Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru
Mae Credyd Pensiwn yn cynnig gobaith i rai o bobl hŷn tlotaf a mwyaf agored i niwed Cymru, ac wrth i ni wynebu’r argyfwng costau byw mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Ond y llynedd yng Nghymru, roedd 80,000 o bobl hŷn gymwys wedi colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn, sy’n golygu bod oddeutu £200m heb ei hawlio.
Dyna pam mae’r Comisiynydd yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gymryd camau i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru, rhywbeth a gafodd ei ystyried yn yr Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022.
Yn ogystal â galw am weithredu, mae’r Comisiynydd yn awyddus i hyrwyddo’r arfer da sydd eisoes yn cael ei wneud ac sy’n helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo. Dilynwch y ddolen isod i weld rhai enghreifftiau, neu cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw arferion da yr hoffech eu rhannu.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r Comisiynydd am i unigolion a sefydliadau ledled Cymru wneud popeth a allant i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn, ac i ymuno â hi i wneud Addewid Credyd Pensiwn i dynnu sylw at y camau y byddant yn eu cymryd – boed fawr neu fach. Dilynwch y ddolen isod i weld rhai o’r Addewidion sydd wedi dod i law yn barod ac i wneud eich Addewid Credyd Pensiwn eich hun.

Enghreifftiau o Arferion Da
Enghreifftiau o arferion da gan randdeiliaid ledled Cymru i annog pobl i hawlio Credyd Pensiwn
Rhagor o wybodaeth
Addewidion Credyd Pensiwn
Enghreifftiau o Addewidion sydd wedi cael eu gwneud yn barod i sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr arian y mae ganddynt hawl iddo
Gweler yr Addewidion