Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n adnewyddu’r holl Gardiau Bws am Bris Gostyngol yng Nghymru.
Y peth pwysicaf i’w nodi yw y bydd eich cerdyn bws presennol yn dal yn ddilys tan ddiwedd y flwyddyn. Felly, does dim brys i wneud cais am gerdyn newydd.
Mae sawl ffordd o wneud cais am gerdyn newydd:
- Defnyddio gwefan Trafnidiaeth Cymru (https://tfw.gov.wales/cy)
- Cysylltu â llinell gymorth Trafnidiaeth Cymru (0300 303 4240) wneud cais am gopi caled neu i gael gwybod lle gallwch gael help
- Cysylltu â’ch cyngor lleol i gael help i lenwi’ch cais
Er mwyn ail-wneud cais, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- Y rhif 19-digid sydd i’w weld ar eich cerdyn presennol
- Eich dyddiad geni
- Eich cod post
- Eich rhif yswiriant gwladol
Ar ôl cwblhau eich cais, dylai gymryd tua 15 diwrnod i chi gael eich cerdyn newydd. Gallwch barhau i ddefnyddio eich cerdyn presennol yn ystod y cyfnod hwn..
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am adnewyddu eich cerdyn, cysylltwch â llinell gymorth Trafnidiaeth Cymru ar 0300 303 4240