- Mae Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO) wedi cyhoeddi canllawiau i newyddiadurwyr wrth ysgrifennu am bobl hŷn a heneiddio. Mae’r canllawiau i’w cael ar adran adnoddau allanol ei wefan.
- Yn y DU, oedraniaeth yw’r math mwyaf cyffredin o wahaniaethu, gydag un o bob tri o bobl yn profi rhagfarn neu wahaniaethu ar sail oedran
- Mae ymchwil yn dangos bod y cyfryngau yn dueddol o gynrychioli heneiddio a henaint fel cyfnod o ddirywiad ac eiddilwch, gyda phobl hŷn yn aml yn cael eu hystyried yn fregus yn eu hanfod.
Mae’r canllawiau ar gyfer gohebu ar heneiddio a henaint, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Heneiddio’n Well a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wedi eu cynnwys yn adnoddau allanol Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO) ar gyfer newyddiadurwyr. Mae’r canllawiau wedi’u cynllunio i sicrhau bod pobl hŷn a’u profiadau’n cael eu hadlewyrchu a’u cynrychioli’n fwy cywir yn y cyfryngau.
Mae’r canllawiau’n annog newyddiadurwyr a golygyddion i symud oddi wrth stereoteipiau a chroesawu portreadau mwy realistig o fywyd wrth fynd yn hŷn, i ddefnyddio terminoleg sy’n well gan bobl hŷn – fel ‘pobl hŷn’ yn hytrach na ‘henoed’ – ac i osgoi gwahaniaethu ar sail oedran, lle mae pobl hŷn yn cael eu trin a’u disgrifio fel pobl sy’n agored i niwed neu’n anghenus.
Cynghorir newyddiadurwyr a golygyddion hefyd i beidio â hybu gwrthdaro rhwng cenedlaethau na chyflwyno henaint fel baich cymdeithasol. Hefyd, mae’r canllawiau’n awgrymu bod y rheini sy’n gweithio yn y cyfryngau yn tynnu sylw at yr amrywiaeth sy’n bodoli o fewn cenedlaethau, ac y dylent ddeall y gwahaniaethau rhwng anghydraddoldeb mewn cyfoeth a gwrthdaro rhwng y cenedlaethau.
Mae Heneiddio’n Well a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu parodrwydd y rheoleiddiwr i rannu’r canllawiau hyn. Rydym yn gobeithio y bydd yn gam cyntaf tuag at ddiweddaru Cod y Golygyddion i gynnwys oedran fel nodwedd warchodedig. Ar hyn o bryd mae oedran yn un o’r ychydig nodweddion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Cod. Byddai ychwanegu oedran yn galluogi proses briodol ar gyfer sicrhau ansawdd a phriodoldeb cyfeiriadau at oedran a straeon sy’n ymwneud â phobl hŷn, meddai’r sefydliadau.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae gan y cyfryngau rôl hanfodol i’w chwarae o ran mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran drwy wneud yn siŵr bod straeon am bobl hŷn yn adlewyrchu’r amrywiaeth o brofiadau ac nad ydynt yn atgyfnerthu stereoteipiau a thybiaethau negyddol am fynd yn hŷn.
“Felly rydyn ni’n falch iawn bod IPSO wedi cynnwys ein canllawiau newydd fel rhan o’i adnoddau defnyddiol, gan roi gwybodaeth a chyngor syml ac ymarferol i newyddiadurwyr am ohebu ar heneiddio a phobl hŷn.
“Mae hwn yn gam pwysig tuag at ein nod tymor hwy o sicrhau bod y Cod Golygyddion yn cael ei ddiweddaru i gynnwys ‘Oedran’ fel nodwedd warchodedig, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda ISPO a newyddiadurwyr i gael y maen i’r wal, fel rhan o’n gwaith ehangach i fynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran.”
Dywedodd Carole Easton, Prif Weithredwr y Ganolfan Heneiddio’n Well:
“Mae cynnwys y canllawiau hyn yn gam hollbwysig ymlaen o ran sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu’n fwy cywir yn y cyfryngau.
“Mae Cymal 12 yng Nghod y Golygyddion yn nodi disgwyliadau o ran osgoi gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae eithrio oedran o fewn y cod yn ddiffyg mawr. Mae oedran yn un o’r Nodweddion Gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a dylai gael yr un amddiffyniad ag unrhyw fath arall o nodwedd – gan gynnwys wrth ohebu yn y cyfryngau.”
Dywedodd Jane Debois, Pennaeth Safonau a Rheoleiddio IPSO:
“Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r canllawiau hyn gan y Ganolfan Heneiddio’n Well a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar ein gwefan fel rhan o’r detholiad o adnoddau allanol rydyn ni’n eu darparu i newyddiadurwyr sydd â diddordeb mewn gohebu am bynciau penodol.
“Mae’r canllawiau hyn ar wahân i’r Cod i Olygyddion ond gallent fod o ddiddordeb i newyddiadurwyr sy’n adrodd ar faterion sensitif a heriol.”