Yn ein blog gwadd diweddaraf, mae Andrea Hanratty, Gweithiwr Cymorth Pobl Hŷn gyda Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, yn tynnu sylw at ei gwaith yn cefnogi pobl hŷn ac yn helpu pobl i feddwl yn wahanol am gam-drin domestig.
Andrea Hanratty, Gweithiwr Cymorth Pobl Hŷn gyda Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru
Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnes i gymryd rôl Gweithiwr Cymorth Pobl Hŷn gyda Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, gan gefnogi pobl dros 55 oed sydd wedi profi Cam-drin Domestig ledled Ceredigion. Un o’m heriau yw diweddaru syniadau pobl am beth yw cam-drin domestig a sut beth yw hynny i aelodau hŷn o’n cymuned.
Yn hanesyddol, ystyriwyd bod Cam-drin Domestig yn rhywbeth a ddigwyddodd rhwng gŵr a gwraig ac fe’i nodwyd yn anghywir gan lawer fel trais corfforol yn unig. Fodd bynnag, dros y degawdau diwethaf mae ein dealltwriaeth wedi datblygu ac rydym bellach yn cydnabod nad trais yn unig yw cam-drin domestig, ond ei fod yn ymwneud â phŵer a rheolaeth.
Gall unrhyw un sydd wedi profi cam-drin domestig ar unrhyw ffurf estyn allan am gymorth gan Wasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, beth bynnag fo’u hoedran, eu rhyw neu eu hunaniaeth.
Un gwahaniaeth sylweddol o ran cefnogi pobl hŷn gyda Cham-drin Domestig yw’r tebygolrwydd y byddant yn parhau i gadw mewn cysylltiad â’r sawl sy’n eu cam-drin drwy gysylltiadau teuluol. Gallwn ddarparu cymorth drwy weithio gyda phobl i edrych ar eu hamgylchiadau a darparu cynlluniau diogelwch a chefnogaeth i ddelio â cham-drin domestig.
Gallwn hefyd gyfeirio at wasanaethau eraill sy’n darparu cymorth gyda lles, budd-daliadau, credydau pensiwn a chymorth arall sy’n gysylltiedig â thai.
Ers gweithio yn y rôl, rwyf wedi ffurfio cysylltiadau â meddygfeydd, cartrefi gofal, ysbytai a grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth o sut beth yw cam-drin domestig i bobl hŷn, ac rwy’n gweithio yn y gymuned ar draws y Sir i oresgyn rhwystrau i ddarparu cymorth i’r rheini sydd ei angen. Mae gen i agwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn barod i wrando ar bob cyfle, gan anelu bob amser at ddarparu’r gefnogaeth iawn yn y ffordd iawn i bob unigolyn a’i amgylchiadau unigryw.
Cael cymorth a chefnogaeth
Os ydych chi’n byw yng Ngorllewin Cymru ac yn cael eich cam-drin, neu’n poeni am rywun arall, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru ar 01970 612225 neu ewch i www.westwalesdas.org.uk.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn hefyd yn darparu gwybodaeth a chymorth i bobl sy’n byw ledled Cymru. Ffoniwch 0808 80 10 800 neu ewch i https:///www.llyw.cymru/byw-heb-ofn
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau lleol eraill yng Nghymru sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sy’n cael eu cam-drin, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, ewch i gyfeiriadur y Comisiynydd: https://comisiynyddph.cymru/cyfeiriadur-cymorth/