Angen Help?

Rhoi Diwedd ar Ragfarn a Gwahaniaethu ar Sail Oedran

A plastic figurine on a pebble in the foreground and seven plastic figurines in the background standing

Oedraniaeth yw rhagfarn neu wahaniaethu ar sail oedran unigolyn, ac mae’n dal yn gyffredin iawn mewn cymdeithas.

Mae oedraniaeth yn sail i nifer o’r problemau mae pobl hŷn yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac mae’n arwain at stereoteipiau negyddol, at driniaeth annheg, ac at beidio â pharchu a chynnal hawliau pobl. Gall oedraniaeth gael dylanwad negyddol ar y penderfyniadau a wneir gan gymdeithas hefyd, gan olygu bod y gwasanaethau, y cyfleusterau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnom i’n helpu i heneiddio’n dda yn gallu bod yn annigonol ac yn gwahaniaethu yn ein herbyn oherwydd ein hoedran.

Mae corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod oedraniaeth yn cael ystod eang o effeithiau negyddol ar bobl hŷn, gan effeithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, gweithrediad y cof, y ffordd maent yn gwella yn dilyn cyfnod o salwch, lefelau allgáu cymdeithasol, a hyd yn oed disgwyliad oes.

O’r herwydd, mae mynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yn hanfodol er mwyn cefnogi iechyd a lles pobl hŷn, ac er mwyn sicrhau cydraddoldeb, fel ein bod yn cael ein trin gydag urddas a pharch wrth i ni heneiddio, a bod y cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas yn cael ei gydnabod a’i ddathlu.

Mae hefyd yn bwysig mynd i’r afael ag oedraniaeth os ydym am wneud gwelliannau cynaliadwy mewn agweddau eraill ar fywydau pob hŷn.

Archwiliwch Fwy

Older woman in red with crossed arms over a bollard

Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth

Mae’n hanfodol ein bod yn herio oedraniaeth ar bob cyfle, ond mae nifer o bobl hŷn wedi dweud wrthym eu bod yn ei chael hi’n anodd adnabod oedraniaeth, a dydyn nhw ddim yn siŵr sut i fynd ati i herio oedraniaeth pan fyddant yn dod ar ei draws. Mae ein canllaw yn rhoi gwybodaeth am sut mae cymryd camau yn erbyn oedraniaeth.

Rhagor o wybodaeth
An older woman cupping her hands around her mouth and shouting while smiling

Sut i osgoi oedraniaeth mewn cyfathrebiadau

Un o’r ffyrdd y gallwn i gyd fynd i’r afael ag oedraniaeth yw drwy’r iaith a’r derminoleg a ddefnyddiwn, sy’n gallu effeithio ar sut mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymateb i’r hyn rydym yn ei ddweud. Mae’r canllaw hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i osgoi oedraniaeth wrth gyfathrebu.

Darllenwch ein canllaw
An older man sitting and reading the newspaper in a room full of plants

Canllawiau i’r cyfryngau ar gyfer gohebu ynghylch heneiddio ac oedran hŷn

Darllenwch ein canllawiau i newyddiadurwyr i helpu i sicrhau bod pobl hŷn a’u profiadau’n cael eu hadlewyrchu a’u cynrychioli’n fwy cywir yn y cyfryngau

Darllenwch ein canllaw

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges