Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd y Comisiynydd ei strategaeth ar gyfer 2019-22 – Gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo – a nododd ei thair blaenoriaeth: Rhoi Diwedd ar Ragfarn a Gwahaniaethu ar Sail Oed; Rhoi Terfyn ar Gam-drin Pobl Hŷn; Galluogi pawb i Heneiddio’n Dda. Roedd y blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar ymrwymiadau i rymuso pobl hŷn i ddeall ac ymarfer eu hawliau cyfreithiol i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mae pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni ar lawer o anghydraddoldebau ac anghyfiawnderau a oedd eisoes yn bodoli a wynebir gan bobl hŷn, ac mae wedi dangos efallai nad yw hawliau pobl hŷn mor gadarn ag y tybiwyd. Mewn ymateb i hyn, mae’r Comisiynydd wedi nodi Diogelu a Hyrwyddo Hawliau Pobl Hŷn fel un o’i phrif flaenoriaethau ar gyfer 2021-22, ochr yn ochr â’r tair a gyhoeddwyd yn ei Strategaeth 2019-22.
Drwy ganolbwyntio ar y pedair blaenoriaeth allweddol hyn, bydd y Comisiynydd yn bwrw ymlaen â rhaglen waith helaeth yn 2021-22 i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu diogelu wrth i bandemig Covid-19 barhau, ac yn cael eu cefnogi a’u galluogi i adfer ar ôl y pandemig a pharhau i gyfrannu at ein cymunedau.
Bydd y Comisiynydd yn parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl hŷn o gymunedau ledled Cymru i sicrhau bod eu lleisiau, eu safbwyntiau a’u profiadau yn llywio ei gwaith.
Diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn
Mae’r angen i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn wedi dod yn bwysicach fyth, oherwydd rydym wedi gweld yn ystod pandemig Covid-19 pa mor hawdd y gellir osgoi neu anwybyddu’r hawliau hyn. Bydd y Comisiynydd yn parhau i weithredu i godi ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o hawliau cyfreithiol presennol pobl hŷn, i roi gwybod i bobl hŷn am eu hawliau, ac i ymestyn a chryfhau hawliau pobl hŷn lle bo angen.
Bydd y Comisiynydd hefyd yn parhau i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn uniongyrchol i bobl hŷn er mwyn eu grymuso i ddeall ac arfer eu hawliau cyfreithiol, a bydd y Comisiynydd yn ymyrryd os yw’r hawliau hyn yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru gan gyrff cyhoeddus.
Bydd y Comisiynydd yn:
- Gweithredu gyda phartneriaid yng Nghymru a ledled y DU i wella hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal
- Mynd i’r afael â’r bwlch tystiolaeth ar y materion penodol a wynebir gan bobl hŷn mewn cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, drwy wneud gwaith ymchwil ac argymhellion ar gyfer gweithredu
- Trin a thrafod sut gellid gwella proses ac ymarfer Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw er mwyn i bobl hŷn deimlo eu bod yn rhan o’r penderfyniadau am eu hanghenion gofal iechyd yn y dyfodol, a bod eu dymuniadau’n cael eu cydnabod a’u parchu
- Parhau i weithio gyda rhwydwaith y DU o sefydliadau partner allweddol a sefydlwyd gan y Comisiynydd yn 2020, i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo, a gyda’i gilydd yn sbarduno newid
Rhoi diwedd ar gam-drin pobl hŷn
Mae atal cam-drin pobl hŷn wedi parhau’n flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd drwy gydol y pandemig, yn enwedig gan fod pryderon sylweddol ynghylch y risg uwch i bobl hŷn o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu o gael eu targedu gan droseddwyr, oherwydd y cyfyngiadau symud. Mewn ymateb i hyn, sefydlodd y Comisiynydd Grŵp Gweithredu o sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i’w cadw’n ddiogel a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth a throsedd.
Mae’r Comisiynydd wedi arwain amrywiaeth o waith gyda rhanddeiliaid a chyrff cyhoeddus allweddol ledled Cymru i sicrhau bod pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a amlinellir yn strategaeth y Grŵp Gweithredu ar Gam-drin i roi terfyn ar gam-drin pobl hŷn.
Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Gweithredu Cenedlaethol newydd i atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin, yn ogystal â chyfleoedd i adeiladu ar bartneriaethau a mentrau newydd i sbarduno rhagor o newid i bobl hŷn drwy godi ymwybyddiaeth o brofiadau pobl hŷn o gam-drin, darparu mwy o wybodaeth i bobl hŷn am sut gallant gael cymorth, a thynnu sylw at y bylchau sy’n bodoli mewn gwasanaethau cymorth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin.
Bydd y Comisiynydd yn:
- Gwella gwasanaethau cymorth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, a chodi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer cyrff cyhoeddus
- Arwain gwaith partneriaeth gyda’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin, gan gynnwys:
- Dylanwadu ar Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin
- Gweithio i rymuso a galluogi pobl hŷn i rannu eu profiadau
- Ymchwil i brofiadau dynion hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu sy’n cael eu cam-drin
- Datblygu gwaith ar bobl hŷn sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, y mae cam-drin yn effeithio arnynt
Galluogi pawb i heneiddio’n dda
O ystyried y ffyrdd penodol mae’r pandemig wedi effeithio ar bobl hŷn a’r adnoddau a’r gwasanaethau cymunedol sy’n aml yn achubiaeth iddynt, bydd angen canolbwyntio’n sylweddol ar alluogi pobl i heneiddio’n dda ac ar wneud ein cymunedau’n fwy ystyriol o oedran, a fydd yn hanfodol i feithrin hyder ymysg pobl hŷn i ailgysylltu â chymdeithas, ac i gefnogi ail-alluogi ac adsefydlu.
Mae’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru, yn enwedig ar lefel leol, wedi dangos bod sylfeini cadarn i adeiladu arnynt. Rhaid i ni sicrhau yn awr y bydd y polisïau a’r newidiadau a wneir wrth i ni symud tuag at adferiad, yn arwain at welliannau ymarferol ym mywydau pobl hŷn.
Bydd y Comisiynydd yn:
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl hŷn yn cael cymorth i ailadeiladu neu adfer eu hiechyd a’u lles, wrth i ni bontio drwy’r pandemig
- Arwain gwaith gyda phartneriaid ledled Cymru i wneud cymunedau’n fwy ystyriol o oedran, gan gynnwys cefnogi awdurdodau lleol i wneud cais am gydnabyddiaeth Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer cymunedau sy’n ystyriol o oedran
- Hyrwyddo cynhwysiant digidol ymysg pobl hŷn, hyrwyddo arferion da a chyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus, i sicrhau bod pobl hŷn nad ydynt ar-lein yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt
Rhoi Diwedd ar Ragfarn a Gwahaniaethu ar Sail Oedran
Mae’r materion rydyn ni wedi’u gweld yn ystod y pandemig sy’n ymwneud â sut y siaradir am bobl hŷn, a sut y cânt eu trin, yn adlewyrchu cymdeithas lle mae rhagfarn yn erbyn oedran yn dal yn gyffredin, ac mae gwaith y Comisiynydd dros y flwyddyn ddiwethaf i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, ynghyd â’i galwadau am weithredu a newid ar draws amrywiaeth o faterion, wedi bod yn hanfodol i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gwahaniaethu oherwydd eu hoed.
Mae rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran yn aml yn sail i lawer o’r materion sy’n wynebu pobl hŷn, ac maen nhw’n cael amrywiaeth eang o effeithiau negyddol ar bobl hŷn, gan effeithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, adferiad o salwch, lefelau allgau cymdeithasol a hyd yn oed disgwyliad oes.
Bydd cynyddu ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o’r effaith y mae rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran yn ei chael ar bobl hŷn yn rhan allweddol o sicrhau bod ein hadferiad ar ôl Covid-19 yn cryfhau hawliau pobl hŷn, ac yn dathlu’r cyfraniadau mae pobl hŷn yn eu gwneud i’n cymunedau ledled Cymru.
Bydd y Comisiynydd yn:
- Darparu hyfforddiant i bobl hŷn a gweithwyr proffesiynol i’w grymuso i adnabod a herio rhagfarn yn erbyn oedran
- Herio enghreifftiau o ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran, gan gynnwys y ffordd mae pobl hŷn yn cael eu portreadu yn y cyfryngau
- Gweithio gyda phartneriaid – gan gynnwys partneriaid rhyngwladol – i fynd i’r afael ag agweddau rhagfarnllyd mewn cymdeithas a hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau
Lawrlwytho Blaenoriaethau’r Comisiynydd 2021-22 (PDF)