Codi pryder gyda’r Comisiynydd
Mae’r polisi hwn yn amlinellu ein dull gweithredu pan fydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (“y Comisiynydd”) yn derbyn neges gan weithiwr o sefydliad arall sy’n poeni am ddrwgweithredu yn ei fan gwaith ac sydd eisiau codi pryder a’i riportio, neu ‘chwythu’r chwiban’.
Codi pryder
Mae’n bosibl bod pob un ohonom yn poeni am yr hyn sy’n digwydd yn y gwaith ar ryw adeg neu’i gilydd. Fel arfer, mae’r rhain yn cael eu datrys yn rhwydd. Fodd bynnag, pan fydd pryder yn teimlo’n ddifrifol oherwydd ei fod yn ymwneud â thwyll, perygl, ymddygiad amhriodol/amhroffesiynol neu niwed posibl a allai effeithio ar eraill neu ar y sefydliad ei hun, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud.
Gallech fod yn poeni am godi pryder o’r fath, a meddwl y byddai’n well i chi ei gadw i chi’ch hun, gan deimlo efallai nad yw’n fusnes i chi, neu mai dim ond amau’r peth rydych chi. Gallech deimlo y byddai codi’r mater yn dangos diffyg teyrngarwch at gydweithwyr, rheolwyr neu’r sefydliad. Gallech benderfynu dweud rhywbeth, ond sylweddoli wedyn eich bod wedi siarad â’r person anghywir neu godi’r pryder yn y ffordd anghywir ac yn ansicr beth i’w wneud nesaf.
Mae’n arfer da i gyflogwyr feddu ar eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer chwythu’r chwiban, a dylai’r rheiny esbonio sut y gallwch godi unrhyw bryderon a allai fod gennych. Os oes gan eich cyflogwr weithdrefnau o’r fath, dylech eu dilyn, oni bai bod rheswm cryf iawn dros beidio â gwneud hynny.
Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn argymell bod gweithwyr yn codi pryderon â’u cyflogwr i ddechrau, ac rydym yn cymeradwyo hyn; fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol i chi wneud hynny. Cydnabyddir y gallai bod rhesymau dilys pam y byddai gweithiwr eisiau codi eu pryderon y tu allan i’w weithle.
Beth yw ‘chwythu’r chwiban’?
Mae ‘chwythu’r chwiban’ yn cyfeirio at ddatgelu gwybodaeth gan weithiwr sy’n credu’n rhesymol bod tuedd i ddangos un neu fwy o’r canlynol:
- Bod trosedd wedi’i gyflawni neu’n debygol o gael ei gyflawni; a/neu
- Bod rhywun wedi methu, yn methu, neu’n debygol o fethu cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithlon y mae’n gaeth iddo; a/neu
- Bod camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd, yn digwydd neu’n debygol o ddigwydd; a/neu
- Bod iechyd a diogelwch unrhyw unigolyn wedi cael ei beryglu, yn cael ei beryglu neu’n debygol o gael ei beryglu; a/neu
- Bod yr amgylchedd wedi cael ei niweidio, yn cael ei niweidio neu’n debygol o gael ei niweidio; a/neu
- Bod gwybodaeth sy’n dueddol o ddangos unrhyw un o’r materion uchod wedi cael ei chelu’n fwriadol, yn cael ei chelu’n fwriadol, neu’n debygol o gael ei chelu’n fwriadol.
Er enghraifft, gall pryderon o’r fath gynnwys ymddygiad amhriodol neu drin claf/preswylydd/cleient/cwsmer yn wael; gwahaniaethu annheg wrth ddarparu gwasanaethau; neu ymddygiad amhroffesiynol neu ymddygiad sy’n is na safonau cydnabyddedig a sefydledig o ymarfer.
Amddiffyniad i chwythwyr chwiban
Mae’r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd yn amddiffyn gweithwyr sy’n chwythu’r chwiban, ar yr amod eu bod yn gwneud hynny gan ddilyn un o’r ffyrdd a nodir yn y Ddeddf (a elwir yn gyflwyno datgeliad gwarchodedig). Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r rhan fwyaf o weithwyr, ac mae’n cynnwys pobl sy’n cael eu cyflogi ar sail dros-dro neu drwy asiantaeth.
Mae gan weithwyr yr hawl i beidio â dioddef anfantais yn y gwaith yn sgil chwythu’r chwiban. Gall gweithiwr sy’n dioddef anfantais ar y sail ei fod wedi cyflwyno datgeliad gwarchodedig fynd â’i gyflogwr i Dribiwnlys Cyflogaeth i geisio iawn.
Cyflwyno datgeliadau i’r Comisiynydd
Mae’r Comisiynydd yn ‘berson rhagnodedig’ dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd ar gyfer materion ynghylch hawliau a lles pobl hŷn yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu y gallai gweithiwr gael ei amddiffyn fel chwythwr chwiban dan y Ddeddf pan gaiff datgeliad ei gyflwyno i’r Comisiynydd, ar yr amod bod y gweithiwr sy’n cyflwyno’r datgeliad yn credu’n rhesymol ei fod yn berthnasol i gylch gwaith y Comisiynydd a bod yr wybodaeth sy’n cael ei datgelu ac unrhyw honiad a geir ynddi yn wir gan fwyaf.
Prif nod y Comisiynydd yw gwarchod lles y cyhoedd. Nid oes yn rhaid i’r Comisiynydd ystyried p’un ai a yw datgeliad yn gymwys i gael ei amddiffyn dan y Ddeddf, ac ni fydd yn gallu cynnig cyngor ar hyn. Yn y pen draw, Tribiwnlys Cyflogaeth fyddai’n penderfynu p’un ai a gaiff unigolyn ei amddiffyn dan y Ddeddf ai peidio. Rôl y Comisiynydd yw ystyried y materion a ddatgelir iddo.
Nid yw’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol bod y Comisiynydd yn ymchwilio i bob datgeliad a dderbynnir. Dim ond datgeliadau sy’n berthnasol i gwmpas swyddogaethau statudol y Comisiynydd y gall ymchwilio iddynt, ac yn unol â pharamedrau pwerau statudol y Comisiynydd.
Darllenwch fwy am rôl ‘person rhagnodedig’
Dull y Comisiynydd ar gyfer delio â phryderon
Cam 1
Rydym yn annog pob unigolyn i gysylltu â Protect i ddechrau, er mwyn cael cyngor annibynnol a chyfrinachol. Efallai y bydd modd i Protect eich helpu i ddod o hyd i’r person rhagnodedig cywir dan y Ddeddf. Does dim modd i’r Comisiynydd gynnig cyngor ar gwmpas amddiffyniad chwythu’r chwiban dan y Ddeddf.
Cam 2
Os bydd gweithiwr yn dod atom yn dymuno codi pryder, byddwn yn archwilio i ddechrau i weld a allwn ei dderbyn ai peidio. Bydd hyn yn cynnwys:
(i) Pennu p’un ai a yw pwnc y pryder yn rhywbeth sy’n berthnasol i swyddogaethau statudol y Comisiynydd; a
(ii) Gofyn cwestiynau gweithdrefnol i sefydlu pa mor bell mae’r datgeliad wedi mynd ac a oes unrhyw gyrff cyhoeddus eraill yn ymchwilio i’r mater.
Bydd y gweithiwr yn cael gwybod p’un ai a allwn dderbyn y datgeliad ai peidio. Oni allwn dderbyn y datgeliad, rydym yn argymell bod yr unigolyn yn cysylltu â Protect am ragor o gyngor.
Cam 3
Os byddwn yn penderfynu y gallwn dderbyn y datgeliad, byddwn yn cysylltu â’r gweithiwr i drefnu cyfweliad datgelu.
Cam 4
Ar ôl y cyfweliad, byddwn yn ysgrifennu at y gweithiwr yn esbonio’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud gyda’r datgeliad. Dim ond ar sail pwerau statudol y Comisiynydd y gallwn ymchwilio i sylwedd datgeliad.
Rhaid i unrhyw gamau a gymerwn fod yn unol â swyddogaethau statudol y Comisiynydd.
Bydd y Comisiynydd yn ystyried cyfeirio’r pryder at asiantaeth arall, rheoleiddiwr neu (yn achos honiadau troseddol) yr heddlu os bydd yn ystyried bod hynny’n briodol neu’n angenrheidiol.
Pa gamau y gall y Comisiynydd eu cymryd yng nghyswllt pryderon?
Mae swyddogaethau a phwerau statudol y Comisiynydd wedi’u nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007. http://www.olderpeoplewales.com/wl/about/commissioners-role/legal-powers.aspx Nid oes modd i’r Comisiynydd weithredu y tu hwnt i gwmpas y swyddogaethau a’r pwerau hyn.
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd gan y Comisiynydd ddisgresiwn i gyhoeddi adroddiadau yn cynnwys ei ganfyddiadau a chyflwyno argymhellion. Nid oes gan y Comisiynydd bŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn cyflogwyr.
Os ydych chi’n amau bod person hŷn mewn perygl o niwed, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch Awdurdod Lleol a gofyn am atgyfeiriad diogelu ar unwaith. Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer timau amddiffyn oedolion Awdurdodau Lleol: http://www.olderpeoplewales.com/wl/adult_protection/adult-protection-in-wales/adult-protection-contacts.aspx
Cyfrinachedd
Bydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei derbyn gan y Comisiynydd yn cael ei thrin mewn modd sensitif a bydd y Comisiynydd yn ymchwilio i faterion a godir dan y polisi hwn mewn ffordd gyfrifol.
Gall gweithwyr gysylltu â ni i godi eu pryderon yn ddienw os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, mae’n fwy anodd ymchwilio i bryderon os nad ydym yn gallu gofyn cwestiynau dilynol.
Felly nid ydym yn annog codi pryderon yn ddienw gyda’r Comisiynydd, er ein bod yn fodlon derbyn datgeliadau dienw.
Manylion cyswllt y Comisiynydd ar gyfer codi pryder
Cyfeiriad: Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL
Rhif ffôn: 03442 640 670 neu 02920 445030
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru
Manylion cyswllt eraill
Protect
Gall yr elusen gyhoeddus Protect drafod eich opsiynau â chi yn gyfrinachol, a’ch helpu i godi pryder ynglŷn â chamymddygiad yn y gwaith.
Rhif ffôn: 020 3117 2520
E-bost: whistle@protect-advice.org.uk
Gwefan: www.protect-advice.org.uk
Undeb neu Gorff Proffesiynol
Gallwch hefyd gysylltu â’ch undeb neu gorff proffesiynol (lle bo hynny’n berthnasol) am gyngor.
Pobl ragnodedig eraill dan y Ddeddf
Mae rhestr ddiweddar o bobl ragnodedig yn cael ei chynnal a’i chadw yn: https://www.gov.uk/government/publications/blowing-the-whistle-list-of-prescribed-people-and-bodies–2/whistleblowing-list-of-prescribed-people-and-bodies
Adborth a Monitro
Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf posibl. Rydym yn cydnabod bod hyn yn gofyn i ni adolygu sut rydym wedi delio â phryderon, er mwyn ein galluogi ni i ganfod tueddiadau a meysydd i’w gwella fel ein bod ni’n parhau i wella ein gwasanaeth. O’r herwydd, efallai y byddwn yn cadw cofnodion o ohebiaeth, galwadau ffôn, nodiadau cyfweliad a thystiolaeth a gesglir ar gyfer y diben hwn.
Rydym yn croesawu adborth gan unigolion sydd wedi cyflwyno cwynion i ni, naill ai’n ysgrifenedig neu drwy e-bost.
Gall unrhyw un sy’n anfodlon â’r ffordd yr ymdriniwyd â’i bryder dan y polisi hwn gyfeirio at ein Polisi Cwynion, sydd ar gael ar ein gwefan.
Pethau i’w gwneud ac i beidio â gwneud wrth godi pryderon
Os ydych chi’n poeni am ddrwgweithredu yn eich man gwaith:
Dylech:
- Llunio cofnod ysgrifenedig o’ch pryderon ar unwaith yn nodi’r holl fanylion perthnasol megis dyddiadau, enwau ac amseroedd.
- Edrych i weld a oes gan eich cyflogwr bolisïau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer chwythu’r chwiban (mae rhai gan y rhan fwyaf o gyflogwyr) a’u dilyn. Trosglwyddo eich amheuon i rywun ag awdurdod a phrofiad priodol.
- Delio â’r mater yn brydlon os ydych chi’n credu bod eich pryderon yn rhai dilys.
Peidiwch:
- Gwneud dim byd.
- Bod ofn codi eich pryderon. Rhaid i’ch cyflogwr beidio â’ch erlid os ydych chi’n codi eich pryderon. Rhaid i’ch cyflogwr ddelio ag unrhyw fater a godir gennych mewn ffordd sensitif ac yn gyfrinachol.
- Cysylltu neu gyhuddo unrhyw unigolion yn uniongyrchol neu geisio ymchwilio i’r mater eich hun.
- Trosglwyddo eich amheuon i unrhyw un nad oes ganddo/i yr awdurdod priodol.
Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd: Adroddiadau Blynyddol
Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024
Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.
Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023
Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.
Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022
Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.
Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021
Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.
Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020
Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.
Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019
Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.
Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018
Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.