nad yw pobl hŷn yn mynd allan i’w cymunedau ac yn cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu yn y ffyrdd yr oeddent cyn y pandemig.

Mae hyn yn destun pryder gan y gall unigrwydd gynyddu’n sylweddol y risg o amrywiaeth o broblemau iechyd corfforol a meddyliol negyddol, gan gynnwys dementia (50%) strôc (32%) a chlefyd y galon (29%). Gall unigrwydd ac unigedd cymdeithasol hefyd gynyddu’r risg o farwolaeth gynnar hyd at 26%.

Daw rhybudd y Comisiynydd wrth iddi gyhoeddi papur briffio newydd sy’n tynnu sylw at yr ymchwil ddiweddaraf i effaith unigrwydd gan archwilio’r materion a’r heriau a grëwyd gan y pandemig. Un o’r canfyddiadau yw bod y defnydd o’r tocynnau bws rhatach yng Nghymru wedi gostwng tua 50% ers y pandemig sy’n dangos nad yw nifer sylweddol o bobl hŷn bellach yn defnyddio gwasanaethau bysiau i’w cysylltu â’u cymunedau.

Yn ei sesiwn friffio, mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gefnogaeth i grwpiau a sefydliadau cymunedol y mae eu gwaith yn chwarae rhan hanfodol i ddiogelu pobl hŷn rhag unigrwydd a chefnogi pobl hŷn a allai fod yn teimlo’n unig.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru ei strategaeth unigrwydd ar gyfer 2020 i sicrhau ei bod yn dal yn addas i’r diben ac yn adlewyrchu’r materion a’r heriau ôl-bandemig sy’n wynebu pobl hŷn ac yn nodi sut y bydd pobl hŷn yn mynd i’r afael â’r rhain.

Meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Rydyn ni’n gwybod y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl hŷn, ac rwy’n pryderu bod effaith y pandemig yn golygu bod risg uwch i lawer o bobl hŷn deimlo’n unig neu fynd yn ynysig.

“Mae aelodau o grwpiau pobl hŷn ledled Cymru wedi dweud wrthyf fod y niferoedd sy’n mynychu grwpiau cymdeithasol a gweithgareddau yn dal heb ddychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig, tra bod ymchwil i’r defnydd o’r tocynnau bws yng Nghymru yn awgrymu bod llawer llai o bobl hŷn bellach yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd allan i’w cymunedau a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n gwneud cymaint i atal a lliniaru unigrwydd yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt fel y gallan nhw barhau i ddarparu gwaith allgymorth a gweithgareddau hanfodol ledled Cymru wedi’u targedu at bobl hŷn a allai fod yn unig.

“Rwy’n gobeithio bod yr angen am y gefnogaeth hon yn cael ei adlewyrchu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf, gan fod y sefydliadau hyn yn chwarae rhan hanfodol i gefnogi iechyd, lles ac annibyniaeth pobl hŷn.

“Yn y tymor hir, rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth unigrwydd a’i diweddaru lle bo hynny’n briodol i sicrhau ei bod yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pobl hŷn yn dilyn y pandemig.

“Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod y camau sy’n cael eu cyflawni ledled Cymru yn dal i fod yn briodol ac yn effeithiol, ac yn ategu strategaethau a chynlluniau dilynol eraill, megis Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio Llywodraeth Cymru, a byddai’n sicrhau ffocws o’r newydd ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ar draws y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.”

Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae’r Comisiynydd hefyd am i ni gyd feddwl am y camau y gallem eu cymryd os bydd rhywun yr ydym yn ei adnabod – boed yn aelod o’r teulu, yn ffrind neu’n gymydog – yn teimlo’n unig.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Gall y Nadolig fod yn adeg arbennig o anodd o’r flwyddyn i bobl sy’n teimlo’n unig, a dyna pam rwy’n annog pawb i feddwl am y bobl rydyn ni’n eu hadnabod yn ein bywydau ein hunain a allai fod yn y sefyllfa hon ac estyn allan atynt.

“Gallai hyn wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n teimlo’n unig, felly ceisiwch estyn allan at eraill os gallwch.”

DIWEDD

Darllenwch Briffio y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges