Ymgynghoriad Trysorlys EF: Gwahardd Galwadau Diwahoddiad am Wasanaethau a Chynhyrchion Ariannol Defnyddwyr
Medi 2023
Cyflwyniad
Rôl Comisiynydd Pobl Hŷn annibynnol Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn sy’n byw yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd yn craffu ar y polisïau a’r arferion hynny fel mater o drefn, gyda’r potensial i effeithio ar hawliau pobl hŷn.
Mae atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae’r Comisiynydd wedi siarad gyda llawer o bobl hŷn sy’n poeni am y risg o dwyll ariannol, ac felly mae’n croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ‘Wahardd Galwadau Diwahoddiad am Wasanaethau a Chynhyrchion Ariannol Defnyddwyr’.
Mae llawer o wahanol fathau o gam-drin ariannol sy’n gallu effeithio ar bobl hŷn. Yn draddodiadol, mae ymchwil wedi canolbwyntio ar gam-drin ariannol o fewn y teulu (hynny yw, camdriniaeth a gyflawnir o fewn teuluoedd, gan aelodau eraill o’r teulu).[i] Yn fwy diweddar, fodd bynnag, bu ymwybyddiaeth gynyddol o’r “bygythiad gan sgamiau ariannol a thwyll marchnata torfol”.[ii] Yma, yn gyffredinol, mae cam-drin ariannol yn cael ei gyflawni gan rywun nad yw’r person hŷn yn ei adnabod.
Cam-drin ariannol yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o gamdriniaeth a brofir gan bobl hŷn.[iii] Canfuwyd bod lefelau cam-drin ariannol a throseddau economaidd a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn wedi cynyddu yn ystod pandemig Covid-19. [iv] [v] Nid oes amheuaeth chwaith y bydd profiad pobl hŷn o gam-drin ariannol a thwyll yn cynyddu oherwydd yr argyfwng costau byw [vi].
Mae’r sylwadau isod yn dilyn trefn y cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori.
Cwestiwn 1: Yn eich profiad chi, beth yw’r prif niwed a achosir gan alwadau diwahoddiad i farchnata gwasanaethau a chynhyrchion ariannol?
Mae galwadau diwahoddiad neu ‘alwadau niwsans’ yn gwneud i lawer o bobl hŷn deimlo’n bryderus, dan straen, ac dan “fygythiad” [vii]. Mae pobl hŷn yn aml yn dweud eu bod yn teimlo “dan bwysau” i brynu cynhyrchion a gwasanaethau, pan fo galwr yn cysylltu[viii]; mewn sefyllfaoedd o’r fath nid oes ganddynt amser i bwyso a mesur gwerth unrhyw bryniant posibl. Efallai y bydd rhai pobl hŷn yn talu symiau gormodol o arian yn y pen draw, am gynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt o reidrwydd eu heisiau na’u hangen. Pa bynnag fodd y mae’n digwydd, gall twyll ariannol gael effaith drychinebus[ix]. Mae’r rhai sy’n profi twyll “yn rhannu llawer o’r un canlyniadau dinistriol â’r rhai sydd wedi dioddef troseddau treisgar difrifol.”[x] Mae rhai dioddefwyr twyll wedi cyflawni hunanladdiad.[xi]
Gall unrhyw un, o unrhyw oedran, ddioddef twyll. Mae ymchwil yn dangos, fodd bynnag, y gall canlyniadau twyll ariannol a throseddau economaidd fod yn arbennig o niweidiol i berson hŷn[xii]. Mae pobl hŷn sy’n profi twyll yn dioddef canlyniadau ymarferol, emosiynol a seicolegol sylweddol. Rhoddwyd yr enghraifft ganlynol gan un o gynrychiolwyr yr Heddlu o Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin y Comisiynydd [xiii]. Mae’n tynnu sylw at ganlyniadau sylweddol twyll ariannol, ar fywydau pobl hŷn. Yn y senario, mae gŵr hŷn yn disgrifio’r effaith o gael ei dwyllo o fwy na £140,000 gan fasnachwyr twyllodrus:
“Mae wedi gwneud i mi deimlo embaras, bod rhywun wedi cymryd mantais ohonof ac rwy’n wirioneddol flin â mi fy hun. Rwy’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth heblaw’r hyn sydd wedi digwydd a minnau bellach yn byw ar fy mhensiwn gwladol, rwy’n rhy ofnus i roi’r gwres ymlaen ac yn rhy ofnus y bydd yn arwain at ormod o gostau ychwanegol. Mae gen i fonitor ynni ac rwy’n cyfyngu fy hun i gadw’r costau i £1 y dydd.”
Mae’r person hŷn yn disgrifio’r cam-drin fel rhywbeth sydd wedi cael effaith ymarferol sylweddol ar ansawdd ei fywyd (mae’n pryderu am gostau gwresogi a rhaid iddo fonitro’r hyn y mae’n ei wario’n ofalus). Mae hefyd yn disgrifio effaith emosiynol y cam-drin, gan ddisgrifio teimladau o embaras, gwarth a chywilydd.
Mae llawer o bobl hŷn sydd wedi cael eu heffeithio gan gamdriniaeth ariannol yn cilio oddi wrth deulu a ffrindiau; gall yr ynysu cymdeithasol cynyddol hwn arwain at iselder.[xiv] Mae eraill yn profi dirywiad yn eu hiechyd corfforol a’u lles, gan arwain at golli annibyniaeth.[xv]
Mae ymchwil yn dangos, pan fydd person hŷn yn cael ei dwyllo yn ei gartref ei hun, eu bod 2.5 gwaith yn fwy tebygol o fynd i gartref ofal preswyl neu farw o fewn blwyddyn i gael ei sgamio.[xvi]
Cwestiwn 2: A ydych yn cytuno y dylai’r gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad gynnwys galwadau ffôn byw i unigolyn?
Mae’r Comisiynydd yn cytuno y dylai’r gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad gynnwys galwadau ffôn byw i unigolyn. Fel y pwysleisiwyd yn y ddogfen ymgynghori, mae sgyrsiau ffôn yn rhoi cyfleoedd unigryw i dwyllwyr bwyso a mesur ymatebion, anesmwythyd a phryderon eu dioddefwyr posibl ac felly dynnu symiau sylweddol o arian. Er bod ymchwil yn awgrymu bod gostyngiad cyffredinol o ran defnyddio llinell dir,[xvii] mae pobl hŷn ymhlith y rhai mwyaf tebygol o barhau i ddefnyddio eu llinell dir gartref. [xviii] I bobl hŷn o’r fath, mae’r ffôn yn ffordd bwysig o gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae Age UK yn adrodd bod 3.9 biliwn o alwadau ffôn niwsans a negeseuon testun yn 2017, sy’n cyfateb i 7,420 y funud. [xix] Dywedodd chwech o bob deg o’r rhai dros 75 oed eu bod wedi derbyn galwad amheus i’w llinell dir yn 2021.[xx]
Cwestiwn 3: I ba raddau y mae marchnata gwasanaethau neu gynhyrchion ariannol yn digwydd yn uniongyrchol, heb ofyn amdano, trwy gyfathrebu byw, electronig, heblaw galwadau ffôn? Beth yw’r effaith os na fydd y cyfathrebiadau hyn yn cael eu cynnwys gan y gwaharddiad?
Mae’n bwysig bod y gwaharddiad yn cael ei weithredu mor eang â phosibl (gan gynnwys, er enghraifft, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel ‘Facebook’ a ‘WhatsApp’). Mae risg y bydd twyllwyr yn symud i ddefnyddio llwyfannau o’r fath i wneud ‘galwadau diwahoddiad’, os nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y gwaharddiad; bydd hyn yn ei dro yn rhoi unigolion mewn perygl ariannol ac economaidd.
Cwestiwn 4: A oes mesurau diogelu eisoes ar waith trwy sefydliadau cyfryngau cymdeithasol sydd eisoes yn diogelu pobl rhag twyllwyr sy’n defnyddio galwadau llais a fideo ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud galwadau diwahoddiad?
Mae trafodaethau’r Comisiynydd gyda rhanddeiliaid yn awgrymu y dylid gwella’r mesurau diogelu presennol ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu’n ddigonol.
Cwestiwn 5: I ba raddau mae marchnata gwasanaethau neu gynhyrchion ariannol yn digwydd trwy werthu o ddrws i ddrws?
Mae ymchwil yn dangos bod gwerthu o ddrws i ddrws yn broblem sylweddol a bod nifer yr achosion o dwyll trwy gyswllt o ddrws i ddrws, wedi cynyddu yn ystod y pandemig.[xxi] Mae’n destun pryder bod twyllwyr ar stepen drws yn aml yn targedu pobl hŷn yn fwriadol.[xxii] [xxiii] Mae twyllwyr yn aml yn credu bod person hŷn yn fwy tebygol o fod gartref yn ystod y dydd, neu y byddant yn haws eu am-drin.[xxiv]
Cwestiwn 6: Sut y gellid gwneud gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad yn effeithiol er mwyn atal gwerthu gwasanaethau a chynhyrchion ariannol o ddrws i ddrws?
Mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad mor eang â phosibl. Mae angen sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gwahanol fathau o alwadau diwahoddiad (er enghraifft dros y ffôn, ar-lein ac ar stepen drws), a bod y gwaharddiad yn cynnwys galwadau diwahoddiad yn yr holl sefyllfaoedd hyn. Mae angen targedu cyhoeddusrwydd yn benodol at bobl hŷn er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gwaharddiad.
Cwestiwn 7: A oes unrhyw fathau eraill o alwadau diwahoddiad ar wahân i gyfathrebu electronig a gwerthu wyneb yn wyneb sy’n achosi niwed i ddefnyddwyr?
Mae datblygiadau mewn technoleg a defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial, yn debygol o arwain at dwyllwyr yn datblygu ffyrdd newydd o gymryd rhan mewn gweithgarwch twyllodrus. Mae ‘sgamiau dynwared’ yn bryder penodol, posibl. Mae’n bwysig bod y ddeddfwriaeth yn gallu cynnwys y risgiau ychwanegol hyn sy’n datblygu.
Cwestiwn 8: A ddylid cynnwys unig fasnachwyr a mathau eraill o bartneriaethau (y tu allan i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a phartneriaethau yn yr Alban) yn y gwaharddiad hwn ar wasanaethau a chynhyrchion ariannol defnyddwyr?
Mae’r Comisiynydd yn cytuno y dylai’r gwaharddiad gynnwys unig fasnachwyr a mathau eraill o bartneriaethau, y tu allan i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a phartneriaethau yn yr Alban. Er enghraifft, gall Cynghorwyr Ariannol Annibynnol weithredu fel unig fasnachwyr, a dylent fod yn destun yr un lefelau craffu â busnesau a chorfforaethau mwy. Nod y broses hon yw symleiddio’r rheolau a’r rheoliadau sy’n ymwneud â galwadau diwahoddiad. Mae ‘bylchau’ yn debygol o’i gwneud hi’n anos i bobl hŷn ac eraill wybod pryd (o dan ba amgylchiadau), mae galw diwahoddiad yn gyfreithlon. Bydd ansicrwydd o’r fath yn cynyddu’r risg o gam-drin ariannol a thwyll.
Cwestiwn 9: A ydych chi’n cytuno y dylai cwmpas y gwaharddiad gynnwys y cynhyrchion a’r gwasanaethau a nodir yn yr adran uchod? A oes unrhyw gynhyrchion eraill a ddylai fod o fewn cwmpas y gwaharddiad arfaethedig ar wasanaethau a chynhyrchion ariannol defnyddwyr a galwadau diwahoddiad?
Mae’n bwysig bod y gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad yn cael ei weithredu mor eang â phosibl. Dylai gwmpasu cymaint o gynhyrchion a gwasanaethau â phosibl i leihau’r risg y bydd twyllwyr yn ailgyfeirio eu gweithgareddau i gynhyrchion a gwasanaethau eraill, nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth.
Cwestiwn 14: Sut arall y gall y llywodraeth sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol o’r gwaharddiad?
“Mae cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a grymuso pobl hŷn yn agweddau canolog ar ymyrraeth ac atal cam-drin ariannol,” ac[xxv] mae’n hanfodol bwysig bod pobl hŷn yn ymwybodol o’r estyniadau i’r gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad. Does gan nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru ddim mynediad at dechnoleg ddigidol, neu dydyn nhw ddim yn dymuno ei defnyddio. [xxvi] Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth drwy ddulliau digidol ac eraill (rhaid paratoi gwybodaeth ar ffurf ysgrifenedig er enghraifft mewn taflenni printiedig, neu bapurau newydd). Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i thargedu (wedi’i hanelu’n benodol at bobl hŷn), yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth mor eang â phosibl, ac nad yw pobl hŷn dan anfantais o ran darparu gwybodaeth.
Cwestiwn 18: Pa effeithiau fyddech chi’n disgwyl eu gweld ar bobl sydd â’r nodweddion gwarchodedig a grybwyllir o ganlyniad i’r gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad am wasanaethau a chynhyrchion ariannol?
Mae oedran yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae llawer iawn o ymchwil i ddangos bod pobl hŷn mewn perygl penodol o dwyll a throseddau economaidd. Mae tystiolaeth gan Safonau Masnach Cenedlaethol yn dangos bod dros hanner y bobl dros 65 oed wedi cael eu targedu gan sgamwyr[xxvii]. Yn yr un modd, canfu Age UK fod dros 5 miliwn o bobl dros 65 oed yn y DU yn credu eu bod wedi cael eu targedu gan sgamwyr [xxviii] a bod person hŷn fel arfer yn dioddef twyll bob 40 eiliad.[xxix]
Gallai amgylchiadau rhai pobl hŷn gynyddu eu risg o ddioddef twyll ariannol. Weithiau caiff pobl hŷn eu targedu gan droseddwyr posibl, er enghraifft, oherwydd ystyrir bod ganddynt lefelau uchel o asedau[xxx]. Gwyddys bod unigrwydd yn gwneud person hŷn yn fwy agored i gael ei gam-drin, ac mae llawer o bobl hŷn yn disgrifio teimladau o unigrwydd. [xxxi] Mae’n hysbys bod pobl hŷn â dementia mewn perygl penodol o gam-drin ariannol a thwyll.[xxxii] [xxxiii] Felly, mae’r cynigion i ymestyn y gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad yn bwysig iawn i amddiffyn a chynnal hawliau pobl hŷn.
Fodd bynnag, mae’n hanfodol cael cydbwysedd rhwng cydnabod y risgiau ychwanegol y mae rhai pobl hŷn yn eu hwynebu, a labelu pob person hŷn yn annheg fel rhywun ‘bregus’ y mae angen amddiffyniad ariannol ychwanegol arno neu arni. Yn amlwg, nid yw hyn yn wir. Pan fydd pobl hŷn yn cael eu trin fel ‘grŵp homogenaidd’, bregus, nid yw gwahaniaethau rhwng aelodau o’r boblogaeth hŷn a’r sgiliau a’r galluoedd niferus sydd ganddynt, yn cael eu cydnabod. Mae’r rhan fwyaf o bobl hŷn yn rheoli ac yn diogelu eu harian eu hunain yn annibynnol, heb unrhyw broblem. Mae’n bwysig bod y ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn cael ei hysgrifennu’n gynhwysol a’i bod yn cydnabod yn glir y gall unrhyw un, o unrhyw oedran, brofi twyll ariannol.
Rhaid cydnabod hefyd y gall gormod o ffocws ar ‘fregusrwydd’, arwain at sefyllfa lle mae pobl rywsut yn cael eu beio am fod yn ddioddefwr twyll ariannol.” Yn rhy aml mae dioddefwyr twyll a throseddau ariannol yn cael eu portreadu fel rhai hawdd eu twyllo, yn agored i niwed, a’u bod felly’n rhannol gyfrifol am eu profiadau. Mae trafodaethau o’r fath “yn methu â chydnabod cymhlethdod nifer y dioddefwyr sy’n cael eu targedu a’r troseddwyr medrus iawn sy’n cam-drin ac yn ecsbloetio dioddefwyr trwy dechnegau peirianneg gymdeithasol soffistigedig”. Mae’n bwysig mynd i’r afael â rhywfaint o’r iaith/derminoleg a ddefnyddir yn y ddogfen ymgynghori. Nid yw cyfeiriadau at bobl sy’n cael eu “twyllo” (tud. 11) i wneud “buddsoddiadau neu gynhyrchion ariannol ffug” twyllodrus o unrhyw fudd, ac maent yn cyfrannu at y naratif hwn. Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl hŷn yn poeni am gael eu beio neu gael eu dal yn gyfrifol am dwyll ariannol ac nad ydynt, felly, yn datgelu eu profiadau.
Cwestiwn 19: A oes gennych chi unrhyw farn neu wybodaeth arall y dylai’r llywodraeth ei hystyried mewn perthynas â’r gwaharddiad arfaethedig ar alwadau diwahoddiad mewn perthynas â gwasanaethau a chynhyrchion ariannol?
Fel rheol, mae’r cynnig i symleiddio’r ddeddfwriaeth bresennol yn gadarnhaol. Bydd ymestyn y gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad (a chodi ymwybyddiaeth o’r cam hwn), yn helpu i sicrhau bod llawer o bobl hŷn yn cael eu grymuso i amddiffyn eu hunain rhag twyll ariannol. Rhaid cydnabod, fodd bynnag, yn achos rhai pobl hŷn, er enghraifft (pobl hŷn y mae eu cof yn pallu oherwydd dementia), na fydd y mesurau hyn yn ddigonol i’w hamddiffyn rhag twyll ariannol. Rhaid sicrhau bod offer fel ‘atalwyr galwadau’ ar gael yn eang a dylai ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen dderbyn hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu adnabod arwyddion twyll ariannol a cham-drin economaidd yn gyflym.
Mae gan fanciau a gwasanaethau ariannol eraill rôl hanfodol hefyd wrth atal a chanfod achosion o gam-drin ariannol ymhlith pobl hŷn. Gall y rhai sy’n gweithio o fewn y gwasanaethau ariannol helpu defnyddwyr i osgoi cael eu twyllo: “gallant addysgu a rhybuddio cwsmeriaid; sylwi ar daliadau a phatrymau amheus (e.e. defnydd o sieciau), a herio hynny; peidio â gadael i dwyllwyr gael mynediad i gyfrifon banc; a darparu cefnogaeth i gwsmeriaid sy’n dod yn ddioddefwyr.” [xxxiv]
Crynodeb
Mae nifer sylweddol o bobl hŷn yn cael eu heffeithio gan dwyll bob blwyddyn yn y DU, gan arwain at ganlyniadau ariannol ac emosiynol dinistriol. Oherwydd y bydd yn symleiddio’r rheolau a’r rheoliadau presennol, mae’r cynigion i ymestyn gwaharddiadau ar alwadau diwahoddiad i helpu i atal twyll yn gam pwysig i’r cyfeiriad iawn. Mae’n bwysig bod y gwaharddiad hwn yn cael ei weithredu mor eang â phosibl, fel na all twyllwyr symud ymlaen i ffyrdd eraill o wneud galwadau diwahoddiad i ddioddefwyr posibl’. Mae’n hanfodol bod pobl hŷn yn ymwybodol o’r camau hyn i ymestyn y gwaharddiad a bod gwybodaeth ar gael mewn gwahanol ffurfiau, trwy weithredu ymgyrch wybodaeth effeithiol wedi’i thargedu.
Cyfeirnodau
[i] Fenge, L.A. and Lee, S. 2018. Understanding the Risks of Financial Scams as Part of Elder Abuse Prevention. British Journal of Social Work (48), tt. 906-923.
[ii] Fenge, L.A. and Lee, S. 2018. Understanding the Risks of Financial Scams as Part of Elder Abuse Prevention. British Journal of Social Work (48), tt. 906-923.
[iii] Phelan, A., McCarthy, S. and McKee, J. 2018. Safeguarding Staff’s Experiences of Financial Abuse. British Journal of Social Work (48), tt. 924-942.
[iv] Newyddion y BBC 2021. Covid fraud: £34.5m stolen in pandemic scams. Ar gael yn: Covid fraud: £34.5m stolen in pandemic scams – BBC News
[v] Ofcom. 2022. Coronorvirus scams, calls and texts. Ar gael yn: https://www.ofcom.org.uk/cymru/phones-telecoms-and-internet/advice-for-consumers/scams/coronavirus-scam-calls-and-texts
[vi] Which? 2023. Cost of living crisis fuels investment scam concerns. Ar gael yn: Cost of living crisis fuels investment scam concerns – Which? News
[vii] Reynolds, M. 2018. Elderly ‘tormented daily’ by scourge of nuisance cold callers. Ar gael yn: Elderly ‘tormented daily’ by scourge of nuisance cold callers | DU | News | Express.co.uk
[viii] [viii]Age UK. 2019. Policy Position Paper: Crimes and Scams (England and Wales). Ar gael yn: ppp_crime_and_scams_england_and_wales.pdf (ageuk.org.uk)
[ix] Wendt, S., Bagshaw, D., Zannettino, L. and Adams, V. 2015. Financial Abuse of Older People: A Case Study. International Social Work 58(2),tt. 287-296.
[x] Marsh, I. 2004. Criminal Justice: An Introduction to Philosophies, Theories and Practice. Llundain: Routledge.
[xi] Newyddion y BBC. 2021. Gwynedd man killed himself after paying romance scammers. Ar gael yn: Gwynedd man killed himself after paying romance scammers – BBC News
[xii] Kingston, P. 2015. Scams can have a devastating impact upon older people’s health. Ar gael yn: Scams can have a devastating impact on older people’s health | Paul Kingston | The Guardian
[xiii] Sefydlodd y Comisiynydd y Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin yn 2020, i helpu i fynd i’r afael â’r risgiau cynyddol o gam-drin pobl hŷn yn ystod pandemig Covid-19. Mae’r grŵp yn parhau i gael ei gynnal bob yn ail fis ac erbyn hyn mae dros dri deg o sefydliadau partner yn bresennol.
[xiv] Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol. 2017. Think Jessica: Shocking Facts. Ar gael yn: Shocking Facts | Think Jessica
[xv] Phelan, A., McCarthy, S. and McKee, J. 2018. Safeguarding Staff’s Experiences of Financial Abuse. British Journal of Social Work (48), tt. 924-942.
[xvi] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau cymorth i bobl hŷn sy’n profi camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasanaeth Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru.pdf (olderpeople.wales)
[xvii] Newyddion y BBC 2021. Is it the end of the line for landline phones? Ar gael yn: Is it the end of the line for landline phones? – BBC News
[xviii] Ofcom. 2020. Declining calls and challenging behaviour.
[xix] Age UK. 2019. Policy Position Paper: Crimes and Scams (England and Wales). Ar gael yn: ppp_crime_and_scams_england_and_wales.pdf (ageuk.org.uk)
[xx] Offcom. 2021. 45 million people targeted by scam calls and texts this summer. Ar gael yn: https://www.ofcom.org.uk/news-centre/2021/45-million-people-targeted-by-scams
[xxi] Wales On-Line. 2020. Suspicious doorstep callers knocking on elderly people’s doors in Pontypridd see police issue new warning. Ar gael yn: Suspicious doorstep callers knocking on elderly people’s doors in Pontypridd sees police issue new warning – Wales Online
[xxii] Age UK. Doorstep Scams. Ar gael yn: Doorstep scams | Scams and fraud | Age UK
[xxiii] Action Fraud. 2019. Most vulnerable in society are more at risk of falling victim to scammers. Ar gael yn: Most vulnerable in society are more at risk of falling victim to fraudsters | Action Fraud
[xxiv] Which? 2021. Doortsep scams and how to avoid them. Ar gael yn: Doorstep scams and how to avoid them – Which?
[xxv] Phelan, A., McCarthy, S. and McKee, J. 2018. Safeguarding Staff’s Experiences of Financial Abuse. British Journal of Social Work (48), tt. 924-942.
[xxvi] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwladwriaeth y genedl. Ar gael yn; Adroddiad Diweddaraf y Genedl-2021.pdf (pobl hŷn.cymru)
[xxvii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau cymorth i bobl hŷn sy’n profi camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Support_Services_for_Older_People_Experiencing_Abuse_in_Wales.pdf (olderpeople.wales)
[xxviii] Age UK. 2019. Policy Position Paper: Crimes and Scams – England and Wales. Ar gael yn: https://www.ageuk.org.uk/globalassets/age-uk/documents/policy-positions/housing-and-homes/ppp_crime_and_scams_england_and_wales.pdf
[xxix] Age UK. 2019. Older Person becomes a victim of fraud every 40 seconds., Ar gael yn: OLDER PERSON BECOMES FRAUD VICTIM EVERY 40 SECONDS| PRESS RELEASE | AGE UK
[xxx] Cross, C. 2015. No laughing matter: Blaming the victim of online fraud”. International Review of Victimology 21(2), tt. 187-204.
[xxxi] Age UK. 2018. All the Lonely People: Loneliness in Later Life. Ar gael yn: loneliness-report_final_2409.pdf (ageuk.org.uk)
[xxxii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau cymorth i bobl hŷn sy’n profi camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Support_Services_for_Older_People_Experiencing_Abuse_in_Wales.pdf (olderpeople.wales)
[xxxiii] Cymdeithas Alzheimer. 2011. Short-Changed: Protecting People with Dementia from Financial Abuse. Ar gael yn: Short Changed: Protecting People with Dementia from Financial Abuse (alzheimers.org.uk))
[xxxiv] Age UK. 2017. Older People, Fraud and Scams. Ar gael yn: rb_oct17_scams_party_conference_paper_nocrops.pdf (ageuk.org.uk