Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd: Gwasanaethau Llyfrgell a Hamdden Awdurdodau Lleol
17 Mawrth 2023
Cyflwyniad
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd ar Wasanaethau Llyfrgell a Hamdden Awdurdodau Lleol. Mae’n hanfodol bod gwasanaethau llyfrgell a hamdden yn hygyrch i bobl hŷn gan eu bod yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a diddordebau cymdeithasol, yn ogystal â chymorth iechyd a lles pwysig.
Hoffai’r Comisiynydd gynnig sylwadau am y meysydd penodol sydd wedi eu nodi isod.
Cyflwr presennol darpariaeth gwasanaeth hamdden a llyfrgelloedd yr awdurdodau lleol
Mae darpariaeth bresennol gwasanaethau llyfrgell a hamdden awdurdodau lleol ledled Cymru yn amrywio, yn dibynnu ar amrywiaeth o faterion, yn anad dim o ran ardal leol.1 Mae cael mynediad i wasanaethau o’r fath mewn rhannau gwledig o Gymru yn debygol o fod yn anoddach, yn enwedig os yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Llyfrgelloedd
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am wasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru ac mae yna ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 i ddarparu gwasanaeth ‘cynhwysfawr ac effeithlon’ i’w thrigolion.2
Mae nifer y llyfrgelloedd wedi gostwng o’i uchafbwynt o 310 yn 2004/5 i 240 o lyfrgelloedd yn 2020/21.3 Canfu ymchwil a wnaed yn Lloegr yn 2019-20, cyn y pandemig, fod cyfradd presenoldeb llyfrgell ar gyfer oedolion rhwng 65 a 74 yn 36%, gyda menywod yn gyffredinol â chyfradd uwch o bresenoldeb na dynion (37% o’i gymharu â 26%).4 Mae’n debyg bod tueddiadau tebyg yn bodoli yng Nghymru. Mae llyfrgelloedd yn llawer mwy na gwasanaeth benthyca llyfrau traddodiadol, ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol yn y gymuned. Dylid cydnabod eu rolau fel canolfannau cymunedol a chanolfannau lle gall pobl o wahanol genedlaethau ddod at ei gilydd hefyd.
Gwasanaethau Hamdden
Mae manteision iechyd corfforol a meddyliol ymarfer corff wedi hen ennill eu plwyf, ac mae’r rhain yn parhau i fod yn wir yn ddiweddarach mewn bywyd. Fodd bynnag, mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn gostwng gydag oedran ar hyn o bryd. Mae data gan Chwaraeon Cymru yn dangos bod cyfran is o oedolion rhwng 55 a 64 oed, 65-74 oed, a 75+ wedi cymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol ac i grwpiau oedran iau.5 Dim ond 49,000 o bobl dros 75 oed a gymerodd ran o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol o’i gymharu â 144,000 o bobl rhwng 65 a 74 oed.
Er bod ymchwil gan Chwaraeon Cymru yn dangos bod cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a/neu weithgaredd corfforol yn gostwng gydag oedran, mae 36,000 o bobl 75 oed neu’n hŷn yn dal i fynegi galw am fwy o chwaraeon a/neu weithgaredd corfforol.6 Mae canolfannau hamdden yn darparu cyfleusterau ac ystod o weithgareddau ar gyfer cymunedau, gan gynnwys pobl hŷn. Os na fydd camau’n cael eu rhoi ar waith i ddiogelu cyfleusterau hamdden hygyrch, nid yn unig y bydd Cymru’n parhau i weld galw heb ei ateb am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl hŷn, ond mae’n debygol y bydd cynnydd mewn unigrwydd cymdeithasol a dirywiad yn iechyd a lles pobl hŷn.
Yr heriau ariannol a gweithredol sy’n wynebu awdurdodau lleol i gynnal y gwasanaethau cymunedol hanfodol hyn
Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn effeithio ar wasanaethau llyfrgell a hamdden oherwydd costau ynni cynyddol. Adroddir bod costau rhedeg pyllau nofio yn unig wedi codi cymaint â thair gwaith.7 Yn ôl arolwg o aelodaeth ukactive, mae tri chwarter (74%) o ardaloedd cynghorau wedi’u dosbarthu’n ‘ansicr’ ar draws y DU, sy’n golygu bod perygl o gau canolfannau hamdden a/neu lai o wasanaethau cyn 31 Mawrth 2024. Yn y tymor byr, mae 40% o ardaloedd cynghorau’r DU mewn perygl o golli eu canolfan(au) hamdden neu weld llai o wasanaethau yn eu canolfan(au) hamdden cyn 31 Mawrth 2023.8 Er nad yw’r arolwg yn rhoi mewnwelediad ar lefel Cymru, mae hyn yn dal i awgrymu tuedd bryderus o ran cyfleusterau a bod gwasanaethau dan fygythiad. Mae hyn yn peri pryder gan y byddai’n golygu llai o fynediad at fannau cyfarwydd a hygyrch i bobl hŷn ymarfer corff.
Mae gwasanaethau hamdden hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymarfer corff a rhyngweithio cymdeithasol. Mae ymchwil gan Chwaraeon Cymru yn dangos mai’r ail weithgaredd mwyaf cyffredin oedd oedolion am wneud mwy ohono oedd dosbarthiadau ffitrwydd, lle roedd 115,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau cymryd rhan fwy. Er nad yw dadansoddiad oedran ar gael ar hyn o bryd, bydd pobl hŷn yn rhan o’r galw hwn ac mae gwasanaethau hamdden yn aml yn cynnig mynediad at ystod o wahanol ddosbarthiadau ffitrwydd.9
Mae gallu cadw’n actif yn hanfodol er mwyn galluogi pawb i heneiddio’n dda. Gall gwasanaethau hamdden hefyd chwarae rhan mewn atal cwympiadau ymhlith pobl hŷn gyda rhai yn cynnig dosbarthiadau gyda’r nod o ddatblygu’r cryfder a’r cydbwysedd sydd ei angen i leihau’r risg o syrthio.10 Bydd tua 132,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn syrthio mwy nag unwaith yn eu cartref, tra bydd 8,100 o bobl hŷn yn dioddef anaf difrifol, gan ofyn am ymweliad ysbyty o ganlyniad i syrthio a bod gan wasanaethau hamdden hygyrch rôl i’w chwarae wrth helpu i leihau’r nifer hwn.11
Rhaid i bobl hŷn beidio ag ysgwyddo’r baich o doriadau i wasanaethau llyfrgell a hamdden – byddai hynny’n annheg. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn berthnasol i awdurdodau lleol ac mae’n rhaid iddynt roi sylw dyladwy i hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau.12 Pan fydd gwariant cyhoeddus yn cael ei leihau, mae’n rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ariannol anodd, ond rhaid ystyried yr effaith ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys oedran. Mae asesiadau o effaith ar gydraddoldeb yn ffordd o ddangos bod effeithiau ynghlwm wrth newid polisi wedi cael eu hystyried yn briodol.13 Mae angen i awdurdodau lleol allu dangos eu bod wedi ystyried yr effaith ar bobl hŷn o unrhyw ostyngiadau i wasanaethau. Bydd cyhoeddi’r wybodaeth cydraddoldeb sy’n cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau, gan gynnwys unrhyw asesiadau effaith ar gydraddoldeb, cyn i newidiadau gael eu gweithredu yn gwella tryloywder.
Sut mae darpariaeth gwasanaethau eraill awdurdodau lleol yn rhyngweithio â gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd
Cynhwysiant digidol a darparu gwybodaeth i’r rhai nad ydynt ar-lein
Mae gweithgarwch cynhwysiant digidol a ddarperir neu a gynhelir gan awdurdodau lleol yn rhyngweithio â llyfrgelloedd a all weithredu fel lleoliadau ar gyfer trosglwyddo sgiliau. Wrth i fwy o wasanaethau fanteisio ar ddull digidol yn gyntaf, mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin sgiliau digidol ymhlith pobl hŷn ac eisoes yn darparu mynediad at wasanaethau gwybodaeth a chymorth. Dangosodd ymchwil nad oes gan 31% o bobl dros 75 oed fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nid yw 33% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys teledu a dyfeisiau clyfar), o’i gymharu â 13% o bobl 65-74 oed a 0% o bobl 25-44 oed.14 Mae angen cynnal rôl llyfrgelloedd wrth gefnogi datblygiad sgiliau digidol. Bydd hyn yn galluogi pobl hŷn sy’n dymuno datblygu sgiliau ar-lein i gael hyfforddiant ffurfiol neu anffurfiol mewn amgylchedd croesawgar a chyfarwydd, gan helpu i wella cynhwysiant digidol. Fodd bynnag, mae llyfrgelloedd hefyd yn gweithredu fel ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth i’r bobl hŷn hynny nad ydynt yn gallu neu’n dewis peidio â chael mynediad i’r we, gan leihau gwaharddiad digidol. Mae hyn yn hanfodol.
Mae rôl llyfrgelloedd i gefnogi darpariaeth gwybodaeth i bobl hŷn a gweithredu fel lleoedd lle gall pobl gael mynediad i’r we yn debygol o ddod yn gynyddol bwysig. Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i gael effaith negyddol ar gyllidebau cartrefi, mae ymchwil yn awgrymu bod rhai pobl yn lleihau gwasanaethau rhyngrwyd a band eang. Yn ôl ymchwil gan y Good Things Foundations, does gan dros un o bob 20 o gartrefi ddim rhyngrwyd o gwbl.15 Mae ymchwil gan Ofcom yn dangos bod 32% o gartrefi yn y DU yn cael problemau wrth dalu am eu ffôn, band eang, teledu, a biliau ffrydio.16 Mae pobl hŷn ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau gwario anodd ac yn debygol o fod ymhlith y rhai sy’n torri’n ôl ar fynediad i’r we. Gallai hyn arwain at gynnydd mewn lefelau o ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn yn ogystal â thanseilio sgiliau a hyder digidol presennol. Felly, mae angen diogelu gwasanaethau llyfrgell a hamdden i helpu pobl hŷn gael gafael ar wybodaeth, a lle bo’n briodol, meithrin hyder a datblygu sgiliau wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.
Cymunedau Cyfeillgar i Oedran
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn disgrifio cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oedran fel lleoedd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i gefnogi a galluogi ni i gyd i heneiddio’n dda. Mae gwasanaethau llyfrgell a hamdden yn ffitio ar draws sawl maes o’r wyth parth a gwmpesir o fewn cymunedau Cyfeillgar i Oedran Sefydliad Iechyd y Byd sef:
- Mannau ac adeiladau awyr agored
- Trafnidiaeth
- Tai
- Cyfranogiad cymdeithasol
- Parchu a chynhwysiant cymdeithasol
- Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd.17
Mae llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden yn gweithredu fel mannau lle gall pobl o bob oed gymdeithasu a dod o hyd i wybodaeth a’i rhannu, gan gyfrannu at les a chyfranogiad mewn bywyd cymunedol.
Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £1.1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi eu gwaith i ddod yn gyfeillgar i’r oedran a sicrhau bod pobl hŷn yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chynllunio gwasanaethau lleol.18 Dylai hyn barhau i gynnwys gwasanaethau llyfrgell a hamdden. Mae’r gefnogaeth i wasanaethau llyfrgell a hamdden presennol, ynghyd â datblygu dulliau newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau’n barhaus, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod Cymru’n gweld llai o unigrwydd cymdeithasol a chyfle gwell i gyfranogiad cymdeithasol a dinesig i bobl hŷn. Mae’r camau y mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi eu rhoi ar waith i ddod yn fwy cyfeillgar i oedran hyd yma yn rhywbeth i’w croesawu. Mae angen i awdurdodau lleol barhau i ddiogelu a datblygu rhagor o fannau cymunedol i gefnogi cymunedau sy’n addas i oedran ledled Cymru.
Trafnidiaeth
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y ddarpariaeth trafnidiaeth a chynllunio. Mae’n bwysig bod pobl hŷn yn cael mynediad rhwydd at unrhyw wasanaeth sydd ei angen arnynt, ac mae hyn yn cynnwys llyfrgell a gwasanaethau hamdden ledled Cymru. Roedd gwaith ymchwil gan Age Cymru nôl yn 2013 yn dangos pwysigrwydd gwasanaethau bws: mae llawer o bobl hŷn yn dibynnu’n llwyr ar y bysiau i fyw eu bywydau bob dydd.19 Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad hwnnw’n parhau i fod yn berthnasol wrth i heriau gan gynnwys prinder gwasanaethau, newidiadau i’r ddarpariaeth a hygyrchedd barhau i gael eu hamlygu i’r Comisiynydd. Mae effaith barhaus Covid-19 ar ddarpariaeth drafnidiaeth, gan gynnwys gwasanaethau bysiau, yn arwain at ganlyniadau difrifol i allu pobl hŷn i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd, boed hynny ar gyfer hamdden neu’n angenrheidiol.
Mae’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dod i ben yn 2018 yn nodi ymhlith yr aelwydydd gyda dim ond un oedolyn sydd wedi ymddeol ac sy’n dibynnu’n helaeth ar bensiwn gwladol, dim ond 43% ohonynt sy’n berchen ar o leiaf un car neu fan.20 Mae hyn yn golygu nad yw dros hanner yr aelwydydd hyn yn berchen ar eu cerbyd eu hunain. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i’w gallu i deithio tu hwnt i’w pellter cerdded unigol.
Gyda chymhorthdal Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr bysiau yn dod i ben yn haf 2023,21 bydd yn hanfodol sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith niweidiol ar bobl hŷn. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos pobl hŷn sy’n byw mewn ardaloedd gwledig lle, oherwydd y gostyngiad yn nifer y teithwyr ers y pandemig,22 efallai nad yw’n broffidiol bellach i gwmnïau redeg gwasanaethau gwledig mor aml neu o gwbl. Bydd hyn yn datgysylltu pobl hŷn oddi wrth wasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden.
Mae awdurdodau lleol eisoes yn gweithio gyda gweithredwyr, Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a rhanddeiliaid eraill i ddarparu rhwydwaith bysiau.23 Mae system drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i chynllunio’n dda yn galluogi pobl o bob oed i gael mynediad at lyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden. Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl hŷn i sicrhau bod eu hanghenion a’u dymuniadau’n cael eu hadlewyrchu wrth ddylunio, cynllunio a newid llwybrau bysiau yn eu hardaloedd.
Fel yn achos newidiadau arfaethedig i leoliad ac oriau agor y llyfrgell a chanolfannau hamdden, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys asesu’r effaith ar bobl hŷn, wrth wneud newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau bysiau a allai effeithio ar allu pobl hŷn i gyrraedd gwasanaethau hamdden a llyfrgell. Mae angen i lwybrau cludiant cyhoeddus ac amserlenni alluogi mynediad i’r gwasanaethau hyn.
Mae’r gwaith o greu hybiau sy’n dod â sawl gwasanaeth at ei gilydd, a lle maen nhw’n atal gwasanaeth lleol rhag cael ei gau’n barhaol, yn cael ei groesawu gan ei fod yn caniatáu i wasanaethau llyfrgell a hamdden barhau i fodoli mewn cymuned. Os caiff hybiau mewn safleoedd newydd eu creu, mae cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth leol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau hamdden a llyfrgell drwy drafnidiaeth gyhoeddus.
Dulliau cyflawni amgen ac arfer da
Mae’n bwysig sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell a hamdden lleol yn gynaliadwy mewn hinsawdd ariannol heriol. Mae hyn yn golygu archwilio ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaethau i gymunedau sy’n parhau i ddiwallu anghenion cymunedau, gan gynnwys pobl hŷn.
Dylid edrych ar fodelau amgen o ddarpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys cydweithio a chydleoli gyda gwasanaethau eraill. Mae un enghraifft o arfer da o hyn i’w gweld yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, un lleoliad sy’n darparu gwasanaethau iechyd, ffitrwydd, a gwasanaethau llyfrgelloedd mewn lleoliad cyfleus, gan alluogi trigolion i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd i gefnogi eu lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol gyda’i gilydd. Menter gymdeithasol sy’n gweithredu’r cyfleuster hwn, mewn partneriaeth â’r cyngor lleol a’r bwrdd iechyd, gan dderbyn atgyfeiriadau meddygon teulu a gall ddarparu gwasanaethau ar y safle mewn ymateb.24
Casgliad ac argymhellion
Mae llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden yn cynnig lleoliadau hanfodol ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgareddau a diddordebau cymdeithasol, ochr yn ochr â gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer cynnal a gwella iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru a lleihau unigrwydd. Mae cynigion i dorri ar wasanaethau, boed hynny drwy dorri oriau neu gau adeiladau, yn peri risg o bobl hŷn ledled Cymru yn colli mynediad i’r ystod eang o weithgareddau a gynigir gan lyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden: canolfannau cynghori sy’n darparu cymorth a gwybodaeth, croesawu hybiau sy’n darparu cynhesrwydd corfforol ac emosiynol, a mannau hygyrch lle gall cyfleoedd ar gyfer dysgu, rhyngweithio cymdeithasol a gweithgarwch corfforol ddigwydd. Mae pob un ohonynt yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles. Bydd colled o’r fath yn gwneud llefydd yn llai addas i bob oedran, yn groes i uchelgais Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac ar draul pobl hŷn a chymunedau.
Mae’r Comisiynydd yn argymell:
- Bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi’r wybodaeth cydraddoldeb sy’n helpu i lywio penderfyniadau ynghylch newidiadau neu doriadau i wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd, gan gynnwys unrhyw asesiadau effaith ar gydraddoldeb, i ddangos eu bod wedi ystyried yr effaith ar bobl hŷn yn unol â’u rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Dylai hyn gynnwys unrhyw fesurau lliniaru a nodwyd.
- Mae awdurdodau lleol yn sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell a hamdden yn cael dyraniad o gyllid penodol er mwyn cynnal y ddarpariaeth bresennol cyn belled ag y bo modd, yn enwedig gan fod mannau cymunedol yn hanfodol i gymunedau sy’n gyfeillgar i bob oed.
- Mae awdurdodau lleol yn archwilio modelau amgen o ddarparu gwasanaethau yn ogystal â chydweithio â gwasanaethau eraill, er mwyn helpu i gadw gwasanaethau hamdden a llyfrgell leol ar agor.
- Mae cydweithrediad yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth leol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at wasanaethau hamdden a llyfrgell trwy drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys unrhyw safleoedd newydd, yn enwedig yn sgil y cymorth brys sydd wedi’i gynllunio i dynnu allan o’r diwydiant bysiau.
Nodiadau
1 CILIP, heb ddyddiad, Llyfrgelloedd yng Nghymru, Llyfrgelloedd yng Nghymru – CILIP: y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth
2 Llywodraeth Cymru, 2017, pa mor dda yw eich gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus. Ar gael yn: how-good-is-your-public-library-service-a-summary-guide-to-the-performance-measurement-and-assessment-framework-for-public-libraries-in-wales.pdf (gov.wales), t. 3.
3 Llywodraeth Cymru, Ebrill 2022, Datganiad rhyddid Gwybodaeth 16166: Llyfrgelloedd cyhoeddus. Ar gael yn: Datganiad Rhyddid Gwybodaeth 16166: Llyfrgelloedd cyhoeddus | LLYW.CYMRU
4 Yr Asiantaeth Ddarllen, heb ei ddyddio, ffeithiau’r Llyfrgell. Ar gael yn: Ffeithiau’r Llyfrgell | Asiantaeth Darllen
5 Adroddiad Arolwg Chwaraeon Cymru, 2022, Chwaraeon a Ffordd o Fyw Actif. Ar gael yn: Adroddiad Arolwg Chwaraeon a Ffordd o Fyw Actif, t. 17.
6 Ibid, t. 27.
7 Nofio Cymru, Ionawr 2023, ymgyrch Achub Ein Pyllau. Ar gael yn: https://www.swimwales.org/news/save-our-pools-campaign-launched/
8 Arolwg a gynhaliwyd gan ukactive: anfonwyd yr arolwg at holl weithredwyr hamdden sector cyhoeddus y DU o fewn aelodaeth UKACTIVE, gyda nifer yr ymatebwyr yn cynrychioli mwy na thraean o holl ganolfannau hamdden a phyllau nofio’r DU. Gweler: UKactive, heb ei ddyddio, Deugain y cant o ardaloedd cynghorau sydd mewn perygl o gau canolfannau hamdden a phwll nofio. Ar gael yn: 40% o ardaloedd cynghorau sydd mewn perygl o gau canolfannau hamdden a phyllau nofio a chyfyngiadau cyn mis Ebrill heb gymorth ar unwaith | UKACTIVE
9 Adroddiad Arolwg Chwaraeon Cymru, 2022, Chwaraeon a Ffordd o Fyw Actif. Ar gael yn: Adroddiad yr Arolwg Chwaraeon a Ffordd o Fyw Egnïol Adroddiad yr Arolwg Chwaraeon a Ffordd o Fyw Actif, t.36.
10 Gweler, er enghraifft, Better, sy’n gweithredu canolfannau hamdden ar ran Cyngor Caerdydd: Better UK, heb ei ddyddio, Atgyfeiriad Gweithgaredd Corfforol Healthwise. Ar gael yn: Atgyfeirio Gweithgaredd Corfforol Healthwise | Better UK
11 Gofal a Thrwsio Cymru, Ionawr 2023, Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru. Ar gael yn: Care & Repair english WEB.pdf – Google Drive, t.14.
12 Daeth Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i rym ym mis Ebrill 2011. Gweler: Llywodraeth y DU, Gorffennaf 2022, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Ar gael yn: Gwall! Dydy cyfeirnod yr hyperddolen ddim yn ddilys..
13 Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu deunyddiau i gefnogi asesiadau o effaith ar gydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau. Gweler: EHRC, Heb ei ddyddio, Asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb. Ar gael yn: Asesiadau effaith cydraddoldeb | Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (equalityhumanrights.com)
14 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Awst 2022, Deall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio. Ar gael yn Deall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio 23 Awst (1).pdf
15 Tŷ’r Arglwyddi, 22 Chwefror 2023, Sut mae datrys gwaharddiad digidol mewn argyfwng costau byw? Ar gael yn: Pwyllgorau – Senedd y DU
16 Ibid.,
17 WHO, heb ei ddyddio, Age Friendly World. Ar gael yn: Fframwaith Dinasoedd sy’n gyfeillgar i Oedran WHO – Byd Cyfeillgar i Oedran
18 Llywodraeth Cymru, Ebrill 2022, buddsoddiad o £1.1m i hyrwyddo buddion pobl hŷn wrth i Gymru ddod yn Gyfeillgar i Oedran. Ar gael yn: Buddsoddiad o £1.1 miliwn i hyrwyddo buddion pobl hŷn wrth i Gymru ddod yn Gyfeillgar i Oedran | LLYW. CYMRU
19 Age Cymru, Rhagfyr 2013, Bysus yn Amhrisiadwy i Bobl Hŷn. Ar gael ar: buses—a-lifeline-for-older-people.pdf (ageuk.org.uk)
20 Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ionawr 2019, Canran y cartrefi gyda cheir. Ar gael yn: Canran y cartrefi gyda cheir yn ôl grŵp incwm, deiliadaeth a chyfansoddiad cartref: Tabl A47 – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)
21 Llywodraeth Cymru, Chwefror 2023. Datganiad ar y Cyd am y Cynllun Argyfwng Bysus. Ar gael yn: https://www.gov.wales/joint-statement-bus-emergency-scheme
22 Senedd Cymru, 15 Chwefror 2023, sesiwn lawn, cwestiynau pynciol, ar gael yn: https://record.senedd.wales/Plenary/13221#A77882
23 WLGA, heb ei ddyddio, Trafnidiaeth. Ar gael yn: https://www.wlga.wales/transport
24 Halo Leisure, heb ddyddiad. Ar gael yn: https://haloleisure.org.uk/centres/bridgend/bridgend-life-centre