Ers gormod o amser, ni roddwyd digon o werth ar ofal – taledig a di-dâl. Nid yw gofal cymdeithasol wedi derbyn y buddsoddiad parhaus angenrheidiol; nid yw gweithwyr gofal a gofalwyr di-dâl wedi derbyn digon o gydnabyddiaeth na chefnogaeth. Ni all hyn barhau. Mae’n amser am adnoddau, cydnabyddiaeth a chydraddoldeb gyda’r GIG.
Mae gofal cymdeithasol yn hollbwysig i bob un ohonom, ac ar ryw gyfnod yn ein bywydau bydd ei angen ar y rhan fwyaf ohonom i ni ein hunain neu rywun annwyl i ni. Mae gofal cymdeithasol yn llawer mwy na dim ond derbyn gofal pan fydd ei angen – mae’n ein helpu i arfer ein hawliau, i fyw’n annibynnol, ac i gymryd rhan a chyfrannu mewn cymdeithas. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae rôl hollbwysig gofal cymdeithasol a’r heriau sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol wedi dod yn fwy gweladwy i’r cyhoedd wrth i sylw gael ei roi i’r hyn sy’n digwydd mewn cartrefi gofal, ond rhoddwyd llawer llai o sylw i’r heriau tebyg sy’n wynebu gofal cartref.
Felly, gyda gofal cymdeithasol yn derbyn sylw nas gwelwyd ei debyg o’r blaen o bosibl, beth sydd ei angen yn awr i ddiogelu gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol?
Yn gyntaf, mae’r ffordd y mae’r drafodaeth a’r gofal cymdeithasol a’r cwestiynau sy’n cael eu holi yn cael eu fframio yn hollbwysig. Mae’n rhaid canolbwyntio ar bwysigrwydd gofal cymdeithasol ynddo’i hun – nid dim ond beth gall ei wneud i’r GIG, er mor bwysig yw hynny. Nid bwriad gofal cymdeithasol yw gwasanaethu’r GIG yn unig a helpu’r GIG i weithio’n effeithiol. Mae’n bartner cyfartal, ac mae angen deall a pharchu hyn.
Yn ail, mae’n rhaid sicrhau bod hawliau unigol yn ganolbwynt iddo ac ymrwymiad mewn cyfraith ac arfer i sicrhau cydraddoldeb. Ni ddylai bod unrhyw ragfarn ar sail oedran yn y dull gweithredu neu wahaniaethu ar sail oedran yn y ffordd y mae adnoddau’n cael eu dyrannu. Bydd hyn yn golygu newidiadau i’r ffordd y gwneir pethau yn awr.
Yn drydydd, mae angen cydnabyddiaeth, cefnogaeth a gwobrwyon priodol. Ni all fod yn iawn fod pobl sy’n gwneud yr un swyddi neu swyddi tebyg iawn yn derbyn lefel wahanol o gyflog, gyda thelerau ac amodau gwahanol, yn ôl a ydynt yn gweithio i’r GIG neu ofal cymdeithasol, neu i’r sector cyhoeddus neu sectorau eraill.
Yn bedwerydd, mae’r rhai sy’n darparu gofal di-dâl angen cefnogaeth llawer gwell gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r GIG. Mae angen cefnogaeth ariannol llawer gwell arnynt hefyd, gan gynnwys cynnydd yn y Lwfans Gofalwr.
Yn bumed, mae angen sicrhau gwell integreiddio rhwng gofal cymdeithasol, y GIG a thai. Ond ni ddylai hyn ddechrau ar lefel y system, dylai ddechrau gyda’r unigolyn a datblygu o’r farn hon. Beth sy’n bwysig i bobl hŷn? A ydynt yn cael eu hystyried fel ‘arbenigwyr yn ôl profiad’ ac a ydynt yn gallu cyfranogi’n llawn wrth benderfynu ar y gofal a’r cymorth y gallai fod ei angen arnynt? Beth sydd ei angen arnynt i’w helpu i fyw eu bywydau, i fod yn ddinasyddion llawn gyda bywydau â phwrpas, cyfleoedd a chyfraniad?
Ond beth am gost hyn i gyd? Gyda’r rhagfynegiadau y bydd y wlad yn profi dirwasgiad bydd llawer yn dweud na allwn fforddio i ariannu gofal cymdeithasol.
Y gwirionedd yw, ni allwn fforddio peidio gwneud.