Yn ein Blog Gwadd diweddaraf, mae Leela Damodaran, Athro Emeritws Cynhwysiant Digidol a Chyfranogiad ym Mhrifysgol Loughborough, yn archwilio’r modd y mae degawdau o golli cyfleoedd wedi gadael niferoedd enfawr o bobl hŷn wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru a ledled y DU.
Mae llawer ohonom yn mwynhau’r manteision niferus sy’n dod i’n bywydau yn sgil technolegau digidol, gan gynnwys sut maent yn ein galluogi i gysylltu’n gymdeithasol â’r byd o’n cwmpas, rhywbeth sy’n hanfodol i hybu ein llesiant.
Nid yn unig y mae’r cysylltiadau cymdeithasol hyn o fudd inni fel unigolion – maent yn gwella ein hiechyd meddyliol a chorfforol – ond maent hefyd yn dod â buddiannau ehangach i’n cymunedau, yr economi a chymdeithas yn gyffredinol, ac mi all fod yn bwysicach fyth wrth inni heneiddio.
Dyna pam y mae llawer o bobl hŷn yn gwerthfawrogi cymaint ar dechnoleg ddigidol fel galwadau fideo, sy’n eu galluogi i fod yn bresennol ym mywydau eu hanwyliaid na fyddent fel arall yn gallu cysylltu yn yr un ffordd â hwy. Mae llawer o enghreifftiau hefyd lle mae technoleg ddigidol wedi galluogi pobl hŷn i gyfoethogi eu bywydau, drwy ail-fyw profiadau cofiadwy o’r gorffennol sy’n eithriadol o bwysig iddynt.
Er enghraifft, roedd prosiect diweddar yng Nghymru’n defnyddio dyfeisiadau technolegol – gan gynnwys clustffonau Realiti Rhithwir a rhyngwynebau haptig – i alluogi pobl hŷn i ‘ail-fyw’ atgofion cynnar a phrofi gwyliau glan môr eu plentyndod ym mhob ffordd heblaw bod yno, gan fwynhau sŵn y tonnau, teimlad y tywod ac yn y blaen.
Mae pobl hŷn hefyd yn gwneud defnydd cynyddol o dechnolegau digidol i ddarganfod ffyrdd newydd o ailgysylltu â’u bywydau cynnar a’u hanesion personol, fel pobl a symudodd i’r DU o leoedd fel India ac Affrica drwy fynd ar-lein i ddarganfod delweddau cyfoethog o’r mannau a welsant ar eu teithiau, a manylion (y tu hwnt i atgofion personol), o bethau fel y bwydlenni ar y llongau roeddent wedi teithio arnynt.
Mae profiadau o’r fath yn rhai positif ac sy’n cyfoethogi ac, mewn rhai achosion, yn gweddnewid bywydau, ond yn anffodus nid ydynt ar gael i bobl nad ydynt ar-lein, ac mae hynny’n wir am gymaint o bethau eraill hefyd. Mae hyn yn aml yn golygu bod y bobl a allai elwa fwyaf ar y mathau o gymorth y gall technoleg ei gynnig – fel pobl sydd wedi ymddeol neu sy’n ddi-waith ac sy’n gweld bod eu rhwydweithiau cymdeithasol yn dueddol o ‘grebachu’ – yn aml wedi’u hallgau.
Mae bod â llai o gysylltiadau cymdeithasol yn bygwth ein gallu i gadw cysylltiad yn gymdeithasol, gan ein gadael heb gysylltiadau â phobl ac ymdeimlad o berthyn, ac mi all hynny arwain at deimladau o unigrwydd ac o fod wedi’n hynysu, sy’n gallu bod yn niweidiol dros ben i’n hiechyd a’n llesiant.
Yn ogystal ag achosi a / neu gryfhau ymdeimlad o unigrwydd, mae nifer o brofiadau negyddol eraill hefyd sy’n deillio o ddigidoleiddio i’r bobl sydd dan anfantais / wedi’u hallgau’n ddigidol, fel yr amlygir gan yr enghreifftiau a ddisgrifir isod. Maent yn dangos y math o straen mae pobl hŷn yn ei brofi bob dydd a hynny’n fwy nag erioed – a hynny heb unrhyw fesurau ar waith i wrthweithio yn eu herbyn.
Wrth gwrs, nid yw digidoleiddio’n beth newydd: mae’n 50 mlynedd bellach ers yr 1970au cynnar pan gafodd systemau ar-lein cynnar eu cyflwyno mewn llawer o sectorau, gan gynnwys Bancio, Trafnidiaeth, a Manwerthu. Ar y pryd, roedd ymdrechion i hybu canlyniadau positif cyfrifiaduron i bobl, ac roedd pwyslais ac ymdrechion mawr yn cael eu gwneud i sicrhau eu bod yn haws i’w defnyddio, gan hyrwyddo dyluniadau a oedd yn canolbwyntio ar y defnyddwyr a’u defnyddioldeb. Gyda’r mileniwm dechreuodd y broses hon gyflymu – gan gynnwys y newid o deledu analog i ddigidol. Yna, yn 2020 bu cyflymu pellach yn sgil y Pandemig COVID, gydag argyfwng o’r fath wedi golygu bod hyn i gyd wedi digwydd yn gyflym iawn, heb ddim neu fawr ddim ystyriaeth i’r canlyniadau andwyol i rai dan anfantais neu a oedd wedi’u hallgau’n ddigidol.
Mae ffenomenon gynyddol unigrwydd yn un o’r canlyniadau sy’n cael ei gydnabod fel un hynod o negyddol a niweidiol ac mae bellach wedi ennill lle amlwg ar yr agenda wleidyddol. Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos bod y symud o gyfathrebu a chysylltiad dynol i’r digidol wedi golygu bod unrhyw fesurau ystyrlon wedi cael eu rhoi ar waith i wyrdroi – neu hyd yn oed atal – y duedd hon. Yn wir, nid oes llawer o dystiolaeth sy’n awgrymu bod y problemau a’r rhwystrau y gallai symud o ‘Ddigidol yn Gyntaf’ neu ‘100% Digidol’ eu creu, yn enwedig i bobl hŷn, yn cael sylw ar lefel polisi.
Mae’n ymddangos bod y syniad o asesiad risg systematig neu ystyriaeth briodol i beryglon posibl difrifol i lesiant ac i’r canlyniadau negyddol a all ddigwydd i lawer o bobl – yn enwedig pobl hŷn – wedi ei anghofio heb roi dim sylw i’r costau dynol, cymdeithasol ac economaidd.
Os am roi sylw i hyn drwy alluogi pobl hŷn i fod ac i barhau wedi’u cysylltu’n ddigidol rhaid gweithredu ar sawl lefel – o ddylunio, ymwybyddiaeth, addysg a dealltwriaeth o’r materion hyn o fewn y gymuned fusnes, cymdeithas ehangach ac, efallai, yn bwysicaf oll, mewn cyfraith. Rhaid i’r dull hwn gynnwys camau i wella a symleiddio profiad y defnyddwyr a bydd yn gofyn am fesurau sy’n arwain at newidiadau effeithiol mewn meysydd allweddol o weithgarwch ar-lein gan gynnwys e-bost, rhwydweithiau WiFi, bancio ar-lein a gwasanaethau llywodraeth, gan gynnwys sefydliadau’r wladwriaeth les.
Ond eto, y gwir yw nad yw’n ymddangos bod polisïau digidoleiddio presennol llawer o fusnesau a sefydliadau eraill yn adlewyrchu’r materion hyn, ac mae hyn yn achos pryder, mae methiant i roi sylw i’r angen am ryw gymaint o gysylltiad dynol i helpu cwsmeriaid hŷn i ddatblygu a gwella eu sgiliau digidol. Gellid sicrhau mynediad rhwydd at gymorth i bobl naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Heb ddarpariaeth o’r fath, mae llawer o bobl hŷn yn wynebu’r dilema o naill ai gael eu hallgau rhag cael mynediad at bob math o fanteision y byd digidol neu orfod ildio’u hannibyniaeth werthfawr drwy orfod defnyddio cyfryngwr fel aelod o’r teulu neu ffrind sy’n meddu ar y sgiliau digidol gofynnol. Mae hyn yn rhywbeth sy’n boendod i lawer – yn enwedig y rhai heb neb i’w helpu.
Nid yw polisïau cyfredol ychwaith yn cydnabod, yn achos rhai unigolion, nad yw mynd ar-lein yn bosibl am lawer o resymau, fel nam ar weithrediad yr ymennydd o ganlyniad i glefyd microfasgwlaidd, sy’n effeithio ar niferoedd mawr o bobl dros 50 oed. Mae hyn yn golygu bod opsiynau heblaw’r digidol yn fwy a mwy prin neu nid ydynt ar gael o gwbl. Wrth i bethau fynd fwy a mwy i gyfeiriad y digidol yn gyntaf, mae perygl mawr y gallai’r unigolion hyn gael eu hallgau’n gyfan gwbl rhag defnyddio gwybodaeth a gwasanaethau hanfodol, a fyddai i bob pwrpas yn tynnu’r hawl oddi ar bobl i ymgysylltu a chymryd rhan mewn cymdeithas.
Rydym o bosibl wedi cyrraedd pwynt di-droi’n ôl i gymdeithas o ran yr effaith yr ydym barod i’w dderbyn y bydd digidoleiddio’n ei gael ar fywydau pob un ohonom – yn enwedig ar fywydau pobl hŷn. Diolch i amgylchiadau’r pandemig, mae trefn ddigidol newydd yn brysur ennill ei phlwyf, ac mae’n ymddangos nad oes dim neu fawr ddim lle i bolisïau ac arferion sy’n rhoi pwyslais ar bobl, gyda’r posibiliadau o gyfathrebu wyneb yn wyneb yn prysur ddiflannu.
Mae cwmpas a graddfa’r byd ar-lein, a’i hollbresenoldeb yn cael ei gymryd yn ganiataol erbyn hyn, ac mae hynny’n golygu bod unrhyw un sy’n cael eu hallgau o’r byd digidol o dan anfantais fawr. Mae pobl hŷn yn fwyaf arbennig yn aml yn cael eu hallgau, ac mae hynny’n peryglu eu hiechyd a’u llesiant, ac nid ydynt yn gallu mwynhau’r manteision niferus sydd ar gael i weddill y boblogaeth. Yr eironi mwyaf yw bod yr effeithiau negyddol hyn yn dod o ganlyniad i ddigidoleiddio – sef o bosibl grym mwyaf yr 21fed ganrif i hybu annibyniaeth ac ansawdd bywyd pawb – gan gynnwys pobl hŷn. Yn hytrach, heb unrhyw gyfyngiadau na mesurau diogelu i warchod pobl sydd dan anfantais ddigidol – mae graddfa digidoleiddio a’i effeithiau negyddol yn cyflymu o ddydd i ddydd. Mae’n amlwg bod angen inni gydweithio i atal y datblygiadau hyn ar fyrder.
Enghraifft 1: Archebu pysgod a sglodion ar wyliau
I gwpl hŷn, trodd y pleser syml a’r traddodiad glan môr o brynu pysgod a sglodion ar eu gwyliau traddodiadol yn dasg hirfaith a chymhleth, a oedd yn anodd a rhwystredig iddynt. Ffoniodd y cwpl gangen Bournemouth o’r siop bysgod a sglodion Harry Ramsden’s i archebu eu pryd, rhywbeth roeddent wedi’i wneud droeon o’r blaen heb unrhyw drafferth. Fodd bynnag, y tro hwn, trodd yr hyn yr oeddent wedi’i ddisgwyl a fyddai’n broses syml i fod yn un faith a thrafferthus.
Daeth yn amlwg nad oedd y gangen bellach yn derbyn archebion dros y ffôn a’r unig ffordd o wneud hynny heb aros yn yr adran pryd ar glud o’r bwyty oedd drwy fynd ar-lein a defnyddio Deliveroo. Dechreuodd y cwpl ar y broses anghyfarwydd o ddefnyddio Deliveroo gan ddisgwyl y byddent yn bwyta eu pryd mewn rhyw 30 munud. Yn hytrach, bu’n rhaid iddynt gwblhau o leiaf 17 o wahanol gamau mewnbynnu gwybodaeth – gan gynnwys y gofyniad annisgwyl i gyflwyno sawl eitem o ddata personol. I’r cwpl hwn, nad oedd yn gyfarwydd â phrynu ar-lein – sy’n wir am gymaint o bobl hŷn eraill – roedd yr angen i gwblhau’r broses lafurus, faith a busneslyd hon i archebu pryd ar fwyd yn anghredadwy, ac yn ymylu ar fod yn ffars.
Yn y diwedd, roeddent mor llwglyd a rhwystredig nes iddynt benderfynu gyrru eu car i fwyty Harry Ramsden a sefyll mewn rhes i archebu eu pryd. Gyda dros awr o’u ‘hamser gwyliau’ gwerthfawr wedi’i wastraffu gan rwystredigaeth a dryswch – gyda’r holl beth yn ofer yn y diwedd.
Enghraifft 2: Canslo archeb y dyn llaeth
Yn ddirybudd, canfu gwraig 90 oed a oedd wedi arfer â llaeth yn cael ei ddanfon i’w drws ers blynyddoedd lawer, bod ei harcheb, heb unrhyw rybudd, wedi ei chanslo. Pan holodd ei merch, ar ran ei mam, pam fod hyn wedi digwydd dywedodd y cyflenwr “fod ei mam yn rhywun a oedd yn archebu dros y ffôn, ond nad oeddent yn derbyn archebion o’r fath bellach. Rhoddwyd gwybod iddi am y newid drwy e-bost. Mi fydd yn rhaid iddi fynd ar-lein os yw’n dymuno parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth danfon”.
Nid oedd mynd ar-lein ei hun yn ddewis i’r fenyw 90 oed (cyn aelod o’r staff yn Bletchley Park). Felly, mi oedd y fenyw arbennig hon a wnaeth gymaint o gyfraniad yn ystod y rhyfel yn cael ei hamddifadu o ddarpariaeth mor sylfaenol, a hynny am nad oedd ar-lein. Er bod yr enghraifft ddychrynllyd hon wedi cael sylw ar y rhaglen deledu ‘Rip-Off Britain’, mae’n ymddangos ei bod yn broblem gyffredin iawn, ond nad oes ymdrechion digonol yn cael eu gwneud i’w datrys.
Mae profiadau fel y rhai a ddisgrifiwyd yn y ddwy enghraifft uchod yn digwydd bob dydd ym mhob rhan o’r DU (ac ym mhob rhan o’r byd fwy na thebyg), lle mae canlyniad polisïau digidoleiddio’n cosbi pobl hŷn a llawer o bobl eraill sydd dan anfantais ddigidol.