Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Angen rhagor o wasanaethau cymorth wedi’u teilwra i sicrhau bod pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt

i mewn Newyddion

Lawrlwytho Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru

Mae adroddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi tynnu sylw at yr angen am ragor o wasanaethau a chymorth wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i’w cadw’n ddiogel neu i adael perthynas gamdriniol.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nifer o faterion sy’n gallu atal pobl hŷn rhag cael gafael ar wasanaethau a chymorth, gan gynnwys diffyg ymwybyddiaeth ymysg rhai gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ynghylch y ffyrdd penodol y gallai pobl hŷn gael eu cam-drin, a’r mathau o gymorth a fyddai’n cael yr effaith fwyaf buddiol.

At hynny, mae diffyg data cywir a chynhwysfawr sy’n ymwneud â phrofiadau pobl hŷn o gam-drin yn creu risg na fydd adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i ddarparu’r mathau cywir o gymorth a chefnogaeth.

Fel rhan o’r ymchwil sy’n sail i’r adroddiad, cynhaliwyd ymarfer mapio cynhwysfawr i weld argaeledd y gwasanaethau a’r math o wasanaethau cymorth cam-drin sy’n cael eu darparu yng Nghymru.

At hynny, roedd y tîm ymchwil wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys goroeswyr camdriniaeth, i glywed yn uniongyrchol ganddynt am realiti cael mynediad at wasanaethau, enghreifftiau o arferion da, a’r problemau, yr heriau a’r rhwystrau sy’n gallu effeithio ar bobl hŷn a’u hatal rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer newid ar draws nifer o feysydd allweddol i wella’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu drwy ymgysylltu’n well â phobl hŷn; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau pobl hŷn er mwyn i wasanaethau fod yn fwy ymatebol i’w hanghenion, gan gynnwys hyfforddiant i staff; a gwella’r gwaith o gasglu data er mwyn rhoi darlun llawn o raddfa ac effaith cam-drin pobl hŷn.

Ochr yn ochr â lansio’r adroddiad, mae’r Comisiynydd yn dod ag oddeutu 200 o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â phobl hŷn, ynghyd ar gyfer cynhadledd ar-lein i archwilio canfyddiadau’r adroddiad a phenderfynu ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o fwrw ymlaen â’r camau y mae’r Comisiynydd yn galw amdanynt.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi rhannu ei chanfyddiadau â Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol eraill, a bydd yn defnyddio’r dystiolaeth y mae hi wedi’i chasglu i ddylanwadu ar ddatblygiad y Cynllun Cenedlaethol sydd ar y gweill ar gyfer Atal Cam-drin, pobl hŷn ac i gefnogi’r gwaith o gyflawni newidiadau a gwelliannau ar lefel leol.

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Fel y nodwyd yn fy adroddiad, mae pobl hŷn mewn perygl penodol o gael eu cam-drin, sy’n gallu cael effaith ddinistriol ar eu bywydau, felly mae’n hollbwysig bod y gwasanaethau a’r cymorth iawn ar gael i’w hamddiffyn.

“Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu yn dangos, er bod rhyw fath o gymorth ar gael ledled Cymru, nad yw gwasanaethau wedi’u teilwra’n aml i ddiwallu anghenion pobl hŷn ac mae nifer o rwystrau sy’n gallu eu hatal rhag cael mynediad at gymorth a chefnogaeth.

“Mae angen gweithredu i gau’r bylchau yn y gwasanaethau yr wyf wedi’u nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, ac mae’n galonogol y bydd pobl hŷn a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw ar draws ein sector cyhoeddus a’n trydydd sector yn ymuno â mi ar 15 Mehefin – Diwrnod Ymwybyddiaeth o Gam-drin Pobl Hŷn y Byd – i archwilio’r ffyrdd mwyaf effeithiol ac ymarferol o gyflawni’r newid sydd ei angen.

“Byddaf hefyd yn defnyddio’r dystiolaeth yn fy adroddiad i ddylanwadu ar Gynllun Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin pobl hŷn, sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni, i sicrhau bod y camau gweithredu a gynigir yn adlewyrchu’r materion rwyf wedi’u hamlygu i sicrhau bod pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.”

Lawrlwytho Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru

 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges