Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at y ffyrdd y gallai pobl hŷn yng Nghymru gael gwell cefnogaeth i hawlio Credyd Pensiwn a chynyddu eu hincwm.
Mae’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn ddiweddar y Comisiynydd – ‘O’r Trysorlys i Dreorci’ – a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr, a ddaeth ag unigolion a sefydliadau allweddol o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac Age Cymru, i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am eu profiadau, archwilio ffyrdd effeithiol o gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru, cyfrannu syniadau ac addo camau gweithredu i helpu i gyrraedd mwy o bobl sy’n colli allan ar hyn o bryd.
Amcangyfrifir nad yw hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo sy’n rhoi hwb o £65 yr wythnos i’w hincwm, ar gyfartaled, ac yn datgloi amrywiaeth o hawliau eraill – fel gostyngiadau yn y dreth gyngor a chymorth gyda chostau tai, gofal deintyddol a gofal llygaid am ddim, a Thrwyddedau Teledu am ddim i bobl 75 oed a hŷn.
Mae’r adroddiad yn nodi’r ffyrdd y gellid gwella iaith a dulliau cyfathrebu, sut y gellid mynd i’r afael â rhwystrau a stigma, a’r mathau o gyngor a chymorth y mae pobl hŷn yn eu cael fwyaf buddiol wrth geisio hawlio.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau, yn ogystal â thynnu sylw at y camau y bydd y Comisiynydd yn eu cymryd i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli’r cyfle i gael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.
Mae’r gweithredu hwn yn hanfodol gyda bron i 1 person hŷn o bob 5 yng Nghymru yn byw mewn tlodi a’r argyfwng cost byw sy’n golygu bod miloedd yn fwy yn wynebu biliau amhosibl.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Ni chafodd oddeutu £200m o Gredyd Pensiwn ei hawlio yng Nghymru y llynedd – arian a ddylai fod wedi bod ym mhocedi pobl hŷn a oedd yn byw ar incwm isel.
“Er bod amrywiaeth eang o waith yn cael ei wneud ledled Cymru i helpu pobl hŷn i hawlio, mae ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn yn dal yn gymharol isel, gyda llawer o bobl hŷn yn dweud eu bod yn ansicr ynghylch ble i droi am gymorth a chefnogaeth.
“Mae canfyddiadau fy uwchgynhadledd ddiweddar, a nodwyd yn yr adroddiad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw, yn tynnu sylw at y ffyrdd y gallem estyn allan at bobl hŷn a chyfathrebu â nhw’n fwy effeithiol, lleihau’r stigma a’r embaras posibl ynghylch cael Credyd Pensiwn, a sut y gellid gwella’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn.
“Yn yr adroddiad, rwyf hefyd yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddefnyddio data’n fwy effeithiol i ganfod pobl hŷn a allai fod ar eu colled a chynnal ymgyrchoedd pellach i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i hawlio.
“Ochr yn ochr â hyn, gan gydnabod y rôl y gall pob un ohonom ei chwarae o ran cefnogi pobl hŷn i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw, rwyf am i unigolion a sefydliadau wneud Addewid Credyd Pensiwn i dynnu sylw at y camau y byddant yn eu cymryd – pa mor fawr neu fach – i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn a’r cymorth hanfodol y mae’n ei ddarparu.
Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn estyn allan at bobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o fywydau drwy helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn sy’n byw ar yr incwm isaf – llawer ohonynt ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas – yn colli’r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.”
DIWEDD
Darllen Adroddiad yr Uwchgynhadledd