Blog y Comisiynydd: Byddai codi Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn annheg
Mae adroddiadau diweddar wedi awgrymu y gallai Oedran Pensiwn y Wladwriaeth godi i 68 oed yn gynharach na’r disgwyl – o bosibl yng nghanol y 2030au, yn hytrach na chanol y 2040 fel y bwriadwyd yn wreiddiol.
Gallai cyhoeddiad gael ei wneud mor gynnar â mis Mawrth, fel rhan o gyllideb arfaethedig Llywodraeth y DU, yn dilyn yr Ail Adolygiad o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a gynhaliwyd y llynedd. Gallwch ddarllen fy ymateb i’r adolygiad yma.
Mae Oedran Pensiwn y Wladwriaeth eisoes yn uwch na disgwyliad oes iach, sy’n golygu bod y blynyddoedd cyn iddynt gael Pensiwn y Wladwriaeth yn gallu bod yn gyfnod anodd iawn i lawer. Mae hyn yn cael ei ddwysau gan wahaniaethu cyson ar sail oedran mewn cyflogaeth sy’n lleihau’r siawns o gael neu gadw swydd dda yn ein 50au a’n 60au, gyda llawer ohonom hefyd yn gorfod gofalu am anwyliaid ar yr un pryd.
Cafodd y newidiadau sydd eisoes ar waith, ynghyd â’r cylch adolygu chwe blynedd, eu cyflwyno mewn ymateb i’r gwelliannau rhagamcanol mewn disgwyliad oes ac, yn bwysicach, mewn disgwyliad oes iach. Fodd bynnag, nid yw disgwyliad oes a disgwyliad oes iach wedi gwella ar y gyfradd a ddisgwylid ar y pryd: er 2011, mae gwelliannau mewn disgwyliad oes wedi aros yn eu hunfan ac, yn achos rhai carfanau o’r boblogaeth – fel menywod sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd – maent wedi gostwng.
Un o’r egwyddorion craidd a nodwyd wrth sefydlu’r adolygiadau hyn (yn Natganiad yr Hydref y Canghellor yn 2013) oedd y dylai Oedran Pensiwn y Wladwriaeth godi gyda disgwyliad oes fel y bydd pobl yn treulio, ar gyfartaledd, ‘hyd at draean’ o’u bywydau fel oedolion yn cael Pensiwn y Wladwriaeth.
Ond o gofio nad yw disgwyliad oes wedi gwella’n ôl y disgwyl, mae’r ddadl dros wneud rhagor o newidiadau i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar yr adeg hon ar sail hyn yn wan.
Hefyd, nid yw disgwyliad oes ynddo’i hun yn fesur da o allu pobl i weithio’n hwy, sy’n golygu bod angen mwy o bwyslais ar ddisgwyliad oes iach wrth wneud penderfyniadau’n ymwneud ag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Yma yng Nghymru, er enghraifft, mae disgwyliad oes dynion yn 78.3 oed, ond dim ond 61.4 yw’r disgwyliad oes iach, ac yn achos menywod mae’r ffigurau hyn yn 82.3 a 62 oed yn y drefn honno – gwahaniaeth o fwy nag 20 mlynedd. Mewn ardaloedd o amddifadedd, mae disgwyliad oes iach yn is fyth: gan ostwng i tua 59.4 ym Mlaenau Gwent, er enghraifft.
Hefyd, mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod dros ddau draean o bobl 65+ oed yn byw ag un salwch hirdymor, ac mae tua thraean yn byw â dau salwch hirdymor neu fwy – cyflyrau cyhyrysgerbydol, y galon neu gylchredol yn bennaf, sy’n aml yn gallu bod yn gyflyrau difrifol.
Heb weithredu i wella iechyd pobl a’u disgwyliad oes iach yn sylweddol, ni fydd modd i lawer o bobl weithio’n hwy, a gall pobl eraill beryglu eu hunain drwy barhau i weithio er bod eu hiechyd yn wael, rhywbeth a allai arwain at gostau eraill nad oedd wedi’u rhagweld o ganlyniad i angen cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn achos llawer o bobl hŷn sy’n gallu parhau i weithio, mae rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran yn parhau i greu rhwystrau yn y farchnad lafur sy’n atal pobl rhag parhau neu ddychwelyd i waith. Oedran yw’r rheswm mwyaf cyffredin o hyd dros wahaniaethu mewn gwaith yn ôl yr OECD, ac mi all hynny amlygu ei hun mewn sawl ffordd.
Er enghraifft, er bod 90% o bobl hŷn yn credu bod ganddynt sgiliau trosglwyddadwy i symud i rolau neu ddiwydiannau eraill pe baent yn cael cynnig hyfforddiant, dim ond 35% o gyflogwyr a holwyd a ddywedodd y byddent yn barod i gyflogi a chynnig hyfforddiant i rywun dros 55 oed mewn diwydiant newydd.
Mae tybiaethau ac ystrydebau am bobl hŷn yn gyffredin, sy’n golygu bod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu diswyddo ac yn aml byddant yn cael mwy o anhawster dod o hyd i waith ar ôl colli eu swydd neu gael eu diswyddo, neu fod cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad – sy’n hanfodol i helpu pobl i barhau mewn gwaith – yn gallu bod yn brin. Hefyd, gall ffactorau fel diffyg hyblygrwydd wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl hŷn, yn enwedig rhai sydd â chyfrifoldebau gofal, a gall rwystro pobl hŷn rhag parhau mewn gwaith neu chwilio am swydd.
Hyd nes bydd y materion hyn wedi cael sylw, bydd llawer o bobl yn ei chael yn anodd neu’n amhosibl i barhau neu ddod o hyd i waith yn eu 60au hwyr neu mi allant fod mewn perygl o brofi caledi ariannol neu fod mewn tlodi wrth iddynt gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Yn hytrach na gwneud rhagor o newidiadau i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd, dylid canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi diwedd ar ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran sy’n cyfyngu ar waith a chyfleoedd cyflogaeth i gymaint o bobl hŷn. Nid yn unig y byddai hyn yn codi lefelau cynhyrchiant ac yn hybu’r economi, byddai hefyd, yn bwysicach fyth, yn cynnig cyfnod o sefydlogrwydd i alluogi pobl i adfer eu sefyllfa ariannol a chynnig mwy o amser i bobl i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad.
O gofio’r amgylchiadau rydym yn byw ynddynt ar hyn o bryd – wrth inni ddelio ag effeithiau’r pandemig ac wrth inni wynebu’r argyfwng costau byw – byddai hyn er lles pawb, nid yn unig y rhai a gaiff eu heffeithio’n uniongyrchol gan y newidiadau, ond hefyd cenedlaethau’r dyfodol.