Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi croesawu data sy’n dangos bod y nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn o’r newydd wedi cynyddu yn ystod y cyfnod pan gynhaliodd ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o’r hawl ariannol pwysig hwn.
Ym mis Hydref 2019, bu’r Comisiynydd yn gweithio’n agos â Trafnidiaeth Cymru i gynnwys taflen wybodaeth am y Credyd Pensiwn gyda phob cerdyn teithio rhatach newydd a oedd yn cael ei anfon at bawb yng Nghymru sydd dros 60 oed.
Fe wnaeth yr ymgyrch daflenni hwn, y cytunodd Llywodraeth Cymru i’w gefnogi’n ariannol, gyrraedd dros 500,000 o bobl hŷn yng Nghymru, gyda 390,000 o’r rhain yn cael eu danfon ym mis Hydref a mis Tachwedd 2019.
Mae data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos bod nifer yr hawlwyr newydd, yn ystod y cyfnod hwn, yn 26% yn uwch na’r ffigur cyfartalog ym mhob chwarter dros y ddwy flynedd diwethaf.1
Mae amcangyfrifon a gyfrifwyd gan y Comisiynydd gan ddefnyddio data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn dangos bod y cynnydd hwn yn nifer yr hawlwyr newydd yn werth dros £10,000 yr wythnos i bobl hŷn ar draws Cymru, a byddai hynny’n £500,000 yn ychwanegol dros flwyddyni helpu rhai o’n cymunedau tlotaf.2
Ffigur 1: Nifer yr hawlwyr Credyd Pensiwn newydd yng Nghymru fesul chwarter3
Fodd bynnag, nid yw’r ymgyrch hwn ond yn megis crafu wyneb yr amcangyfrif o £214m o Gredyd Pensiwn a aeth heb ei hawlio yng Nghymru yn 2018/19.4 Mae Credyd Pensiwn werth £58 yr wythnos ar gyfartaledd i rai sy’n gymwys ac mae’n datgloi llu o hawliadau eraill, megis disgowntiau ar y dreth gyngor, gofal deintyddol am ddim a help gyda chostau tai, gan roi cymorth ariannol pellach i bobl hŷn.
Mae bron 1 o bob 5 person hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol5 a gall Credyd Pensiwn wneud y gwahaniaeth i filoedd lawer o’r bobl hŷn hyn sy’n byw yn ein cymunedau tlotaf.
Mae ymgyrch y Comisiynydd yn amlygu’r gwerth y gall ymyraethau, i helpu pobl i hawlio’r hyn mae ganddynt yr hawl iddo, ei roi i bobl hŷn ac mae ei hadroddiad Gadael Neb ar Ôl wedi galw am fuddsoddi mewn ymgyrch wedi’i dargedu ac am gymorth i sicrhau bod rhagor o bobl yn hawlio Credyd Pensiwn fel rhan bwysig o adferiad Cymru ar ôl Covid-19.6
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi7 yn gam cyntaf sydd i’w groesawu at gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn, a hawliadau ariannol eraill, ond mae angen gweithredu ymhellach yn genedlaethol ac yn lleol i gael y nifer fwyaf bosibl o bobl hŷn gymwys i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt.
1Cyrchwyd y data drwy gronfa ddata Stat-Xplore yr Adran Gwaith a Phensiynau – www.stat-xplore.dwp.gov.uk
2Mae’r cyfrifiadau’n seiliedig ar werth canolrifol yr hawliadau ar gyfer nifer yr hawlwyr newydd ym mhob swm budd-dal sydd wedi’u grwpio
3Hyd yr hawliad: hyd at 3 mis – Mae hyd yn cyfeirio at ers faint y bu’r hawliad yn cael ei dalu ar y system budd-daliadau pensiwn ar ddiwedd y chwarter adrodd. Caiff yr hyd ei gyfrifo o’r mis y mae’r taliad yn dechrau (h.y. ar ôl cwblhau’r broses gofrestru a gwneud y penderfyniad).
4Independent Age (2020) Pension Credit: a closer look. Ar gael yn: https://www.independentage.org/pension-credit-a-closer-look [Cyrchwyd 16 Mawrth 2021]
5Llywodraeth Cymru. (2020). Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2018 i Mawrth 2019. Ar gael yn: https://llyw.cymru/tlodi-incwm-cymharol-ebrill-2018-i-fawrth-2019 [Cyrchwyd 16 Mawrth 2021]
6Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2020). Gadael Neb ar Ôl: Camau Gweithredu ar gyfer Adferiad o Blaid Pobl Hŷn. Ar gael yn: https://www.olderpeoplewales.com/cy/reviews/leavenoonebehind.aspx [Cyrchwyd 16 Mawrth 2021]
7Llywodraeth Cymru (2021) Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi. Ar gael yn: https://llyw.cymru/hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi [Cyrchwyd 16 Mawrth 2021]