Rebecca Smith, Swyddog Cynnwys y Gymuned, Tîm Iechyd y Cyhoedd Gwent Aneurin Bevan, yn amlygu sut mae dull gwahanol o ymgysylltu â’r gymuned yn helpu i gyflawni gwasanaethau gwell a chefnogi pobl i heneiddio’n dda yn Nhorfaen.
Mae Rhwydweithiau Llesiant Integredig yn gweithio ar y cyd i gynnal a gwella llesiant yn ein cymunedau. Mae’r prosiect yn cysylltu ein pobl, ein llefydd a’n darpariaethau, gan alluogi pawb i fyw’r bywyd iachaf, hapusaf y gallan nhw. Mae cynnwys y gymuned wrth wraidd ein gwaith.
Mae’r gwaith yn seiliedig ar le ac wedi’i deilwra i bob ardal rydyn ni’n gweithio ynddo. Yn Nhorfaen, yr ardaloedd o flaenoriaeth i ni yw Blaenafon, Croesyceiliog a Llanyrafon, Trevethin a Thornhill.
Yn ystod y tair blynedd ddiweddaf, rydyn ni wedi canolbwyntio ar Blaenafon Iach, gan symud nawr at Cysylltu Croesyceiliog a Llanyrafon.
Mae’n bwysig i ni bod y gymuned yn cael y cyfle i gyfrannu at sgyrsiau a phenderfyniadau yn y gymuned am y pethau sy’n effeithio arnyn nhw. Y ffordd rydyn ni’n “ymgysylltu” yw gyda chysylltiadau a sgyrsiau ac nid asesiadau ac atgyfeiriadau. Mae’n symudiad sydd wedi’i ddatblygu’n gymdeithasol ac a luniwyd gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn.
Beth rydyn ni’n ei wneud sydd mor wahanol?
Fel y soniais, y peth pwysicaf yw’r sgyrsiau, ac mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn cael ei wneud yn anffurfiol. Er enghraifft, rydyn ni’n mynychu sesiynau ymarfer corff i’r rhai dros 60 neu glwb ieuenctid er mwyn dod i nabod y bobl sy’n cymryd rhan. Rydyn ni’n meithrin perthnasoedd cryf drwy dreulio amser gyda phobl. Po fwyaf o amser y byddwch chi’n ei dreulio gyda nhw yn sgwrsio, y mwyaf y byddwch chi’n ei ddysgu. Yna gallwch chi awgrymu gweithgareddau neu gyfeirio at asiantaethau a allai gefnogi gyda phroblemau penodol. Unwaith y bydd y perthnasoedd hyn wedi’u sefydlu, mae’n haws cefnogi arolygon mwy ffurfiol fel rhai y Cynghorau Sir sydd angen adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru. Mae gan y gymuned ffydd yn barod yn y swyddog sydd wedi treulio amser gyda nhw yn meithrin y perthnasoedd hyn. Yn Llanyrafon, rydyn ni wedi gweithio gyda’r ysgol gynradd, sef ein Cysylltwyr Cymunedol, ac maen nhw wedi creu arolwg iechyd a lles yn eu hardal a byddan nhw’n rhoi’r canlyniadau i’r Rhwydweithiau Llesiant Integredig. Mae pobl yn llawer mwy tebygol o ateb cwestiynau wrth blant na swyddog sy’n dal clipfwrdd.
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill, yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan rymuso pobl i heneiddio’n dda ac i fyw bywydau iach. Ym Mlaenafon, rydyn ni wedi cael gwared ar rai o’r rhwystrau at fyw’n iach drwy gefnogi partneriaid i wneud cais am gyllid ac i gyflwyno gweithgareddau yn y gymuned sydd am ddim neu’n rhad.
Ni ddylai’r gymuned byth deimlo bod prosiect yn cael ei wneud iddyn nhw ond wastad gyda nhw. Er enghraifft, gyda’n clwb ymarfer corff i deuluoedd ym Mlaenafon, yn ystod y slot 2 awr, roedden ni’n credu y byddai rhieni yn hoffi cael awr iddyn nhw eu hunain i ymarfer corff, tra bod y plant yn brysur gyda’r gwasanaeth chwarae. Yn ein sesiwn gyntaf, fe wnaethon ni eistedd a sgwrsio, gan ofyn beth oedden nhw ei eisiau, ac mewn gwirionedd, fe wnaethon nhw ofyn am y sesiwn lawn, gan ymarfer corff a chwarae gyda’u plant.
Enghraifft arall o hyn yw gweithio ar y cyd ag adran Datblygu Chwaraeon Torfaen, lle gofynnwyd i’r gymuned dros 60 oed pa fath o ymarfer corff fydden nhw’n ei hoffi. Mewn mannau eraill, roedden nhw wedi gofyn am ymarferion ysgafn ar gadair. Ond ym Mlaenafon, roedd ein cymuned eisiau codi pwysau a ‘circuits’. Ni ddylem byth gymryd yn ganiataol beth mae ein cymuned ei eisiau neu ei angen.
Mae ein gwaith cymunedol yn pontio’r cenedlaethau. Yn rhai o’n sgyrsiau cymunedol blaenorol, daethom â rhai o’n cenhedlaeth hŷn at ei gilydd ac fe goginiodd ein darpariaeth ieuenctid ar eu cyfer, fe wnaethon nhw eistedd i wneud crefftau a bwyta gyda’i gilydd. Cafwyd nifer o dripiau o’r dref i lefydd fel Llundain, Abertawe a Chaerdydd, drwy helpu’r bobl hŷn hynny sy’n teimlo’n ynysig tra’n ehangu gorwelion y genhedlaeth iau. Mae hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd rhwng y cenedlaethau ac yn helpu i chwalu’r rhwystrau rhyngddyn nhw.
Mae gennym fudiad yng Ngwent o’r enw Ffrindiau Lles, ac mae’n annog pobl i rannu gwybodaeth am weithgareddau iechyd a lles ar gyfryngau cymdeithasol drwy rannu negeseuon neu ddweud wrth ffrindiau a theulu. Mae hyn yn helpu i ledaenu’r wybodaeth i’r rheini sydd ddim ar-lein. Ym Mlaenafon, rydyn ni’n gweithio gyda’n Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd, a fydd yn ein cefnogi drwy eu rhaglen wirfoddoli, i ysgrifennu ein cylchlythyron ac i rannu’r wybodaeth gyda’r gymuned. Yn Llanyrafon, rydyn ni’n gweithio gyda’r ysgol gynradd a’u cysylltwyr cymunedol ar brosiect tebyg.
I gloi, dylai cynnwys cymunedau fod yn seiliedig ar le, gael ei arwain gan y gymuned a bod yn arloesol. Nid mater o asesiadau ac atgyfeiriadau yw hyn, mae’n ymwneud â sgyrsiau a chysylltiadau. Ceisiwch feddwl y tu allan i’r bocs, mae’n lot fwy o hwyl allan yma!