Angen Help?
Older woman on phone looking at textiles on a table

Cydweithio: Gwella Cyfleoedd Cyflogaeth i Weithwyr Hŷn yng Nghymru

i mewn Newyddion

Cydweithio: Gwella Cyfleoedd Cyflogaeth i Weithwyr Hŷn yng Nghymru

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi papur ar y rhwystrau y mae llawer o bobl hŷn yn eu hwynebu wrth geisio aros mewn gwaith neu gael gwaith, gan dynnu sylw at y mathau o gamau sydd eu hangen i fynd i’r afael ag oedraniaeth yn y gweithle a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i weithio.

Mae pobl hŷn yn wynebu rhwystrau a heriau sylweddol o ran aros mewn gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith, gydag oedolion dros 50 oed yn grŵp allweddol sy’n cael ei effeithio gan anweithgarwch economaidd cynyddol.

Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru, mae’r angen i alluogi pobl hŷn sy’n dymuno aros mewn gwaith i wneud hynny yn arbennig o bwysig. Erbyn 2025, bydd 1 o bob 3 gweithiwr o Gymru dros 50 oed ac mae gwaith ymchwil gan TUC Cymru wedi canfod bod traean o bobl dros 50 oed yn disgwyl ymddeol yn hwyrach nag yr oeddent yn ei ddisgwyl pan oeddent yn 40 oed.

Mae’r papur hwn yn nodi’r camau y gellir eu cymryd i annog ac i gefnogi pobl hŷn i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith, yn ogystal â mynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran y mae llawer o bobl hŷn yn ei wynebu yn y gweithle.

Darllenwch bapur y Comisiynydd yma

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges