Rhwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar
Sefydlwyd Rhwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd gyda’r weledigaeth gyffredin o wneud cymunedau’n lleoedd gwych i heneiddio ynddynt. Fel ymateb i heneiddio’r boblogaeth fyd-eang a threfoli cyflym, mae’n canolbwyntio ar weithredu ar lefel leol sy’n meithrin cyfranogiad llawn pobl hŷn mewn bywyd cymunedol ac sy’n hyrwyddo heneiddio’n iach ac yn egnïol.
Cenhadaeth y Rhwydwaith yw ysgogi a galluogi dinasoedd a chymunedau ledled y byd i ddod yn gynyddol o blaid pobl hŷn. Mae’r Rhwydwaith yn ceisio gwneud hyn drwy:
- ysbrydoli newid drwy ddangos beth y gellir ei wneud a sut y gellir ei wneud;
- cysylltu dinasoedd a chymunedau ledled y byd i hwyluso cyfnewid gwybodaeth a phrofiad; a
- cefnogi dinasoedd a chymunedau i ddod o hyd i atebion addas ac arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Nid yw bod yn aelod o’r Rhwydwaith yn achrediad ar gyfer bod o blaid pobl hŷn. Yn hytrach, mae’n adlewyrchu ymrwymiad dinas neu gymuned i wrando ar anghenion eu poblogaeth sy’n heneiddio, asesu a monitro i ba raddau y maent o blaid pobl hŷn a gweithio ar y cyd â phobl hŷn ac ar draws sectorau i greu amgylcheddau ffisegol a chymdeithasol sydd o blaid pobl hŷn. Mae aelodaeth hefyd yn ymrwymiad i rannu profiadau, cyflawniadau a gwersi a ddysgwyd gyda dinasoedd a chymunedau eraill.
Ar hyn o bryd mae Rhwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar yn cynnwys 1356 o ddinasoedd a chymunedau mewn 44 o wledydd, sy’n cwmpasu dros 262 miliwn o bobl ledled y byd.
Mae’r Comisiynydd yn cael ei chydnabod fel Aelod cysylltiedig o Rhwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar ac mae’n gweithio i hyrwyddo cynnydd o blaid pobl hŷn ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Rydym yn eiriol dros waith y Rhwydwaith Byd-eang yma yng Nghymru, yn ceisio datblygu gwybodaeth a gweithredu ar amgylcheddau o blaid pobl hŷn, ac yn gweithredu fel catalydd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol drwy hyrwyddo’r dull gweithredu sydd o blaid pobl hŷn.
Rydym hefyd yn darparu arweiniad a chefnogaeth i bartneriaethau sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol sy’n dymuno dod yn aelodau o’r Rhwydwaith Byd-eang.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r tîm ar 02920 445 030 neu anfonwch e-bost at heneiddiondda@comisiynyddph.cymru.