Yn ein Blog Gwadd diweddaraf, mae Sioned Young, Swyddog Datblygu Cymunedau Oed-Gyfeillgar Cyngor Ynys Môn, yn tynnu sylw at y gwaith mae hi’n ei arwain i helpu i wneud cymunedau ar draws Ynys Môn yn fwy oed-gyfeillgar.
Helo, Sioned Young ydw i, Swyddog Datblygu Cymunedau Oed-Gyfeillgar yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Cefais fy mhenodi ym mis Medi 2022, ac mae fy swydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n golygu fy mod yn arwain gwaith Oed-Gyfeillgar Ynys Môn o sicrhau bod Ynys Môn yn lle heb unrhyw rwystrau rhag heneiddio’n dda.
Rydw i wedi mwynhau’r chwe mis cyntaf yn y swydd a’r cyfle i weithio’n agos gyda’r gymuned i greu Ynys sy’n Oed-Gyfeillgar. Mewn cyfnod mor fyr, mae ein rhwydwaith o bartneriaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol, elusennau a sefydliadau sy’n rhan o’r gwaith o greu Ynys Oed-Gyfeillgar, wedi rhagori ar 100 ac mae’n dal i dyfu.
Cyn ymuno â Chyngor Sir Ynys Môn, roeddwn yn gweithio yn yr elusen leol Age Cymru Gwynedd a Môn fel Swyddog Cymorth Canolfannau Cymunedol, ac rwy’n teimlo bod fy nghefndir yn y trydydd sector a chefnogi cymunedau wedi bod yn amhrisiadwy yn fy swydd newydd.
Yn fy swydd yn Age Cymru Gwynedd a Môn cawsom ein comisiynu ar y cyd â Chyngor Gwirfoddol Cymuned lleol Medrwn Môn i arwain ar raglen ymgysylltu yn y gymuned er mwyn deall yn well beth y gellid ei wneud fel bod Ynys Môn yn lle gwell i heneiddio. Felly, pan gefais fy mhenodi i’m swydd newydd yng Nghyngor Sir Ynys Môn, roeddwn yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith ac i weithredu ar y sylwadau a rannwyd yn y rhaglen ymgysylltu.
Dyma rywfaint o’r gwaith rydw i wedi’i arwain ers dechrau yn fy swydd:
Mae Cyfeirlyfr Trafnidiaeth Gymunedol Ynys Môn yn gyfeiriadur digidol a phapur defnyddiol o’r holl gynlluniau Trafnidiaeth Gymunedol ar yr ynys, gan gynnwys manylion cyswllt, cymhwysedd a ffioedd. Mae’r cyfeiriadur wedi bod yn boblogaidd iawn, a dosbarthwyd dros 2,000 o gopïau ledled yr ynys.
Gan weithio mewn partneriaeth â’n gwasanaeth hamdden, sef Môn Actif, fe drefnon ni gyfres o Ddiwrnodau Agored i bobl dros 50+ oed yn ein canolfannau hamdden. Roedd y Diwrnodau Agored yn galluogi pobl i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau hamdden a chymdeithasu am ddim, ond roedden nhw hefyd yn cynnwys stondinau gwybodaeth gan sefydliadau ac elusennau amrywiol sy’n cefnogi pobl hŷn ar Ynys Môn, gan alluogi pobl i gael gafael ar wybodaeth wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar-lein neu dros y ffôn.
Mewn partneriaeth ag Age Cymru Gwynedd a Môn rydyn ni wedi ailsefydlu Fforymau Pobl Hŷn am y tro cyntaf ers y pandemig ac wedi gwrando ar sylwadau gan bobl hŷn i dreialu fforymau llai, lleol sy’n teithio o amgylch yr ynys – sydd wedi cael eu croesawu’n fawr.
Mae gwaith arall yn cynnwys paru gyda’r adran Safonau Masnach i gyflwyno Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Sgamiau yn y gymuned, datblygu Cyfeiriadur Adeiladau Cymunedol i helpu i alluogi mwy o bobl a gwasanaethau i ymgysylltu â’r gymuned, ymysg prosiectau a mentrau eraill.
Mae’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan ein cymunedau i gefnogi datblygiad Ynys sy’n Oed-Gyfeillgar hefyd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Ym mis Rhagfyr 2022 fe wnaethom ddosbarthu grantiau i 18 o grwpiau gwirfoddol ac elusennau o Gronfa Oed-Gyfeillgar Ynys Môn i ddatblygu prosiect i wneud eu cymuned yn fwy Oed-Gyfeillgar. Roedd y prosiectau a gefnogwyd gennym yn amrywio o ddatblygu gardd gymunedol i sefydlu grŵp canu Dementia, yn ogystal â dosbarthiadau cadw’n heini yn y gymuned.
Yn ddiweddar, fe wnaethom groesawu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’i thîm i Ynys Môn. Roedd yr ymweliad yn cyd-daro’n gyffrous â Chyngor Sir Ynys Môn yn cyflwyno ein cais ar ran yr ynys gyfan, i Sefydliad Iechyd y Byd i ymuno â’u Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy’n Oed-Gyfeillgar. Rydyn ni’n ddiolchgar am gefnogaeth ac arweiniad tîm y Comisiynydd Pobl Hŷn wrth baratoi ein cais.
Fel rhan o ymweliad y Comisiynydd, fe wnaethom hefyd gynnal Cynhadledd Oed-Gyfeillgar – Heneiddio’n Dda Ynys Môn, lle dathlwyd y gwaith partneriaeth a wnaed gan ein cymuned i ddatblygu Ynys Oed-Gyfeillgar. Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle gwerthfawr i rwydweithio, dysgu oddi wrth ein gilydd a meddwl am y dyfodol.
Rydw i’n edrych ymlaen at y camau nesaf ar gyfer Ynys Môn wrth i ni ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy’n Oed-Gyfeillgar. Rydw i’n credu bod gennym ni fel ynys lawer i’w gynnig i’r rhwydwaith o ran rhannu arferion gorau, ond rydw i yr un mor frwdfrydig i ddysgu gan Gymunedau Oed-Gyfeillgar eraill ledled y byd a pharhau i gefnogi pobl hŷn ar Ynys Môn i heneiddio’n dda.