Angen Help?
An older woman holding a large version of the Universal Declaration of Human Rights

Blog y Comisiynydd: UDHR 75 – Ysgrifennu’r bennod nesaf ar hawliau dynol yng Nghymru

i mewn Newyddion

UDHR 75 – Ysgrifennu’r bennod nesaf ar hawliau dynol yng Nghymru

Heddiw, mae’n 75 mlynedd ers i aelodau’r Cenhedloedd Unedig o bob cwr o’r byd bleidleisio dros fabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, sy’n nodi ein hawliau sylfaenol a’n rhyddid sylfaenol. Mae’n nodi bod y rhain yn hanfodol, yn ddiymwad ac yn berthnasol i bawb.

Roedd y ddogfen arloesol hon yn gosod y sylfaen ar gyfer cyfraith hawliau dynol ryngwladol, ac mae wedi ysbrydoli amrywiaeth eang o gytuniadau, offerynnau hawliau dynol a deddfwriaeth ddomestig, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac, wedi hynny, Deddf Hawliau Dynol 1998 y DU.

Roedd hyn yn sail i ragor o ddeddfwriaeth i sefydlu nifer o gyrff a sefydliadau arbenigol allweddol – gan gynnwys sefydlu rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – gydag ystod o bwerau statudol i graffu ar waith llywodraethau a chyrff cyhoeddus, ac i archwilio a ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau i gynnal hawliau pobl.

Mae hyn yn hanfodol, nid yn unig i ddiogelu ac i gefnogi unigolion, ond hefyd i alluogi newid ar lefel gymdeithasol, a dyna pam mae diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn parhau i fod yn un o’m blaenoriaethau craidd fel Comisiynydd.

Mae’n hawdd i ni gymryd ein hawliau dynol yn ganiataol am nad ydynt, o bosibl, yn ymddangos fel pethau sy’n rhan amlwg o’n bywydau o ddydd i ddydd. Felly, yn ddealladwy, mae’n bosibl nad ydym yn llwyr werthfawrogi eu pwysigrwydd nes ein bod mewn sefyllfa lle mae ein hawliau dan fygythiad.

Dangosodd y pandemig i ni pam mae hawliau dynol mor bwysig. Roedd hefyd yn tynnu sylw at y risgiau penodol y gallem eu hwynebu o ran ein hawliau wrth i ni fynd yn hŷn, pan allai fod angen mwy o wasanaethau a chymorth arnom.

Er enghraifft, gwelsom achosion posibl o dorri hawliau pobl i ryddid, a’r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, sydd wedi’u hymgorffori yn Erthyglau 5 ac 8 y Ddeddf Hawliau Dynol, gyda llawer o bobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal yn wynebu cyfyngiadau sylweddol am amser hir, ac yn methu â chael cyswllt wyneb yn wyneb â’u hanwyliaid, am fisoedd lawer mewn rhai achosion, er bod y cyfyngiadau wedi llacio mewn rhannau eraill o gymdeithas.

Dyna pam y bu i mi weithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i graffu ar benderfyniadau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chartrefi gofal. Yna, sefydlais grŵp o arbenigwyr yn y DU i gydweithio i gryfhau hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, ac i sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn gwybod beth yw eu hawliau, a’u bod yn deall ac yn arfer yr hawliau hynny. Mae hyn yn cynnwys camau ymarferol, fel creu canllaw ar hawliau pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal. Mae’r canllaw hwn wedi cael ei ddosbarthu i bob cartref gofal yng Nghymru.

Mae deall ein hawliau dynol a’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli i’n hamddiffyn yn arbennig o bwysig mewn cyfnodau o argyfwng, fel y pandemig, ac mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Er enghraifft, gan ddefnyddio fy mhwerau cyfreithiol fel Comisiynydd, cyhoeddais ganllawiau ffurfiol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn nodi’r camau y dylent fod yn eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol. Mae’r canllawiau hyn yn nodi hawliau pobl i gael gafael ar wybodaeth dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae’n dangos sut mae’r confensiynau a’r cyfreithiau hyn yn cael eu cymhwyso’n ymarferol i gynnal hawliau pobl hŷn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gorfod ymdopi â heriau’r pandemig, yr argyfwng costau byw, a chanlyniadau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Rydym hefyd wedi gweld y niwed a’r dioddefaint a achosir gan agweddau oedraniaethol a gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn. Dyma’r adeg pan fo angen mwy o ymwybyddiaeth a mwy o weithredu i sicrhau bod dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau dynol yn llywio’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn helpu i’n hamddiffyn rhag agweddau oedraniaethol a gwahaniaethu.

Felly, ochr yn ochr â nodi beth y gellir ei wneud yma yng Nghymru i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn well – a allai gynnwys deddfwriaeth hawliau dynol sy’n benodol i Gymru neu Fil Hawliau Pobl Hŷn – mae angen i ni hefyd ystyried y rôl y gallai gweithredu ar lefel ryngwladol, fel Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Hŷn, ei chwarae wrth fwrw ymlaen â’r agenda hawliau dynol.

Dyna pam y byddaf yn cynnal gweminar ar 1 Chwefror 2024 i edrych ar sut y gellir gwireddu hawliau dynol ym mywydau bob dydd pobl hŷn, a’r dulliau sydd ar gael, yng Nghymru a thu hwnt, i wreiddio hawliau dynol ym mhob rhan o bolisi ac ymarfer.

Drwy ddod â phobl hŷn, arbenigwyr hawliau a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd, rwyf eisiau ysbrydoli cyfranogwyr i feddwl yn wahanol am hawliau pobl hŷn, ac annog datblygu dulliau ac arferion newydd – ar lefel strategol a gweithredol – sy’n seiliedig ar hawliau dynol.

I gael rhagor o wybodaeth am weminar y Comisiynydd, neu i archebu eich lle, ewch i: https://forms.office.com/e/Sh8z67yNA2

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges