Mynediad Pobl Hŷn at Gyfiawnder Troseddol: Adolygiad Llenyddiaeth
Ebrill 2023
Cyflwyniad
Rôl Comisiynydd annibynnol Pobl Hŷn Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn sy’n byw yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd yn aml yn craffu ar bolisïau ac arferion sydd â’r potensial i effeithio ar hawliau pobl hŷn.
Un o flaenoriaethau’r Comisiynydd yw rhoi’r gorau i gam-drin pobl hŷn yng Nghymru. Mae ymchwil wedi dangos bod pobl hŷn yn wynebu’r un mathau o gamdriniaeth â’r rheini mewn grwpiau oedran iau [i]. Yn wir, gallai rhai pobl hŷn fod mewn mwy o berygl o gamdriniaeth yn sgil teimladau o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol [ii]. Mae’n hysbys bod unigrwydd yn golygu bod person yn fwy agored i gael ei gam-drin, ac mae pobl hŷn yn fwy tebygol o fyw ar eu pen eu hunain [iii] ac i fod yn ynysig yn gymdeithasol [iv].
Mae ymchwil yn dangos bod pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn aml wedi’u gwasanaethu’n wael o ran ymyrraeth ymarferwyr a darpariaeth gwasanaethau cymorth arbenigol. Un maes sy’n parhau i fod o bryder yw nad oes gan bobl hŷn fynediad cyfartal at gyfiawnder troseddol wrth wynebu camdriniaeth neu esgeulustod.
Er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, fe wnaeth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gydnabod yr angen i ddeall graddau’r anawsterau sy’n wynebu pobl hŷn yn well wrth geisio cael mynediad at gyfiawnder troseddol ac i werthfawrogi’r rhwystrau sy’n eu hwynebu’n aml. Yn 2019, comisiynwyd ysgolheigion Canolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth i adolygu’r llenyddiaeth ymchwil cyfredol yn y maes hwn. Nod yr adolygiad llenyddiaeth oedd pennu i ba raddau roedd pobl hŷn yn cael mynediad at gyfiawnder cymdeithasol wrth wynebu camdriniaeth yng Nghymru ac i dynnu sylw at y rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth sicrhau euogfarnau troseddol.
Yn benodol, gofynnwyd i’r ymchwilwyr archwilio ymatebion cyfiawnder troseddol o ran camdriniaeth pobl hŷn mewn cartrefi gofal neu’r GIG a reoleiddir, gyda phwyslais ar brosesau gwneud penderfyniadau’r heddlu. At ddibenion yr adolygiad, penderfynwyd mai’r rhai 60 oed a throsodd oedd ‘pobl hŷn’.
Mae’r papur hwn yn crynhoi prif ganfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth.
Canfyddiadau Allweddol
Yr Ymchwil Cyfredol
Mae’n bwysig cydnabod mai prin yw’r ymchwil yn y maes hwn ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o’r llenyddiaeth ar gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn naill ai’n canolbwyntio ar ba mor gyffredin yw’r cam-drin neu ei oblygiadau a’i effeithiau ar fywydau pobl hŷn. Mae hefyd yn wir fod llawer o’r ymchwil cyfredol yn archwilio camdriniaeth ac esgeulustod pobl hŷn o fewn eu cartrefi eu hunain, yn hytrach nag mewn ysbytai neu gartrefi gofal[v] [vi]. Nid yw hynny i ddweud, serch hynny, nad yw pobl hŷn yn profi camdriniaeth ac esgeulustod mewn ysbytai neu gartrefi gofal. Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin yn 2003, nododd ‘Gweithredu ar Gam-drin Pobl Oedrannus’ fod 21% o’r galwadau i’w llinell gymorth yn ymwneud â
cham-drin pobl hŷn mewn cartrefi gofal, ac roedd 4% o’r galwadau mewn ysbytai [vii]. Awgrymwyd y gallai amlygrwydd cam-drin mewn lleoliadau o’r fath fod yn uwch o lawer mewn gwirionedd. Trafodwyd, er enghraifft, y gallai rhai pobl hŷn gael anhawster riportio camdriniaeth mewn cartref gofal neu ysbyty oherwydd na allant gael mynediad at ffôn i gael sgwrs mewn lle tawel a chyfrinachol. Dangosodd ‘Adroddiad Flynn’ (2015) ar ymchwiliad ‘Operation Jasmine’ pen eithafol camdriniaeth ac esgeulustod mewn cartrefi gofal yng Nghymru [viii]. Sefydlwyd yr ymchwiliad i archwilio i farwolaethau chwe deg tri o bobl hŷn mewn cartrefi gofal yn Ne Ddwyrain Cymru.
Dylid nodi mai prin iawn yw’r ymchwil ar effeithiolrwydd prosesau’r heddlu o wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd lle mae pobl hŷn yn cael eu cam-drin. Mae’n wir hefyd fod y data a gesglir ar droseddau yn erbyn pobl hŷn yn ansylweddol. Yn 2019, cynhaliwyd astudiaeth ar y cyd rhwng Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) a Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi: Mae’r adroddiad (sy’n cael ei alw’n adroddiad ‘Poor Relation’ [ix], yn cyfeirio at y data prin ar droseddau yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru a Lloegr. Mae’n nodi nad yw ffigurau troseddau cyhoeddedig, a gofnodwyd gan yr heddlu, wedi’u dadgyfuno yn ôl oedran ac nad yw troseddau yn erbyn pobl hŷn yn cael eu hamlygu ac na thynnir sylw atynt i’w dadansoddi ymhellach.
Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, serch hynny, roedd canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth yn cynnig cipolwg pwysig ar yr anghydraddoldebau o ran mynediad pobl hŷn at gyfiawnder troseddol wrth wynebu camdriniaeth neu esgeulustod. Mae hefyd yn tynnu sylw at rai o’r rhesymau posib dros yr anghydraddoldebau hyn.
Mynediad Pobl Hŷn at Gyfiawnder Troseddol
Anaml y caiff euogfarnau troseddol eu dwyn yn erbyn y rhai sy’n cam-drin pobl hŷn. Yn 2018, nododd Prif Erlynydd Cymru ar y pryd, o’r 35,000 o droseddau a erlynwyd yng Nghymru yn y flwyddyn flaenorol, dim ond 250 o’r troseddau a oedd yn erbyn pobl hŷn.[x] Mae darlun tebyg yn dod i’r amlwg ar draws y DU, fel y dangoswyd mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon (adroddiad COPNI) [xi]. Mae’r adroddiad hwn yn nodi bod pobl hŷn yn llai tebygol o fod yn ddioddefwyr troseddau na’r rhai mewn grwpiau oedran eraill. Serch hynny, pan roedd pobl hŷn yn ddioddefwyr troseddau, dywedwyd bod yna ffactorau a oedd yn cynyddu eu bregusrwydd yn sylweddol. Dywedodd yr adroddiad fod y canlyniadau ar gyfer pobl hŷn a oedd yn ddioddefwyr troseddau yn anffafriol.
Y Ddeddfwriaeth Bresennol
Er nad yw ‘cam-drin pobl hŷn’ yn drosedd ar ei phen ei hun, mae’r gyfraith bresennol yn caniatáu euogfarnu nifer o ymddygiadau a fyddai’n gyfystyr â cham-drin person hŷn. Byddai’r ystod lawn o droseddau o dan y gyfraith droseddol gyffredinol yng Nghymru a Lloegr yn berthnasol i sefyllfaoedd lle byddai person hŷn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso (gallai camdriniaeth fwriadol neu ataliaeth gynnwys gwahanol fathau o ymosodiad o dan statud a chyfraith gyffredin, er enghraifft). Mae sawl trosedd benodol hefyd sy’n gymwys i ofalwyr neu ddarparwyr gofal. Er enghraifft, mae Deddf Iechyd Meddwl (1983) yn ei gwneud yn drosedd i aelod o staff neu reolwr o fewn cartref gofal ‘gam-drin’ neu esgeuluso person yn fwriadol sy’n derbyn triniaeth am anhwylder meddwl. Yn yr un modd, mae Deddf Galluedd Meddyliol (2005) yn ei gwneud yn drosedd i ofalwr gam-drin person heb alluedd.
Gellid dadlau bod y newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth yn cynyddu’r siawns o ddod ag euogfarnau troseddol yn erbyn y rhai sy’n cam-drin neu’n esgeuluso pobl hŷn. Er enghraifft, honnir bod ‘y Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol a Lladdiad Corfforaethol’ yn 2008 wedi lleihau’r her o ddal cwmnïau’n atebol am dorri dyletswydd gofal. Mae canllawiau arfer da hefyd wedi’u cyhoeddi, i gryfhau gwaith sefydliadau a staff rheng flaen. Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau yng Nghymru a Lloegr ( (Cod y ‘Dioddefwyr’) [xii], yn amlygu pwysigrwydd hollbwysig rôl gynnar yr heddlu o ran troseddau yn erbyn pobl hŷn. Mae hefyd yn nodi’n glir y gallai rhai pobl hŷn sy’n ddioddefwyr troseddau fod yn arbennig o agored i niwed, ac felly efallai y bydd angen cymorth arbenigol arnynt wrth iddynt ymgysylltu â phrosesau cyfiawnder troseddol. Mae’r Cod yn rhoi enghreifftiau o’r “mesurau arbennig” hyn, a allai gynnwys person hŷn yn cael mynediad at gyfryngwr cofrestredig ar gyfer cyfweliadau’r heddlu a gwrandawiadau llys. Mae cyfryngwyr cofrestredig yn arbenigwyr cyfathrebu; maent yn cefnogi tystion sy’n agored i niwed roi tystiolaeth i’r heddlu neu i’r llysoedd mewn treialon troseddol.
Y Rhwystrau Sy’n Wynebu Pobl Hŷn Wrth Gael Mynediad at Gyfiawnder Troseddol
Serch hynny, er gwaethaf y datblygiadau hyn, ceir anghydraddoldebau o hyd o ran mynediad pobl hŷn at gyfiawnder troseddol. Tynnodd yr adolygiad llenyddiaeth sylw at rai o’r rhesymau dros ddiffyg mynediad pobl hŷn at gyfiawnder troseddol. Ceir pryderon nad yw’r argymhellion a wreiddiwyd o fewn arferion da yn cael eu dilyn yn gyson ac nad yw ymchwiliadau wastad yn amserol [xiii]. Pan fydd oedi gydag ymchwiliadau, ceir risg y bydd tystiolaeth hollbwysig yn cael ei cholli. Ceir adegau hefyd pan na chaiff pobl hŷn eu hatgyfeirio’n briodol at wasanaethau cymorth arbenigol fel cyfryngwyr cofrestredig [xiv].
Un thema o fewn y llenyddiaeth sy’n helpu i egluro lefelau isel pobl hŷn o ran mynediad at gyfiawnder troseddol yw’r broblem ‘meddylfryd ymarferwyr’. Dadleuir bod nifer o ymarferwyr yn ystyried ac yn delio â chamdriniaeth yn wahanol pan fydd yn cael ei wneud i berson hŷn. Yn naturiol, mae ymyriadau troseddol yn gyffredin mewn sefyllfaoedd lle mae pobl iau yn wynebu camdriniaeth. Mewn gwrthgyferbyniad, mae camdriniaeth pobl hŷn yn tueddu i gael ei thrin drwy asiantaethau iechyd a lles, yn hytrach na systemau cyfiawnder troseddol [xv]. Yn 2010, nododd John Williams fod ei ‘ddull lles’ wedi dad-droseddoli camdriniaeth pobl hŷn. Er ei fod yn cydnabod na ddylid erlyn pob achos o gam-drin yn erbyn pobl hŷn, dadleuodd serch hynny y dylai fod ymateb ‘priodol’ a ‘chymesur’ gan yr heddlu [xvi]. Mewn astudiaeth am fynediad pobl hŷn at gyfiawnder sifil neu droseddol am amddiffyniad rhag cam-drin domestig, canfu
A. Clarke et al. nad oedd ymarferwyr yn trafod opsiynau cyfiawnder troseddol neu sifil gyda dwy ran o dair o ddioddefwyr hŷn [xvii]. Nododd Adroddiad Flynn nad oedd hi’n wybyddus, i raddau helaeth, a oedd troseddau’n cael eu hystyried mewn cysylltiad ag ymchwiliad Operation Jasmine, neu a wnaed ymyriadau drwy weithdrefnau diogelu yn unig.[xviii]
Casgliadau
Mae canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth yn dangos lefelau isel pobl hŷn o ran mynediad at gyfiawnder troseddol wrth wynebu camdriniaeth ac esgeulustod. Maent hefyd yn amlygu’r rhesymau posib dros yr anghydraddoldebau hyn. Ar yr ochr bositif, mae ymchwil cyfredol yn ein helpu i ddeall beth sydd angen ei newid os ydym am sicrhau bod gan bobl hŷn fynediad cyfartal at gyfiawnder troseddol. Mae’n amlwg, er enghraifft, bod rhai pobl hŷn yn fwy agored i niwed, a bod rhaid i’r rhain gael eu hystyried pan fyddant yn ymgysylltu ag asiantaethau cyfiawnder troseddol. Lle bo’n briodol, mae’n bwysig bod pobl hŷn yn cael mynediad at gymorth arbenigol fel cyfryngwyr cofrestredig, i’w cefnogi wrth iddynt lywio eu ffordd drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r ‘mesurau arbennig’ hyn yn hanfodol os ydym am sicrhau bod euogfarnau troseddol yn cael eu dwyn yn briodol yn erbyn y rhai sy’n cam-drin ac yn esgeuluso pobl hŷn.
Mae’n broblematig pan fydd ymarferwyr o bob disgyblaeth yn ystyried cam-drin pobl hŷn yn wahanol rywsut i’r gamdriniaeth sy’n cael ei phrofi gan y rheini mewn grwpiau oedran iau. Mae’r cysyniad o gamdriniaeth yn nhermau lles (gyda phwyslais, o bosib, ar straen gofalwyr) yn arwain at wahanol ymyriadau gan ymarferwyr, sy’n aml yn methu ag ystyried hawl person hŷn i gael mynediad at gyfiawnder troseddol. Mae canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth hwn yn ei gwneud yn glir y dylai ymarferwyr a sefydliadau fyfyrio ar eu syniadau a herio o ran camdriniaeth pobl hŷn (ei achosion posib a deinameg). Dylai hyfforddiant proffesiynol amlygu’r anghydraddoldebau presennol o ran mynediad pobl hŷn at gyfiawnder troseddol. Dylai hefyd godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarferwyr yn ystyried ymatebion cyfiawnder troseddol wrth weithio gyda phobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Diolchiadau
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am gydnabod, gyda diolch, gwaith Sarah Wydall a chydweithwyr Canolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol, Prifysgol Aberystwyth wrth gynhyrchu’r adolygiad llenyddiaeth, y mae’r crynodeb hwn yn seiliedig arno.
[i] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru.pdf (olderpeople.wales)
[ii] Mysyuk, Y., Westendorp, R.G.J. and Lindenberg, J.2016. How Older Persons explain why they become victims of abuse. Age and Ageing (45), t. 695-702.
[iii] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020). People living alone aged 65 years and over, by specific age group and sex, UK 1996-2019. Ar gael yn: People living alone aged 65 years old and over, by specific age group and sex, UK, 1996 to 2019 – Office for National Statistics (ons.gov.uk)
[iv] Y GIG (2018). Loneliness in Older People. Ar gael yn: Loneliness in older people – NHS (www.nhs.uk) {Mynediad 13/08/21}.
[v] Brogden, M. and Nijhar, P. 2000. Crime, Abuse and the Elderly. Willian Publishing.
[vi] Penhale, B. 2008. Elder Abuse in the UK. Journal of Adult Abuse and Neglect. 20(2), t. 151-168.
[vii] Action on Elder Abuse. 2003. Memorandum to the UK Parliament Select Committee. Ar gael yn: https://publications.parliament.uk/pa/cm200304/cmselect/cmhealth/111/111.pdf
[viii] Flynn, M. 2015. In search of accountability – a review of the neglect of older people living in care homes investigated as Operation Jasmine (2015). Ar gael yn: in-search-of-accountability-a-review-of-the-neglect-of-older-people-living-in-care-homes-operation-jasmine_1.pdf (gov.wales)
[ix] HMCPSI a’r CPS. 2019. The Poor Relation: The Police and Crime Prosecution Service’s Response to Crimes against Older People. Ar gael yn: https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/wp-content/uploads/crimes-against-older-people.pdf
[x] Rees, J. BBC. 2019. Prosecutor wants more convictions for crimes against the elderly. Ar gael yn: Prosecutor wants more convictions for crimes against elderly – BBC News
[xi] COPNI, 2019. Crime and Justice: The Experience of Older People in Northern Ireland. Ar gael yn: 206567-online-a4-crime-report-56p.pdf (copni.org)
[xii] MoJ. 2020. The Code of Practice for Victims of Crime in England and Wales. Ar gael yn: MoJ Victims Code 2020 (publishing.service.gov.uk)
[xiii] HMCPSI a’r CPS. 2019. The Poor Relation: The Police and Crime Prosecution Service’s Response to Crimes against Older People. Ar gael yn: https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/wp-content/uploads/crimes-against-older-people.pdf
[xiv] MoJ. 2020. The Code of Practice for Victims of Crime in England and Wales. Ar gael yn: MoJ Victims Code 2020 (publishing.service.gov.uk)
[xv] Brogden, M. and Nijhar, P. 2000. Crime, Abuse and the Elderly. Willian Publishing.
[xvi] Williams, J. 2012. Elder Abuse: Criminological Perspective. In Brookman, F., Maguire, M., Pierpoint, H. and Bennet, T. Handbook on Crime. Dawson Books.
[xvii] Clarke, A., Williams, J. and Wydall, S. 2016. Access to justice for victims / survivors of elder abuse: A qualitative study’. Social Policy and Society 15(2), t. 201-220.
[xviii] [xviii] Flynn, M. 2015. In search of accountability – a review of the neglect of older people living in care homes investigated as Operation Jasmine (2015). Ar gael yn: in-search-of-accountability-a-review-of-the-neglect-of-older-people-living-in-care-homes-operation-jasmine_1.pdf (gov.wales)