Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Briffio: Mynd i’r afael â chost yr argyfwng tanwydd i bobl hŷn

i mewn Newyddion

Mae papur brifio diweddaraf y Comisiynydd yn nodi’r camau mae hi’n galw amdanynt gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â chost yr argyfwng tanwydd i bobl hŷn:

Ehangu’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Rhaid i Lywodraeth Cymru newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer ei Chynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i wneud yn siŵr bod pobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn yn cael y cymorth ariannol sydd wir ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn gallu cynhesu eu cartref, a chadw eu hunain yn ddiogel ac yn iach y gaeaf hwn. 

Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn 

Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar unwaith i hyrwyddo Credyd Pensiwn i bobl hŷn drwy ymgyrch genedlaethol ar y teledu, ar y radio ac yn y wasg, a gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i ganfod yr unigolion hynny sydd fwyaf tebygol o fod yn gymwys, a darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt i hawlio’r arian y mae ganddynt hawl iddo.

Mynd i’r afael ag achosion ehangach tlodi tanwydd 

Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ehangu rhaglenni’n gyflym i wella effeithlonrwydd ynni a thanwydd cartrefi pobl hŷn, a phwyso ar Lywodraeth y DU i archwilio ffyrdd o leihau costau ynni a chodi lefel y Taliad Tanwydd Gaeaf a chymorth arall, fel Credyd Pensiwn. 

Gallwch ei ddarllen yma


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges