Gwneud eich cymuned yn fwy o blaid pobl hŷn
Annog a chefnogi eich ardal leol i fod o blaid pobl hŷn
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi llofnodi Datganiad Dulyn, ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cymunedau sydd o blaid pobl hŷn. Beth am gysylltu â’ch Cynghorwyr lleol a gofyn iddynt adeiladu ar hyn drwy gymryd camau i ymuno â’r Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau o Blaid Pobl Hŷn?
Os ydych chi’n ymwneud â grŵp neu glwb lleol neu’n gwirfoddoli’n lleol ar ran mudiad – efallai y gallech weithio gyda’ch gilydd i ymgysylltu â thîm eich awdurdod lleol ar gyfleoedd a datblygiad o blaid pobl hŷn.
Sefydlu prosiect neu grŵp o blaid pobl hŷn lle rydych chi’n byw
Mae bod yn gymuned o blaid pobl hŷn yn golygu mwy na dim ond strategaethau’r llywodraeth a mentrau awdurdodau lleol, mae’n golygu pobl leol yn dod ynghyd i wneud eu cymunedau’n lleoedd gwell i fyw ynddynt.
Rydym wedi datblygu canllaw sy’n darparu cyngor syml ac ymarferol i unrhyw un sy’n bwriadu gwneud y mannau lle maen nhw’n byw yn fwy cynhwysol i bobl o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai syniadau am y math o bethau y gallwch chi eu gwneud i sicrhau bod eich cymuned yn un sydd fwy o blaid pobl hŷn.
Cerdyn Heneiddio’n Dda
Mae’r Cerdyn Heneiddio’n Dda yn helpu pobl hŷn i fod yn annibynnol ac i barhau i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r cardiau yn cynnwys negeseuon syml y gellir eu defnyddio i roi gwybod i bobl y gallai fod arnynt angen ychydig o help neu gymorth. Maen nhw’n cael eu darparu mewn waled cerdyn teithio, a byddant yn hawdd eu hadnabod.
Mae’r fenter yn seiliedig ar gynlluniau ‘Better and Safe Journey’ a ddatblygwyd gan First Group. Mae’r cardiau wedi’u dylunio i gyd-fynd â chynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol eraill fel Pasbort Penfro a’r cynllun Waled Oren. Hoffem ddiolch i First Group am ei holl gymorth a chefnogaeth, yn ogystal â’r holl grwpiau ac unigolion ledled Cymru a fu’n gweithio gyda ni i helpu datblygu’r cardiau a’r negeseuon.
Ble gellir defnyddio’r cerdyn?
Gellir defnyddio’r cerdyn mewn unrhyw fan lle mae pobl yn dymuno gofyn am ychydig o help. Gall busnesau a sefydliadau sy’n dymuno cefnogi’r fenter gysylltu â ni am ddeunyddiau hyrwyddo, sy’n cynnwys sticeri ffenestr, posteri a thaflenni, i roi gwybod i gwsmeriaid eu bod nhw’n adnabod y cardiau. Gallan nhw fod yn ddefnyddiol iawn mewn siopau, fferyllfeydd, tai tafarn, bwytai, banciau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Sut alla i gael Cerdyn Heneiddio’n Dda
Gallwch gael cyfres o gardiau a waled cerdyn teithio gan fusnesau sy’n cymryd rhan neu drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod i gysylltu â ni yn uniongyrchol. Os hoffech chi gefnogi’r cardiau yn eich busnes, neu os hoffech help i’w hyrwyddo yn eich cymuned, cysylltwch â’ ni.
Gallwch gysylltu â thîm Heneiddio’n Dda drwy ffonio 029 2044 5030 neu drwy anfon e-bost at ageingwell@olderpeoplewales.com.
Eitemau wedi’u llwytho i lawr
Gwneud Cymru’n genedl o gymunedau sy’n gyfeillgar i oed
- Maint y ffeil
- 1.54MB
- Math o ffeil
- PDF Document