Yr wythnos hon, bydd dathliadau’n cael eu cynnal ledled y wlad wrth i’r GIG gyrraedd carreg filltir hollbwysig – 75 mlynedd ers ei sefydlu yn 1948.
Fel gwasanaeth y byddwn yn dod ar ei draws o’r diwrnod y cawn ein geni, gwasanaeth sy’n achub bywydau, gwasanaeth lle mae’r golau ymlaen bob amser, nid yw’n syndod bod gan y GIG le arbennig yng nghalonnau pobl ers iddo gael ei sefydlu fel y system iechyd gyffredinol gyntaf yn y byd i fod ar gael i bawb yn rhad ac am ddim lle caiff ei ddefnyddio.
Mae’r effaith gadarnhaol y mae’r GIG wedi’i chael ar gymdeithas yn berffaith glir, ac mae’n cefnogi cymaint o agweddau ar ein hiechyd a’n llesiant, ac yn ein helpu ni i fyw bywydau hirach ac iachach. I nifer sylweddol o bobl, llawer ohonynt yn bobl hŷn, mae’r GIG yn eu galluogi i fyw’n annibynnol a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Wrth i ni ddathlu’r gwahaniaeth y mae’r GIG wedi’i wneud ers 1948, ac yn parhau i’w wneud hyd heddiw, rydw i’n credu ei bod yn bwysig cofio bod llawer o bobl, sydd bellach yn hŷn, wedi chwarae rhan yn y gwaith o wneud y GIG yr hyn ydyw heddiw – boed hynny drwy ddarparu gofal a chymorth, neu drwy gyflwyno syniadau a datblygiadau arloesol.
Wrth i ni ystyried sut beth yw dyfodol y gwasanaeth iechyd, mae’n hanfodol bod lleisiau a syniadau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod byrddau iechyd yn ymateb iddyn nhw, a bod eu profiadau’n cael eu defnyddio i sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau.
Fel rhan o unrhyw drafodaeth neu ddadl ynghylch sut gallwn ni adeiladu ar lwyddiant y 75 mlynedd diwethaf, a darparu gwasanaeth iechyd modern ac effeithiol sy’n diwallu ein hanghenion ac yn cynnal ein hawliau, mae angen i ni sicrhau bod pobl o bob oed – gan gynnwys pobl hŷn – yn cael eu grymuso a bod eu lleisiau’n cael eu clywed.