Credyd Pensiwn: Enghreifftiau o Arferion Da
Mae arfer da eisoes yn cael ei wneud mewn sawl rhan o Gymru ac mae hynny’n helpu i sicrhau bod gan bobl yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo. Drwy rannu a hyrwyddo arfer da, mae’r Comisiynydd eisiau ysbrydoli ac annog camau pellach ar hyd a lled Cymru i gyrraedd a chefnogi pobl hŷn a allai fod yn colli’r cyfle.
Rydyn ni wedi nodi enghreifftiau o arferion da isod, felly tarwch olwg arnynt. Allech chi wneud rhywbeth tebyg yn eich ardal chi? Neu weithio gyda phartneriaid i helpu pobl hŷn i hawlio Credyd Pensiwn?
Byddwn yn ychwanegu enghreifftiau wrth i bobl barhau i’w rhannu â ni ac yn eu hyrwyddo drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Felly, os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw arferion da sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, rhowch wybod i ni.
Pecyn Arferion Da: Gweithgarwch lleol i gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio Credyd Pensiwn
Mae’r pecyn cymorth hwn, a gynhyrchwyd gan Independent Age, yn crynhoi’r hyn a ddysgwyd gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio Credyd Pensiwn yn eu hardal. Mae’r pecyn yn tynnu sylw at amrywiaeth o arferion da ac mae’n cynnwys pum astudiaeth achos sy’n amlinellu mentrau llwyddiannus.
Llwytho’r pecyn cymorth i lawr
Archwiliad Cartrefi Iach Gofal a Thrwsio Cymru
Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn elusen dai ar gyfer Cymru gyfan sy’n arbenigo mewn addasiadau i gartrefi a gwaith atgyweirio ar gyfer perchnogion preswyl a rhentwyr preifat dros 60 oed. Fel rhan o wasanaeth y cwmni, cynigir Archwiliad Cartrefi Iach i bob cleient, gan gynnwys archwiliad lles ariannol, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymdopi gartref a bod y lle’n gynnes, yn ddiogel ac yn hygyrch.
Y llynedd, roedd gwaith manteisio i’r eithaf ar incwm Gofal a Thrwsio, a oedd yn cynnwys tynnu sylw at Gredyd Pensiwn lle roedd hynny’n briodol, wedi helpu 2,173 o unigolion i gynyddu eu hincwm blynyddol, sef £3,865 ar gyfartaledd.
Canolfannau Croeso dros y Gaeaf Rhondda Cynon Taf
Mae Canolfannau Croeso dros y Gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi’u cynllunio fel amgylcheddau braf, yn agos at y cartref, lle gall pobl dreulio cyfnodau estynedig o amser. Darperir diodydd poeth a byrbrydau gyda’r nod o greu man cyfforddus lle gellir cael sgyrsiau am y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys Credyd Pensiwn.
Mewn ymateb i adborth gan bobl hŷn y gall fod yn anodd gwybod yn union pa gymorth sydd ar gael, mae partneriaid gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, Action for Elders, Gofal a Thrwsio a Chymunedau Digidol Cymru wedi ymweld â lleoliadau lleol i sgwrsio â phobl a thrafod y mathau o gymorth y gallent eu cael.
Diwrnod Gweithredu ar Gredyd Pensiwn
Gall cynrychiolwyr etholedig hefyd chwarae rhan yn y broses o gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn drwy ymgysylltu ag etholwyr.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd un AS o Gymru at 6,500 o drigolion yn eu hannog i fynychu Diwrnod Gweithredu ar Gredyd Pensiwn gyda dwy swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Roedd tua 200 o bobl yn bresennol. Cafodd £200,000 o fudd-daliadau heb eu hawlio (nid dim ond Credyd Pensiwn) eu nodi a gwnaed ceisiadau amdanynt.
Swyddfa Hawliau Lles Cyngor Conwy
Ysgrifennodd Swyddfa Budd-daliadau Cyngor Conwy at bawb o oedran pensiwn sy’n cael Budd-dal Tai/Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac oedd yn dymuno gwneud cais am Gredyd Pensiwn ym mis Chwefror 2023.
Roedd y Swyddfa hefyd wedi tynnu sylw at y cymorth oedd ar gael gan y Swyddogion Hawliau Llesiant. Roedd oddeutu 42 o bobl wedi cysylltu â’r Tîm Hawliau Llesiant, a bydd 14 ohonynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Mae’r Tîm naill ai wedi helpu pobl i wneud yr hawliad, neu wedi sicrhau bod cwsmeriaid yn hapus i wneud hawliadau eu hunain.
Codi Ymwybyddiaeth i Credyd Pensiwn yn Sir Ddinbych
Fel rhan o ymgyrch ehangach yr Awdurdod Lleol i gefnogi preswylwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn, penderfynodd Cyngor Sir Ddinbych godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn. Daeth y Cyngor i wybod mai nifer fach sy’n hawlio’r hawl hwn ledled Cymru ac roedd am wneud ei orau i fynd i’r afael â hynny.
Cynhaliodd y Cyngor ymgyrch ym mis Mawrth 2023, gan ddefnyddio’r adnoddau hyrwyddo a ddarparwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Cafodd taflen am Gredyd Pensiwn ei chynnwys gyda holl filiau blynyddol y Dreth Gyngor, sy’n golygu bod pob cartref yn y Sir wedi derbyn copi. Drwy godi ymwybyddiaeth yr holl breswylwyr, roedd y Cyngor yn cyrraedd y rheini o oedran pensiwn yn ogystal â’r cenedlaethau eraill sy’n eu hadnabod ac yn eu cefnogi. I ategu hyn, cynhaliwyd ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ar yr un pryd i gyrraedd gwahanol grwpiau oedran ac annog pobl i feddwl am gefnogi eu ffrindiau a’u teulu o oedran pensiwn ac i gael rhagor o wybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd yr wybodaeth ar y daflen a’r cyfryngau cymdeithasol yn codi ymwybyddiaeth yn ogystal â chwalu rhai o’r mythau am hawliau ac yn tynnu sylw at sut mae Credyd Pensiwn yn agor y drws i hawliau eraill. Roedd y Cyngor hefyd wedi cynnwys negeseuon tebyg ar slipiau cyflog yr holl staff. Gan fod y Cyngor yn gyflogwr mawr yn y Sir, roedd hon yn ffordd gyflym o gyfleu’r negeseuon ac annog cydweithwyr i feddwl am eu teulu a’u ffrindiau o oedran pensiwn.
Yn olaf, drwy weithio gyda rhai timau allweddol ar draws y Cyngor, esboniwyd sut gall yr iaith a ddefnyddir fod yn ddefnyddiol iawn, er enghraifft defnyddio geiriau fel ‘hawl’ yn hytrach na ‘budd-dal’. Mae hefyd wedi gweithio i esbonio sut gallai newid mewn amgylchiadau cwsmer arwain at newid yn ei hawliau a sut i gyfeirio pobl at ragor o wybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ac felly mae’n gallu darparu cymorth ychwanegol i’r preswylwyr wirio a ydyn nhw’n gymwys a’u helpu i wneud cais pe bai angen.