Angen Help?

Cael yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch mewn byd digidol: Deall Eich Hawliau

Image of older people accessing information and services

Cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ei angen arnoch – mewn ffordd gyfleus i chi

Mae gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ei angen arnom, mewn ffordd sy’n gyfleus i ni, yn bwysig i ni gyd.

Ond wyddoch chi fod gennych hawliau i dderbyn gwybodaeth a gwasanaethau, sy’n elfen hanfodol o’n hawliau dynol?

Dyna pam y mae’r Comisiynydd wedi defnyddio ei phwerau cyfreithiol i gyhoeddi canllawiau ffurfiol ar gyfer awdurdodau lleol (cynghorau) a byrddau iechyd, yn egluro pa fesurau sydd angen bod yn eu lle i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, a bod eu hawliau’n cael eu cynnal.

Beth y mae canllawiau’r Comisiynydd yn ei ddweud?

Yn ei chanllawiau, mae’r Comisiynydd yn glir y dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd:

  • sicrhau bod gan bobl nad ydynt yn gallu (neu ddim eisiau) mynd ar-lein neu ddefnyddio’r we yn gallu derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw
  • eich helpu i fynd ar-lein neu ddefnyddio’r we, eich helpu i gysylltu i’r we ac ennill y sgiliau a magu’r hyder i ddefnyddio’r we yn ddioge

Beth y mae hyn yn ei olygu i mi?

Isod rhoddir enghreifftiau o sut y dylech fod yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau yn eich ardal chi:

  • Ffonio gwasanaeth ffôn ‘Cysylltu i’ eich Cyngor i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • Trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb i gael cymorth a chefnogaeth neu i ddatrys problem
  • Ysgrifennu llythyr i gwyno am wasanaeth, lleisio pryder, neu i ofyn am wybodaeth
  • Nôl taflenni gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal o’ch llyfrgell leol
  • Derbyn cylchlythyr yn y post yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a mwyaf diweddar i chi

Mae llawer o awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg prosiectau i helpu pobl hŷn i fynd ar-lein ac mewn rhai ardaloedd mae cynlluniau sy’n gallu rhoi cyfarpar a dyfeisiau (fel cyfrifiadur ‘llechen’) neu fynediad at WiFi, yn ogystal â hyfforddiant a help i’w defnyddio.

I gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, dylech gysylltu â’ch cyngor neu fwrdd iechyd. Gallai eich llyfrgell leol hefyd fod yn lle da i ddod o hyd i’r wybodaeth yma.

“Rwy’n cael trafferth cael beth sydd ei angen arna i – beth ddylwn i ei wneud?”

Os nad ydych yn siŵr beth sydd ar gael yn eich ardal, neu os ydych yn cael trafferth derbyn y wybodaeth a / neu’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol (neu fwrdd iechyd os yw’n fater iechyd) a ddylai fod yn gallu rhoi cymorth a chefnogaeth i chi.

Gall Swyddfa’r Comisiynydd hefyd eich helpu Gall tîm y Comisiynydd roi cyngor a chymorth i chi a’ch cynorthwyo i ddod o hyd i’r person iawn i’ch helpu oherwydd gwyddom fod hyn weithiau’n gallu bod yn anodd.

Os teimlwch nad ydych yn cael cynnig yr help sydd ei angen arnoch gan eich awdurdod lleol neu fwrdd iechyd, mae rhai pethau y gallwch eu hystyried.

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch cyngor neu fwrdd iechyd i rannu unrhyw bryderon sydd gennych a dweud wrthynt fod angen help arnoch i dderbyn eu gwybodaeth neu wasanaeth, neu help i fynd ar-lein. Gelwir hyn yn gŵyn anffurfiol.

Os nad ydych yn hapus â’r ymateb a gewch, dylech ystyried gwneud cwyn ffurfiol. Dylai eich cyngor neu fwrdd iechyd eich helpu gyda’r broses honno, ond os teimlwch fod angen mwy o gyngor arnoch i wneud cwyn ffurfiol, gysylltwch â ni.

Eitemau wedi’u llwytho i lawr

Cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ei angen arnoch

Maint y ffeil
1.34MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Fersiwn Sain

Maint y ffeil
4.32MB
Math o ffeil
MP3 Audio
Llwytho i lawr

Fersiwn BSL

Maint y ffeil
46.1MB
Math o ffeil
MP4 Video
Llwytho i lawr

Fersiwn Hawdd ei ddarllen

Maint y ffeil
0.26MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges