Yn ôl data cyfrifiad 2021, mae poblogaeth pobl dros 60 oed yng Nghymru wedi cynyddu 12% dros y 10 mlynedd diwethaf, i 861,600 neu 27.7% o’r boblogaeth. Mae’r darlun yn amrywio ledled Cymru – er enghraifft yng Nghonwy mae’n 34.8% ac yng Nghasnewydd mae’n 22.7%. Rydym wedi bod yn gweld bod y boblogaeth yn heneiddio ers blynyddoedd lawer erbyn hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny – y grŵp oedran mwyaf yng Nghymru yw’r grŵp 55 i 59 oed.
Mae llawer o’r sylwebaeth am wybodaeth y cyfrifiad wedi canolbwyntio ar heriau poblogaeth sy’n heneiddio, gan ystyried hynny yn nhermau cynnydd yn y galw am ofal gan anwybyddu’r newyddion da bod mwy ohonom yn byw’n hirach – sef rhywbeth i’w ddathlu. Ar yr un pryd â chroesawu’r newyddion da yma, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein cymdeithas yn addasu a bod agweddau tuag at heneiddio a phobl hŷn yn newid. Yn rhy aml, mae ein blynyddoedd olaf yn cael eu difetha gan effeithiau oedraniaeth a’r cyfyngiadau a roddir arnom gan amgylchedd ffisegol sy’n ein hatal rhag mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig i ni. Mae angen i hyn newid, yn gyflym.
Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru rwy’n cymryd camau i fynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran. Mae agweddau negyddol tuag at heneiddio a phobl hŷn wedi gwreiddio’n ddwfn ac mae’n anodd eu newid. Mae’n dda fod Llywodraeth Cymru, yn ei Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio¹, wedi cydnabod bod angen mynd i’r afael ag oedraniaeth ac mae gwaith yn mynd ymlaen yn rhyngwladol drwy Ddegawd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Heneiddio’n Iach. Mae angen newidiadau yn y ffordd rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu tuag at bobl eraill, ac yn wir tuag atom ein hunain ar sail ein hoedran, ac mae hyn yn golygu cynyddu ymwybyddiaeth o oedraniaeth, herio stereoteipiau, a gwneud yn siŵr nad yw llywodraethau a chyrff cyhoeddus yn gwahaniaethu ar sail oedran yn eu polisïau neu eu gweithredoedd.²
Ar yr un pryd â mynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gymdeithas sydd o blaid pobl hŷn’, sef ein bod yn gwneud yn siŵr bod ein lleoedd, ein systemau a’n ffyrdd o weithio yn ein galluogi i heneiddio’n dda, i gael ein cynnwys ac i sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed. Rwy’n gweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau partneriaethol a phobl hŷn i gefnogi ac annog y gwaith o ddatblygu cymunedau sydd o blaid pobl hŷn ac aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sydd o blaid pobl hŷn. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith hwn ac wedi ymrwymo i ‘Gymru sydd o blaid pobl hŷn’.
Gall data’r cyfrifiad ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’n poblogaeth sy’n heneiddio, ond mae angen gwelliannau mewn ffynonellau data eraill hefyd. Er enghraifft, gwelliannau yn y data ar gam-drin pobl hŷn er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl hŷn, sut mae atal camdriniaeth, a’r cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr, ynghyd â data, ein bod yn galluogi pobl hŷn i rannu eu profiadau a’u straeon yn uniongyrchol. Nid yw bod yn hŷn yn ein diffinio fel grŵp unffurf, sydd â’r un agweddau, amgylchiadau a chredoau. Os rhywbeth, mynd yn fwy amrywiol yr ydym wrth fynd yn hŷn, nid yn llai.
Gadewch i ni groesawu’r wybodaeth newydd a gawsom gan y cyfrifiad am ein poblogaeth sy’n heneiddio, a’i defnyddio i lywio’r gwaith o lunio polisïau a chynllunio. Ond gadewch i ni gofio hefyd bod clywed lleisiau amrywiaeth o bobl hŷn yr un mor bwysig wrth gynllunio, a bod hynny’n hanfodol os ydym eisiau sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, bod hawliau’n cael eu cynnal ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
1 Llywodraeth Cymru. (2022) Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. Ar gael yn: https://llyw.cymru/cymru-o-blaid-pobl-hyn-ein-strategaeth-ar-gyfer-cymdeithas-syn-heneiddio
2 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2022) Rhoi terfyn ar Ragfarn a Gwahaniaethu ar sail Oedran. Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/blaenoriaethaur-comisiynydd/rhoi-diwedd-ar-ragfarn-a-gwahaniaethu-ar-sail-oedran/