Angen Help?

Corff Llais Y Dinesydd – Canllaw Ar Fynediad, Sylwadau A Newidiadau I Wasanaethau’r GIG

A stethoscope

CORFF LLAIS Y DINESYDD – CANLLAW AR FYNEDIAD, SYLWADAU A NEWIDIADAU I WASANAETHAU’R GIG

 

Chwefror 2023

 

Cyflwyniad

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gorff Llais y Dinesydd – canllaw ar fynediad, sylwadau a newidiadau i wasanaethau’r GIG. Roedd gan y Comisiynydd berthynas adeiladol â Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned ac mae’n edrych ymlaen at weithio â’r corff newydd.

Yn y cyfamser, hoffai’r Comisiynydd wneud y sylwadau canlynol ar y Cod Ymarfer a’r canllaw drafft.

 

Mynediad i bobl agored i niwed

Mae’n hanfodol bod gan Gorff Llais y Dinesydd (CLlD) y pŵer a’i fod yn gwneud pob ymdrech i eiriol ar ran y bobl fwyaf agored i niwed a’r rhai nad yw eu llais yn cael ei glywed mewn cymdeithas, gan gynnwys pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, pobl hŷn mewn ysbytai a’r rhai hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain yn y gymuned. Mae’r Comisiynydd yn credu bod yn rhaid i’r Cod Ymarfer sicrhau bod CLlD fynediad uniongyrchol at y bobl hyn, a hynny hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd, fel mewn pandemig.

Mae’r Cod Ymarfer drafft ar fynediad i fangreoedd yn datgan bod yn rhaid i CLlD wneud cais am fynediad i fangreoedd a bod y darparwr gwasanaeth yn penderfynu a yw am ganiatáu hyn, rhoi sylw dyladwy i’r egwyddorion yn y cod ymarfer, oni bai bod dinesydd wedi cysylltu â CLlD ac wedi gofyn am gael rhannu eu sylwadau, neu fod CLlD yn eu helpu â mater penodol. Er bod y Cod Ymarfer drafft yn datgan bod rhagdybiaeth o blaid mynediad, hoffai’r Comisiynydd gael sicrwydd y bydd y rhagdybiaeth hon yn weithredol yn yr amgylchiadau mwyaf anodd hyd yn oed, fel mewn pandemig er enghraifft, ac y bydd gan

CLlD fynediad priodol at y bobl hŷn fwyaf agored i niwed, i glywed eu lleisiau ac i helpu i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu diogelu.

 

Newid i wasanaethau

Mae’r Comisiynydd ar ddeall, yn ôl y canllaw drafft ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau iechyd, mai Byrddau Iechyd ac nid CLlD fydd yn penderfynu beth sy’n cyfrif fel newid sylweddol i wasanaeth, ac y bydd gan CLlD bwerau i wneud sylwadau i Fyrddau Iechyd ac i Weinidogion, ond nid i gyfeirio newid i wasanaeth at Weinidogion i wneud penderfyniad. Mi all y newid hwn ryddhau CLlD i ganolbwyntio ar sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed yn briodol yn y broses newidiadau i wasanaethau. Fodd bynnag, mae’r Comisiynydd o’r farn, er mwyn cael cysondeb ledled Cymru, y byddai’n werthfawr cynnwys enghreifftiau yn y canllaw o’r hyn sy’n cyfrif fel newidiadau sylweddol, canolig neu fân newidiadau i wasanaethau.

Mae’r Comisiynydd yn croesawu’r datganiad yn y canllaw sy’n dweud ei bod yn bwysig bod sefydliadau’r GIG yn gweithio mewn partneriaeth â’u cymunedau ac yn datblygu cynigion mewn ffordd sy’n wirioneddol gydweithredol, ac mae’n cytuno, os yw cynigion yn cael eu datblygu a’u cynllunio drwy gyd-gynhyrchu, y byddant yn fwy tebygol o gael cefnogaeth ac o gyflawni gwelliannau mewn gofal ac o ymateb i anghenion y cleifion a’r cymunedau y mae’r GIG wedi’i sefydlu i’w gwasanaethu.

 

Gweithio trawsffiniol

Mae’r Comisiynydd hefyd yn croesawu’r datganiadau yn y canllaw statudol ar sylwadau a wneir gan CLlD ac y bydd CLlD yn chwarae rôl allweddol i lywio dyluniad systemau iechyd a gofal yn y dyfodol drwy gynrychioli safbwyntiau’r cyhoedd ar hyd llwybrau gofal, sy’n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, a hefyd ar draws ffiniau. Mae’n hanfodol bod barn a phrofiadau pobl hŷn wrth iddynt symud rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft pan fydd pobl hŷn sydd angen gofal yn y cartref neu sy’n byw mewn cartref gofal yn cael eu derbyn a’u rhyddhau o ysbyty, yn cael ei hystyried ar hyd eu siwrnai iechyd a gofal gyfan, os ydym am gael gwasanaethau iechyd a gofal integredig sy’n rhoi pwyslais gwirioneddol ar y claf.

 

Byddai’r Comisiynydd a’i thîm yn hapus i drafod unrhyw rai o’r sylwadau hyn yn fwy manwl.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges