Pwyllgor Cyllid y Senedd: Cais am wybodaeth am gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25
Cyflwyniad
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i gais Pwyllgor Cyllid y Senedd am wybodaeth am gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.
Hoffai’r Comisiynydd weld y meysydd canlynol yn cael blaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.
Yr Argyfwng Costau Byw: Lleihau tlodi ymysg pobl hŷn
Wrth i’r argyfwng costau byw barhau, mae nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (sy’n cael ei ddiffinio fel byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm cyfartalog aelwydydd y DU) ac mae angen cymryd camau i fynd i’r afael â hyn. Mae bron i 1 o bob 5 person hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cyfateb i 155,960 o bobl ledled Cymru.
Mae cyfraddau tlodi incwm cymharol yn amrywio yn ôl oedran: mae’n effeithio ar 19% o bobl rhwng 65 a 69 oed, ond yn effeithio ar 21% o bobl rhwng 75 a 79 oed.1 Mae hynny’n golygu bod 33,744 o bobl rhwng 65 a 69 oed a 27,315 o bobl rhwng 75 a 79 oed yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru. Y gyfradd tlodi incwm cymharol yw tua 21% ar gyfer pobl dros 85 oed.2 O ran rhywedd, mae 29% o fenywod hŷn sengl yn byw mewn tlodi incwm cymharol.3 Nid yw’r ffigurau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol gan nad yw’r data cyflawn ar gyfer hydref/gaeaf 2022-23 ar gael eto: mae effaith lawn yr argyfwng costau byw ar bobl hŷn eto i’w hadlewyrchu yn yr ystadegau.
Mae’n hanfodol bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn dyrannu adnoddau i leihau’r tlodi mae pobl hŷn yn ei brofi. Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru leihau effaith tlodi heb wario swmp sylweddol o’i hadnoddau ei hun yw cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar hawliadau ariannol gan Lywodraeth y DU sydd ddim yn cael eu hawlio ar hyn o bryd. Byddai hwn yn ddull buddsoddi i arbed lle gallai defnyddio swm cymharol fach o arian ddenu adnoddau ariannol sylweddol gan Lywodraeth y DU i hybu incwm rhai o’r bobl hŷn tlotaf yng Nghymru.
O ran Credyd Pensiwn yn unig, mae hyd at 80,000 o bobl yng Nghymru yn gymwys i hawlio ond nid ydynt yn derbyn eu hawliad. Mae hyn yn golygu bod Cymru yn colli dros £200M, a allai gynyddu incwm pobl hŷn. Mae Credyd Pensiwn hefyd yn datgloi amrywiol fathau o gymorth cysylltiedig, gan gynnwys taliadau costau byw ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Byddai sicrhau bod llai o bobl yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn hefyd yn rhoi hwb i’r grym gwario mewn cymunedau ledled
Cymru.4 Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu y byddai cynyddu cyfradd sylfaenol y dreth incwm yng Nghymru 1 ceiniog yn 2023-24 wedi codi tua
£237M.5 Mae hyn yn debyg i swm y Credyd Pensiwn heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud gwaith i dynnu sylw at Gredyd Pensiwn drwy ymgyrchoedd hawlio budd-daliadau fel ‘Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi’. Fodd bynnag, mae angen mwy o weithredu a gweithredu gwahanol i gyrraedd pobl hŷn sy’n dal i fod ar eu colled. Dylai hyn gynnwys dyrannu cyllid ar gyfer gwaith gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio setiau data presennol i dargedu pobl hŷn sy’n debygol o fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn neu i dreialu dulliau eraill.
Yn ogystal, mae angen dyrannu digon o adnoddau yn y gyllideb ddrafft i gefnogi’r trydydd sector i weithio gyda phobl hŷn sydd ddim yn manteisio ar Gredyd Pensiwn a hawliau eraill ar hyn o bryd, gan gynorthwyo gyda hawliadau pan fo angen. Mae gwasanaethau cynghori yn elfen allweddol o gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd
Pensiwn. Byddai dyrannu adnoddau o’r fath yn fuddsoddiad o ran gwrthbwyso rhai o effeithiau niweidiol tlodi, gan gynnwys yr effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol a fyddai fel arall angen ymdrin ag ef drwy gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau’r GIG.
Gan mai’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yw prif gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cymorth brys yn ystod yr argyfwng costau byw erbyn hyn, mae angen dyrannu digon o gyllid i DAF yn y gyllideb ddrafft. Mae angen gwneud gwaith ychwanegol hefyd i sicrhau bod DAF yn cyrraedd pobl hŷn gan fod y data presennol yn dangos bod y ceisiadau’n anghymesur o isel. Mae ffigurau a ddarparwyd i’r Comisiynydd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 8,132 allan o gyfanswm o 589,421 o geisiadau a wnaed am Daliad Cymorth Brys gan bobl 70 oed a hŷn; mae hyn yn llai nag 1.40%. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid DAF yn cyrraedd pobl hŷn a allai elwa ohono. Mae hyn yn golygu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod DAF yn cael ei hyrwyddo’n frwd fel ffynhonnell cymorth i bobl hŷn ledled Cymru, gan gynnwys pobl nad ydynt ar-lein.
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllidebau cyfathrebu yn adlewyrchu’r angen am negeseuon penodol (yn hytrach na generig) fel bod pobl hŷn yn sylweddoli bod ffynonellau cymorth fel DAF wedi’u bwriadu ar gyfer pobl hŷn. Mae angen i gyllidebau cyfathrebu a chynllunio hefyd ariannu gweithgareddau a hyrwyddo all-lein er mwyn cyrraedd pobl hŷn nad ydynt ar-lein, gan gofio nad oes gan 31% o bobl dros 75 oed fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nad yw 33% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw).
Buddsoddi mewn heneiddio’n iach
Mae angen i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar weithredu ataliol a sicrhau bod pawb yn gallu heneiddio’n dda. Gellir lleihau neu ohirio’r galw am rai gwasanaethau drwy alluogi mwy o bobl i heneiddio mor iach â phosibl. Mae hyn yn gofyn am weithredu a buddsoddi i atal gwariant ychwanegol ar ddelio â phroblemau a fyddai’n digwydd fel arall.
Er enghraifft, rhaid parhau i fynd i’r afael â’r pwysau difrifol mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys capasiti mewn cartrefi gofal, darparu gofal cartref a gwasanaethau ail- alluogi, a dal ati i ganolbwyntio ar y broblem o oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae datganiad o fwriad Llywodraeth Cymru “Meithrin Gallu drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach, yn Gyflymach”, sy’n cydnabod bod “cyfleoedd yn cael eu colli i atal ac ymyrryd yn gynnar yn y gymuned, ac mae rhai unigolion yn parhau am gyfnodau hir mewn ysbytai acíwt a chartrefi gofal”, yn bwysig. Mae’n hanfodol bod adnoddau’n cael eu dyrannu tuag at atal a lleihau angen ar yr un pryd â mynd i’r afael â’r pwysau presennol.
Mae angen i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru alluogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddarparu’r cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl hŷn, gan sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cynnal ac yn diogelu hawliau pobl. Mae angen i’r gyllideb ar gyfer y dyfodol ddarparu buddsoddiad digonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cyllid ar gyfer atal a chymorth yn y gymuned.
Fodd bynnag, nid yw heneiddio’n iach a heneiddio’n dda wedi’u cyfyngu i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn unig. Mae’r gallu i heneiddio’n dda yn cynnwys nifer o feysydd rhyngberthynol y gellir eu crynhoi yn y model Cymunedau Oed-gyfeillgar. Mae’r dull gweithredu hwn gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn nodi wyth nodwedd hanfodol cymunedau sydd, gyda’i gilydd, yn ein galluogi i heneiddio’n dda. Sef: mannau yn yr awyr agored ac adeiladau; cludiant; tai; cyfranogiad cymdeithasol; parch a chynhwysiant cymdeithasol; cyfranogiad dinesig a chyflogaeth; cyfathrebu a gwybodaeth; cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd. Mae pob un o’r wyth maes yn bwysig o ran sicrhau bod pawb yn gallu heneiddio’n dda ledled Cymru.
Datblygwyd dull Cymuned Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd yn 2007 a’i lunio mewn ymgynghoriad â phobl hŷn ar sail y dystiolaeth o’r hyn sy’n cefnogi heneiddio’n iach ac yn egnïol ac mae’n cefnogi trigolion hŷn i siapio’r mannau lle rydyn ni’n byw. Mae’r dull hwn yn galluogi rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl hŷn, awdurdodau lleol, busnesau, cymdeithasau lleol a’r sector gwirfoddol i gydweithredu i ganfod a gwneud newidiadau yn yr amgylchedd ffisegol a’r amgylchedd cymdeithasol.
Mae’r Comisiynydd yn cael ei chydnabod fel Aelod Cyswllt o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar ac mae’n gweithio i hyrwyddo cynnydd oed-gyfeillgar ar lefel leol, ranbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Swyddfa’r Comisiynydd hefyd yn gweithredu fel catalydd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol drwy hyrwyddo’r dull gweithredu oed-gyfeillgar yn ogystal â darparu arweiniad a chymorth i bartneriaethau sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol sy’n dymuno dod yn aelodau o’r Rhwydwaith Byd-eang.
Mae llawer o enghreifftiau o fanteision gweithredu oed-gyfeillgar. Er enghraifft, yn Abertawe, mae taith gerdded oed-gyfeillgar wythnosol o amgylch Marina Abertawe, ac yna coffi a sgwrs, wedi dod yn boblogaidd iawn, gyda bron i 100 o bobl yn cymryd rhan. Mae’r daith gerdded yn annog cymdeithasu ac yn lleihau unigrwydd pobl hŷn yn y ddinas a’r ardal ehangach, gan ddod â grwpiau amrywiol o bobl at ei gilydd i feithrin cyfeillgarwch. Dim ond un o’r gweithgareddau a ddarperir gan bartneriaeth Oed-Gyfeillgar Abertawe yw hwn.6
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol i ddatblygu Cymunedau Oed-Gyfeillgar fel y gwelir yn ‘Cymru o blaid Pobl Hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio’.7 Hyd yma, mae £1.1 miliwn wedi cael ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn cael swyddog pwrpasol yn ei le ac i’w helpu i weithio tuag at ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar. Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud gyda nifer cynyddol o awdurdodau lleol yn ymuno â’r rhwydwaith dros y 12 mis diwethaf a phartneriaid yn rhannu ac yn rhoi mwy o bwys ar arferion da.
Mae’n hanfodol bod cyllid gan Lywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod y cynnydd a’r arferion da hyn yn cael e gwreiddio ledled Cymru. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, mae’n bwysig nad yw cyllid a roddir i awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Cymunedau Oed- Gyfeillgar yn cael ei leihau na’i ymgorffori mewn setliadau ariannol ehangach i awdurdodau lleol ac wedyn yn cael ei golli neu’n cael ei ddefnyddio i bwrpas arall.
Trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gymunedol
Mae’r toriadau i drafnidiaeth gyhoeddus a welwyd yn y flwyddyn ariannol bresennol yn bryder difrifol, sy’n effeithio ar iechyd, lles a gweithgareddau bob dydd pobl hŷn. Mae angen i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, a gwasanaethau bysiau yn benodol, yn cael eu hariannu i alluogi pobl hŷn i gael mynediad at ofal iechyd, hamdden a gweithgareddau cymdeithasol. Mae pobl hŷn yn aml yn disgrifio trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol fel adnodd ‘cwbl hanfodol’, sy’n eu galluogi i gael mynediad at amwynderau lleol, i wirfoddoli ac i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd a ffrindiau.
Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl hŷn sy’n defnyddio’r cerdyn bws rhatach yn peri pryder. Yn gynharach eleni, amcangyfrifodd CPT Cymru bod lefel y defnydd o gardiau teithio rhatach ond yn 40-50 y cant o’r lefelau cyn y pandemig. Mae perygl y bydd unrhyw doriadau ychwanegol i wasanaethau bysiau oherwydd diffyg cyllid yn gostwng y lefel hon fwy fyth gan na fydd y gwasanaethau y mae eu hangen ar bobl hŷn yn bodoli.
Er bod nifer y teithwyr masnachol wedi cael trafferth dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig, mae’r galw am drafnidiaeth gymunedol wedi ailddechrau ar ei lefel flaenorol. Mae gan drafnidiaeth gymunedol hanes o ddarparu atebion hyblyg a hygyrch wedi’u llywio gan y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth lleol heb eu diwallu. Weithiau, dyma’r unig ffordd o deithio i lawer o bobl. Fodd bynnag, nid oes darpariaeth trafnidiaeth gymunedol ar gael ym mhob ardal lle byddai o fudd i bobl hŷn ac mae angen mwy o gyllid diogel a chynaliadwy. Dylid rhoi sylw i hyn yn y gyllideb ddrafft.
Gall teithiau rheolaidd ar fysiau hefyd greu cysylltiadau personol â gyrwyr a theithwyr eraill. Mae’r grŵp Cyfeillion Bws 65 yn Sir Fynwy wedi disgrifio sut mae gyrwyr yn tynnu sylw teithwyr eraill weithiau at absenoldeb teithwyr rheolaidd. Mewn un achos, arweiniodd hyn at ddarganfod bod rhywun wedi cwympo a threfnodd y grŵp help gyda thasgau nes bod y person yn ddigon da i ddychwelyd i ddefnyddio’r bws a gwneud ei siopa eto.
Nodir yn y Datganiad ar y Cyd ar y Gronfa Bontio newydd ar gyfer Bysiau (16 Mehefin 2023) bod y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau wedi cael ei datblygu ar y cyd gan Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r diwydiant. Fodd bynnag, mae rôl teithwyr, gan gynnwys pobl hŷn, yn y trafodaethau a’r datblygiadau hyn yn aneglur.
Rhaid gwrando a gweithredu ar lais pobl hŷn a theithwyr yn ehangach mewn penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch cyllid bysiau a llwybrau bysiau, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus yn ehangach. Efallai nad yw’n bosibl cynnal pob gwasanaeth bws ar ei lefel bresennol, ond rhaid i bobl hŷn allu defnyddio trafnidiaeth er mwyn ymweld â ffrindiau a theulu, gweithio, gwirfoddoli, mynd i apwyntiadau gofal iechyd a gwasanaethau eraill a gwneud y pethau sy’n bwysig i bob un ohonom yn gyffredinol.
Bydd llai o wasanaethau bws yn ei gwneud yn fwy anodd i rai pobl hŷn aros mewn gwaith neu gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli. Mae nifer sylweddol o bobl hŷn yn parhau i weithio (yng Nghymru, mae 9.2% o bobl dros 65 oed yn gweithio) ac mae bron i draean o bobl dros 65 oed yn gwirfoddoli mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.8. Mae’r gwaith cyflogedig a’r gweithgareddau gwirfoddol y mae pobl hŷn yn eu gwneud yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru (mewn adroddiad gan Brifysgol Bangor yn 2018 roedd gwirfoddoli gan bobl hŷn yn werth £483M ac mae disgwyl i hyn gynyddu).9
Bydd toriadau hefyd yn cael effaith anffafriol ar ofalwyr di-dâl sy’n dibynnu ar wasanaethau bysiau: mae tua 55% o ofalwyr yng Nghymru dros 55 oed ac mae gofalwyr di-dâl yn fwy tebygol o fod yn fenywod, yn hŷn ac yn byw mewn cymunedau difreintiedig.10 Ni ddylid cyfyngu gwasanaethau bysiau yn y dyfodol i oriau swyddfa safonol ac yn ystod yr wythnos. Byddai hyn yn golygu na fyddai pobl hŷn yn gallu teithio o gwmpas gyda’r nos ac ar y penwythnos.
Bwriad Bil Bysiau arfaethedig Llywodraeth Cymru yw datrys rhai o’r problemau sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau bysiau ac mae’r Comisiynydd yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r cynigion deddfwriaethol wrth iddynt gael eu datblygu. Fodd bynnag, mae angen i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu dyrannu i wasanaethau bysiau yn y dyfodol agos: ni ellir gohirio camau i fynd i’r afael â hyn nes bydd deddfwriaeth yn cael ei phasio a’i rhoi ar waith.
Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Oedraniaeth
Mae Oedraniaeth yn golygu stereoteipio, gwahaniaethu a /neu ragfarnu yn erbyn pobl ar sail eu hoed neu’r hyn y tybir yw eu hoed. Mae Oedraniaeth yn gallu bod yn berthnasol i unrhyw grŵp oedran.11 Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif, ar raddfa fyd-eang, bod agwedd un o bob dau o bobl yn dangos oedraniaeth yn erbyn pobl hŷn, sy’n tynnu sylw at faint yr her y mae angen mynd i’r afael â hi.12 Mae angen i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 sicrhau nad yw oedraniaeth yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch gwariant a blaenoriaethu adnoddau.
Mae angen cydnabod amrywiaeth pobl hŷn hefyd mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig nad yw pobl hŷn yn cael eu trin fel grŵp unffurf. Mae angen i’r gwaith o ddatblygu polisïau adlewyrchu’r ffaith ein bod yn dod yn fwy amrywiol wrth i ni heneiddio h.y., o ran profiadau, diddordebau, incwm, iechyd a pherthnasoedd cymdeithasol.
Ar hyn o bryd mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu cyfnod heriol iawn o ran setliadau ariannol a phwysau gwario. Fodd bynnag, mae perygl y bydd pobl hŷn yn ysgwyddo baich anghymesur o ganlyniad i doriadau i wasanaethau. Mae angen asesu effaith gyfunol toriadau i wahanol fathau o wasanaethau. Er enghraifft, ni ddylid ystyried toriadau i wasanaethau bysiau ar wahân i doriadau i wasanaethau eraill sy’n cael eu defnyddio a’u gwerthfawrogi gan bobl hŷn.
Wrth lunio dyraniadau cyllideb ar gyfer 2024-25, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb effeithiol yn cael eu cynnal i ddeall effaith gwariant arfaethedig a newidiadau ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl hŷn. Dylid cyhoeddi’r Asesiadau hyn hefyd er mwyn helpu i graffu ar benderfyniadau a wneir a sicrhau nad yw oedraniaeth wedi effeithio ar y gwaith o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau.
Dylai allgau digidol fod yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu a chraffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae angen cynnal gallu pobl hŷn nad ydynt ar-lein i gael gafael ar wasanaethau, nwyddau a gwybodaeth neu, mewn rhai achosion, eu hadfer. Fel y nodwyd uchod, nid oes gan 31% o bobl dros 75 oed fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nid yw 33% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys Teledu Clyfar a dyfeisiau llaw). Mae sicrhau bod gan holl adrannau gwario Llywodraeth Cymru adnoddau digonol i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau i ddinasyddion nad ydynt ar-lein yn rhan hanfodol o gynhwysiant ac atal y bwlch cydraddoldeb rhag lledu ymhellach. Rhaid ystyried hyn wrth gynllunio yn y dyfodol.
Crynodeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
- Dyrannu adnoddau i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn drwy ddulliau newydd fel defnyddio data sydd gan awdurdodau lleol eisoes i ganfod pobl hŷn sydd ddim yn manteisio ar hwn ar hyn o bryd; sicrhau bod negeseuon am y cymorth sydd ar gael drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol yn cael eu targedu’n well at bobl hŷn.
- Sicrhau buddsoddiad digonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cyllid ar gyfer atal a chymorth yn y gymuned.
- Parhau i ddarparu cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith parhaus o ddatblygu Cymunedau Oed-Gyfeillgar.
- Cynnal y cerdyn bws rhatach a sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac y gweithredir ar yr hyn maent yn ei ddweud yng nghyswllt unrhyw newidiadau i drafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol, yn enwedig gwasanaethau
- Cefnogi trafnidiaeth gymunedol i ddarparu mwy o gymorth i bobl hŷn mewn ardaloedd lle mae diffyg difrifol o ran cludiant.
- Cynnal a chyhoeddi Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yng nghyswllt effaith gyfunol penderfyniadau gwario ar y gyllideb ddrafft sy’n debygol o gael effaith negyddol ar bobl hŷn i sicrhau nad yw oedraniaeth wedi effeithio ar bolisïau a phenderfyniadau.
- Sicrhau bod y gyllideb ddrafft yn cydnabod allgáu digidol ac nad yw’n cyfrannu at ehangu’r bwlch cydraddoldeb rhwng pobl nad ydynt ar-lein, llawer ohonynt dros 75 oed.
1 Stats Cymru. (2023) Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y penteulu Mawrth 2023. Ar gael yn: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Community-Safety-and- SocialInclusion/Poverty/pensionersinrelativeincomepoverty-by-ageoftheheadofhousehold
2 Mae’r nifer cyfyngedig o ymatebwyr yn golygu na fu’n bosibl diweddaru’r ffigur ar gyfer pobl dros 85 oed ers 2020 Ibid.
3 Gweler Stats Cymru. (2023) Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl math o deulu. Mawrth 2023. Ar gael yn https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Community-Safety-and-Social- Inclusion/Poverty/pensioners/pensionersinrelativeincomepoverty-by-familytype
4 Independent Age. (2019) Credit where it’s due: Ending the £3.5 billion Pension Credit scandal, tud.13. Ar gael yn: Credit where its due report_0.pdf (independentage.org)
5 Dadansoddi Cyllid Cymru. (2022) Rhagolwg Cyllideb Cymru 2022. Ar gael yn: https://www.cardiff.ac.uk/ data/assets/pdf_file/0007/2688199/wbo_2022_full_report_final.pdf, tudalen 41.
6 Cyngor Abertawe (2023) Datganiad i’r wasg. Ar gael yn: Mynd am dro wythnosol yn newid bywydau er gwell, dywed cerddwyr
7 Llywodraeth Cymru. (2021) Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. Ar gael yn: Cymru o blaid pobl hŷn [HTML] | GOV.WALES
8 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2023) Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio Ystadegau Allweddol. Ar gael yn: Understanding-Wales-ageing-population-18.9.pdf (olderpeople.wales)
9 Prifysgol Bangor. (2018) Byw yn dda yn hirach: y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a llesiant pobl hŷn yng Nghymru. Ar gael yn: bywynddaynhirach2018.pdf (bangor.ac.uk)
10 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2023) Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio: Ystadegau Allweddol. Ar gael yn: Understanding-Wales-ageing-population-18.9.pdf (olderpeople.wales), p. 12
11 I gael rhagor o wybodaeth am oedraniaeth, ewch i: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth. Ar gael yn: Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
12 Sefydliad Iechyd y Byd. (dim dyddiad) Oedraniaeth. Ar gael yn: Ageism (who.int)