Ym mis Ebrill 2021, sefydlodd y Comisiynydd Grŵp Hawliau Pobl Hŷn sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal. Mae’r Grŵp yn dwyn ynghyd sefydliadau o bob cwr o’r DU sy’n gweithio gyda’i gilydd i gryfhau hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn gwybod, yn deall, ac yn gallu defnyddio eu hawliau.
Mae’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd ar draws y meysydd allweddol canlynol:
- Codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal
- Cynhyrchu gwybodaeth am Hawliau Dynol a hawliau cyfreithiol
- Hyrwyddo urddas, parch a chynnal hawliau
- Gweithio gyda rheoleiddwyr y gwasanaeth a’r gweithlu i wreiddio Hawliau Dynol mewn fframweithiau arolygu ac o fewn ymarfer gofal cymdeithasol
- Gwella sicrwydd deiliadaeth preswylwyr
- Cynyddu mynediad preswylwyr cartrefi gofal at eiriolaeth annibynnol, yn enwedig i’r preswylwyr hynny heb deulu na ffrindiau
- Datblygu dull strategol o ddefnyddio data cwynion i wella ymarfer
- Dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth.

Mae’r Grŵp hefyd wedi cefnogi cynhyrchu’r canllaw Byw mewn Cartref Gofal yng Nghymru: Canllaw i’ch Hawliau.
Datblygwyd y canllaw i helpu pobl hŷn a’u teuluoedd i ddeall yn well yr hawliau sydd ganddynt, yr hyn y gallant ei wneud os ydynt yn pryderu nad yw eu hawliau’n cael eu cynnal, a manylion sefydliadau a all ddarparu cymorth a chefnogaeth.
Mae Grŵp Hawliau Pobl Hŷn sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal yn cynnwys yr aelodau canlynol:
- Age Cymru
- Age UK
- Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
- Fforwm Gofal Cymru
- Arolygiaeth Gofal Cymru
- Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon
- Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Y Fforwm Gofal Cenedlaethol
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Cymdeithas Perthnasau a Phreswylwyr
- Scottish Care
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- John Williams, Athro Emeritws yn y Gyfraith, Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Age Cymru.