Canfu adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru nad yw pobl hŷn ledled Cymru yn aml yn gallu cael mynediad at wasanaethau eiriolaeth, sy’n hanfodol i helpu pobl i leisio eu barn a sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu.
Canfu’r adroddiad – Sicrhau Lleisiau i Bobl Hŷn: Mynediad Pobl Hŷn at Eiriolaeth Annibynnol yng Nghymru – hefyd nad yw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol bob amser yn deall hawliau cyfreithiol pobl i gael eiriolaeth mewn amgylchiadau penodol a bod diffygion yn y ddeddfwriaeth bresennol a’r modd y caiff ei gweithredu yn gallu atal pobl rhag cymryd rhan yn llawn pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu bywydau.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth a gasglwyd gan bobl hŷn a gofalwyr ledled Cymru sydd wedi cael eu cefnogi gan eiriolwyr annibynnol, darparwyr eiriolaeth, y rheini sy’n comisiynu gwasanaethau a rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan.
Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Mae sicrhau bob gan bobl hŷn lais cryf er mwyn llywio a chyfrannu at benderfyniadau a gaiff eu gwneud am eu bywydau nhw mewn modd ystyrlon yn allweddol i ddarparu gwasanaethau o safon a’r canlyniadau y mae ar bobl eu heisiau a’u hangen.
“I rai pobl hŷn, yr unig ffordd o gyflawni hyn fydd gyda chymorth eiriolwr annibynnol a all gynrychioli eu barn a siarad ar eu rhan.
“Ond fel y gwelir yn fy adroddiad, nid yw pobl hŷn yn aml yn gwybod bod y math yma o gymorth ar gael ac yn aml ni allant gael mynediad ato, hyd yn oed mewn achosion pan fo ganddynt hawl gyfreithiol i’w gael, sy’n gwbl annerbyniol”.
Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i gymryd amrywiaeth o gamau i gael gwared ar y rhwystrau y bydd pobl hŷn yn aml yn eu hwynebu wrth gael mynediad at eiriolaeth annibynnol, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth ymhlith pobl hŷn; gwneud ‘cynnig gweithredol’ o eiriolaeth i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, a allai fod yn fregus; hyfforddiant ar gyfer y gweithlu; a dulliau gwell o gynllunio a chasglu data i nodi a mynd i’r afael â bylchau posib yn yr eiriolaeth a ddarperir.
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Pan na fydd gan bobl hŷn lais cryf, bydd hyn yn tanseilio eu hunaniaeth, eu hyder a’u hawliau yn sylweddol. Mae eiriolaeth annibynnol yn allweddol i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac y gwrandewir arnynt. Mae hyn yn hollbwysig i roi dewis a rheolaeth iddynt dros eu bywydau.
“Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus felly gymryd y camau angenrheidiol, fel y nodir yn fy adroddiad, i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael a’u bod yn gynaliadwy a bod pobl hŷn ledled Cymru, yn arbennig y rhai mewn sefyllfaoedd bregus, yn gallu cael mynediad at eiriolaeth annibynnol pe bai arnynt ei hangen.”