Angen Help?
Three older women and an older man laughing and sitting on a sofa while looking at a tablet

Blog Gwadd: Gweithio gyda’n gilydd i greu Cymru oed-gyfeillgar

i mewn Newyddion

Mewn blog arbennig gan ein gwestai, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, yn tynnu sylw at bwysigrwydd prosiectau lleol i gefnogi pobl i heneiddio’n dda, a pham fod herio gwahaniaethu ar sail oedran mor bwysig er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cefais wahoddiad yn ddiweddar gan y Comisiynydd Pobl Hŷn i annerch cynhadledd sy’n dathlu’r cynnydd tuag at ein gweledigaeth ar y cyd o Gymru oed-gyfeillgar.

Roedd y digwyddiad yn dangos sut mae awdurdodau lleol a mudiadau’r trydydd sector ledled Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â phobl hŷn i greu cymunedau oed-gyfeillgar a chefais fy synnu gan yr ymdeimlad o optimistiaeth a gobaith yn yr ystafell.

Yng nghanol y ffocws presennol ar effaith barhaus Covid 19 a’r argyfwng costau byw, mae gwerth prosiectau lleol sy’n cynnal diddordebau pobl, yn rhoi gwybodaeth iddynt a’u cadw’n iach yn gallu cael eu hanwybyddu. Yn y gynhadledd pwysleisiwyd sut y gall dulliau arloesol o weithio gyda phobl hŷn, ac ar eu cyfer, sicrhau manteision gwirioneddol i’r gymdeithas sy’n heneiddio yng Nghymru.

Lansiais y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio ym mis Hydref 2021  ac ym mis Ebrill 2022, cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni ategol sy’n rhestru’r camau, yr amserlenni a’r wybodaeth fanwl am y ffordd y byddwn yn mesur cynnydd.

Datblygwyd pob elfen o’r Strategaeth mewn cydweithrediad agos â phobl hŷn a’u cynrychiolwyr trwy gyfres o weithgorau, digwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriad cyhoeddus. Arweiniodd fy Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio y trafodaethau ac mae’n parhau i fonitro’r gwaith.

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cymryd rhan weithgar yn y trafodaethau hyn o’r diwrnod cyntaf ac mae’n parhau i gefnogi awdurdodau lleol i ymgorffori polisïau ac arferion oed-gyfeillgar. Rwy’n falch bod y bartneriaeth hon yn gweithio tuag at fudiad sy’n herio’r ffordd y mae pobl yn teimlo ynghylch heneiddio ac sy’n creu cymunedau sy’n cefnogi unigolion i fyw a heneiddio’n dda.

Er mwyn cefnogi’r gwaith o weithredu’r Strategaeth, mae £1.1 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol – £50,000 yr un – i ariannu swyddog oed-gyfeillgar pwrpasol. Mae’r cyllid yn cefnogi awdurdodau lleol i ddod yn aelodau o Rwydwaith Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd. Mae gan bob awdurdod lleol hefyd gynghorydd lleol enwebedig i weithredu fel hyrwyddwr oed-gyfeillgar.

Trwy’r ymdrech gyfunol hon, mae Cymru wedi dod yn rhan o fudiad byd-eang tuag at wella polisïau a gwasanaethau i bobl hŷn i’r graddau ein bod bellach yn cael ein henwi fel enghraifft o arfer da drwy’r byd.

Ond wrth gwrs, nid cyllid ar gyfer penodi swyddogion oed-gyfeillgar yw’r unig arian sy’n helpu i wireddu ein gweledigaeth. Mae pob adran ar draws Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cyllid ac adnoddau staff mewn gwahanol raglenni a phrosiectau sy’n helpu i greu Cymru sy’n oed-gyfeillgar.

Y llinyn sy’n cysylltu’r holl weithgarwch hwn gyda’i gilydd yw ein hymrwymiad i fynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran a hyrwyddo delweddau cadarnhaol o bobl hŷn. Mae’r weledigaeth sydd yn y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn addo creu Cymru lle mae rhagfarn ar sail oedran bob amser yn cael ei herio ac na chaniateir cyfyngu ar botensial unigol nac effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y mae pobl hŷn yn eu derbyn.

Fel llywodraeth, rydym bob amser wedi bod yn glir na ddylai oedran leihau hawl unigolyn i gael ei drin ag urddas a pharch.

Rwy’n teimlo’n gryf na ddylai pobl hŷn gael eu portreadu fel pobl sy’n derbyn iechyd a gofal cymdeithasol yn dawel neu fel pobl sy’n dibynnu ar gefnogaeth eraill i fyw bywydau iach ac egnïol. Mae’r rhaglen oed-gyfeillgar yn dangos pa mor anghywir y gall y rhagdybiaeth hon fod.

Gellir defnyddio rhagfarn ar sail oedran i greu tensiwn rhwng grwpiau oedran. Pan fydd pobl hŷn yn cael eu hystyried fel rhai sy’n llenwi gwelyau ysbytai a phobl iau fel hwdis, nid oes lle i adeiladu perthnasoedd a rhannu gwybodaeth rhwng cenedlaethau – gall stereoteipiau o’r fath fod yn rhwystr i greu cymunedau bywiog a chefnogol. Gallant hefyd gael dylanwad negyddol ar y ffordd mae pobl yn teimlo am heneiddio.

Nod y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yw ail-fframio pobl hŷn fel cyfranwyr gweithredol i economi a bywyd diwylliannol Cymru. Rydym am greu Cymru lle mae pobl yn edrych ymlaen at dyfu’n hŷn ac yn cymryd amser i gynllunio i fod yn egnïol wrth fynd yn hŷn. Mae’n rhaid i Gymru fanteisio ar yr wybodaeth, y profiad a’r sgiliau y mae pobl hŷn yn eu cynnig ac rwy’n credu bod y rhaglen oed-gyfeillgar yn helpu i weithio tuag at y nod hwnnw.

Mae’n bwysig gwrando ar bobl hŷn a pheidio â gwneud rhagdybiaethau am eu hanghenion neu eu dymuniadau yn seiliedig ar oedran yn unig. Gofynnodd aelodau hŷn fy etholaeth am ddosbarth dawns ac mae’n dal i fynd heddiw.

Mae newid diwylliant bob amser yn anodd, ond mae’r mudiad oed-gyfeillgar yn tynnu sylw at werth gweithgaredd ar y cyd ac rwy’n annog pawb i ystyried sut y gallant chwarae eu rhan.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges