Beth mae’r Arolwg Cenedlaethol yn ei ddweud (a ddim yn ei ddweud) wrthym am brofiadau pobl o heneiddio yng Nghymru
Pan gyhoeddais fy adroddiad cyntaf ar Gyflwr y Genedl yn 2019, fe dynnais sylw at y ffaith bod pobl hŷn mewn perygl o fod yn ‘anweledig’ i wneuthurwyr polisi a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau oherwydd diffyg data ystyrlon mewn meysydd allweddol am brofiadau pobl o heneiddio yng Nghymru.
Mae deall sut beth yw bod yn berson hŷn sy’n byw yng Nghymru heddiw, y problemau a’r rhwystrau sy’n gwneud bywydau pobl hŷn yn fwy anodd a’r bylchau sydd o bosib yn rhoi pobl hŷn mewn perygl, yn ogystal â’r pethau a all wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl, i gyd yn hanfodol i sicrhau bod yr adnoddau, y gwasanaethau a’r cymorth cywir ar gael i’n cefnogi ni i gyd i heneiddio’n dda.
Adnodd a sylfaen dystiolaeth allweddol i gefnogi’r ddealltwriaeth hon yw Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n cynnwys tua 12,000 o bobl o bob oed ar draws y wlad ac sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys iechyd a lles, cyllid a’n cymunedau.
Mae’r canlyniadau diweddaraf yn cynnig darlun defnyddiol ar y materion allweddol sy’n effeithio ar bobl hŷn ac yn amlygu meysydd lle mae angen gweithredu i sicrhau nad yw cynnydd yn cael ei golli oherwydd effaith y pandemig a’r argyfwng costau byw.
Er enghraifft, mae’r canlyniadau yn datgelu bod dros draean o bobl 65+ yng Nghymru – dros 220,000 o bobl – yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd cael apwyntiad meddyg teulu a bod 42% o bobl 65-74 a 37% o bobl 75+ heb weld meddyg teulu yn ystod y 12 mis diwethaf.
Gall anawsterau neu oedi wrth gael apwyntiad gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl hŷn, a gwyddom y gall atal ac ymyrraeth gynnar wneud gwahaniaeth mawr wrth drin a rheoli’r cyflyrau iechyd a allai effeithio arnom wrth i ni heneiddio.
Mae sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at eu meddyg teulu yn hanfodol felly, yn enwedig o gofio rôl meddygon teulu wrth gefnogi pobl hŷn i gael mynediad at wasanaethau a chymorth ehangach o fewn y GIG.
O ran ein cymunedau, mae canlyniadau’r arolwg yn tynnu sylw hefyd at y ffaith bod 1 ym mhob 5 person 75+ (dros 60,000 o bobl) yn dweud nad oes ganddyn nhw fynediad at wasanaethau a chyfleusterau da yn eu hardal. Mae hyn yn amlygu pam mae gweithredu i wneud ein cymunedau o blaid pobl hŷn – sy’n cynnwys sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw – mor bwysig i’n cefnogi ni i gyd i heneiddio’n dda.
Ochr yn ochr â hynny, mae hefyd yn bwysig nodi bod dwy ran o dair o bobl yn y grŵp oedran hwn (dros 200,000) yn teimlo na allant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal. Mae hyn yn awgrymu bod angen nid yn unig ystyried sut gellir gwella gwasanaethau a chyfleusterau i bobl hŷn, ond hefyd y ffyrdd y gall pobl hŷn gael eu galluogi i gymryd rhan a chyfrannu, a chefnogaeth well i ymgysylltu â phenderfyniadau lleol. Mae angen clywed lleisiau pobl hŷn, a defnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiadau i siapio’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yn ein cymunedau a sicrhau eu bod yn gallu diwallu anghenion pawb yn fwy effeithiol.
Mae’n galonogol bod rhai canfyddiadau hefyd yn dangos cynnydd positif sy’n amlygu’r angen i adeiladu ar yr arferion da sydd wedi’u cyflawni’n barod.
Yn 2019, er enghraifft, dangosodd canlyniadau’r arolwg nad oedd 60% o bobl 75+ yn gwneud ‘defnydd personol o’r we’. Ers hynny, mae’r ffigur hwn wedi gwella’n sylweddol: yn ôl y data ar gyfer 2021-22, mae hyn wedi gostwng i ychydig dros 30%. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, bod hyn yn dal i olygu bod tua 100,000 o bobl 75+ ddim yn gwneud defnydd personol o’r we.
Er bod y pandemig yn debygol o fod wedi cael rhywfaint o effaith, gyda mwy o bobl hŷn yn mynd ar-lein i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid ac yn defnyddio gwasanaethau ar-lein tra bod cyfyngiadau yn eu lle, mae’r gwelliant hwn hefyd yn debygol o adlewyrchu’r gwaith positif iawn sy’n cael ei wneud ledled Cymru i annog a chefnogi pobl hŷn i fynd ar-lein ac i ddefnyddio’r we yn ddiogel.
Mewn byd sy’n fwyfwy digidol, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi pobl hŷn sydd eisiau mynd ar-lein (tra’n cefnogi hefyd y rheini sydd ddim eisiau mynd ar-lein i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau), ac elfen allweddol o hynny fydd sicrhau ein bod yn adeiladu ar y mentrau llwyddiannus, y gwaith partneriaeth a’r arferion da sy’n cael eu cyflwyno ledled Cymru gan ein gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol a chipolwg ar brofiadau heneiddio yng Nghymru, ond mae rhai materion allweddol ar goll.
Er enghraifft, dangosodd data arolygon blaenorol os oedd pobl hŷn yn teimlo bod ganddyn nhw reolaeth dros eu bywydau ac y gallent wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, pethau sy’n perthyn yn agos i’n hiechyd a’n lles ac ansawdd ein bywyd. Ni ofynnwyd y cwestiwn hwn yn arolwg 2021-22, sy’n ei gwneud yn anodd cymharu sut gallai’r ychydig flynyddoedd diwethaf fod wedi effeithio ar bobl hŷn a’r ffordd y maen nhw’n teimlo am eu bywydau.
Yn yr un modd, nid yw’r data sy’n ymwneud â chyflyrau iechyd hirdymor, salwch ac anabledd, a’r cyfyngiadau y gall y rhain eu rhoi ar unigolion, ar gael eleni. Ar adeg lle bo adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i gefnogi gwasanaethau iechyd i leihau rhestrau aros ac ymdrin â’r ôl-groniad Covid, byddai’r data hwn wedi bod yn ddefnyddiol i nodi sut a ble y gellid dyrannu adnoddau yn fwyaf effeithiol yn y byr dymor a’r tymor hwy.
Nid yw’r data allweddol sy’n ymwneud â phobl hŷn yn goroesi ar yr incymau lleiaf, problem sy’n effeithio ar fenywod hŷn yn benodol, ar gael eleni chwaith. Gyda phrisiau’n parhau i godi’n gyflym, tuedd y disgwylir iddi barhau drwy gydol y flwyddyn, a gyda nifer o bobl hŷn ar draws Cymru yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, gallai’r data hwn fod wedi helpu i sicrhau bod cymorth ariannol, yn ogystal â gwaith ehangach fel codi ymwybyddiaeth o hawliau fel Credyd Pensiwn, yn cael ei dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf.
O gofio ei fod yn debygol y byddwn yn byw ac yn delio ag effaith y pandemig a’r argyfwng costau byw am beth amser eto, bydd yn bwysig bod y data hwn yn cael ei gasglu fel rhan o’r arolwg y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa gryfaf bosib i ddeall profiadau pobl hŷn a thargedu cymorth a gwasanaethau’n effeithiol.
Fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i ddefnyddio a chraffu ar y data sydd ar gael am brofiadau pobl hŷn, fel yr Arolwg Cenedlaethol a data’r cyfrifiad, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, i gefnogi fy ngwaith a galwadau am newid. At hynny, byddaf yn parhau i ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru, i gasglu a chryfhau eu lleisiau a’u profiadau, yn ogystal â chomisiynu ymchwil i lenwi’r bylchau data sy’n ymwneud â materion allweddol sy’n effeithio ar bobl hŷn.
Ond fel cenedl, mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn cymryd bob cyfle i gasglu data ystyrlon sy’n ein helpu i ddeall profiadau pobl hŷn, a’n galluogi i fonitro tueddiadau a newidiadau parhaus. Mae hyn yn hanfodol er mwyn helpu i ddarparu’r sylfaen dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer llunio a gweithredu polisïau da er mwyn cyflawni’r newidiadau a’r gwelliannau y mae pobl hŷn eu heisiau ac angen eu gweld.