Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Canllawiau newydd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn oes ddigidol

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi defnyddio ei phwerau cyfreithiol i gyhoeddi canllawiau ffurfiol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru, gan nodi’r camau y dylent fod yn eu cymryd er mwyn i bobl hŷn allu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau mewn byd sy’n gynyddol ddigidol – sy’n hanfodol i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u cynnal.

Mae’r canllawiau’n nodi sut dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd sicrhau bod gan bobl nad ydynt (neu nad ydynt yn dymuno) mynd ar-lein ffyrdd o gael gafael ar yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt drwy ddulliau nad ydynt yn rhai digidol, ac y dylid darparu cymorth i helpu pobl hŷn i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn hyderus.

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi’r canllawiau mewn ymateb i’r newid cyflym rydym wedi’i weld yn y ffordd mae llawer o wasanaethau’n cael eu darparu oherwydd y pandemig, sydd hefyd wedi nodi effaith y rhaniad digidol difrifol yng Nghymru.

Datblygwyd y canllawiau mewn partneriaeth â phobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol, ac fe’u cyhoeddwyd dan Adran 12 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, sy’n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd roi sylw i’r canllawiau wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn golygu bod y ffyrdd rydym yn cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau wedi newid yn sylweddol, rhywbeth sydd wedi cyflymu’n arw yn ystod y pandemig, gydag amrywiaeth o wasanaethau digidol newydd nawr yn cael eu darparu gan gyrff cyhoeddus ledled Cymru.

“Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni hefyd wedi gweld effaith allgáu digidol ar bobl hŷn, a’r anawsterau a’r rhwystrau y gall allgáu digidol eu creu wrth geisio cael gafael ar gyngor a chymorth.

“Felly yn ogystal â galw am weithredu i sicrhau bod pobl hŷn nad ydynt ar-lein yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n addas iddynt, mae fy nghanllawiau hefyd yn nodi’r angen am weithredu pellach i gefnogi pobl hŷn sydd eisiau mynd ar-lein i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny.

“Er fy mod yn gwybod bod arferion da ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru, bydd cyhoeddi canllawiau ffurfiol yn sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn deall yn llawn y camau y dylent fod yn eu cymryd, yn ogystal â’u dyletswyddau dan ddarnau allweddol o ddeddfwriaeth fel y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Hawliau Dynol.”

Mae’r Comisiynydd wedi gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddarparu manylion am y camau maent yn eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol, a bod pobl hŷn sydd eisiau mynd ar-lein yn cael cymorth i wneud hynny. Bydd hi’n adolygu ac yn monitro’r camau hynny er mwyn canfod arferion da y gellid eu cyflwyno’n ehangach, yn ogystal â bylchau posibl lle mae angen gweithredu ymhellach.

Ochr yn ochr â chyhoeddi ei chanllawiau, mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi llyfryn newydd ar gyfer pobl hŷn, sy’n rhoi gwybodaeth am yr hyn y dylent ei ddisgwyl o ran cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, a lle gallant droi am gymorth a chefnogaeth os ydynt yn wynebu anawsterau. Mae’r daflen ar gael ar-lein, ac mae’n cael ei dosbarthu ar ffurf copi caled drwy grwpiau pobl hŷn ledled Cymru a thrwy awdurdodau lleol.

Cliciwch yma i ddarllen Canllawiau’r Comisiynydd

Cliciwch yma i lwytho’r llyfryn gwybodaeth i lawr ar gyfer pobl hŷn

 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges