Mae heneiddio’n dda – ‘ychwanegu bywyd at flynyddoedd, nid blynyddoedd at fywyd yn unig’ – yn bwysig i bob un ohonom, ac i’n gwlad yn ei chyfanrwydd. Mae’n rhywbeth y dylai pawb yng Nghymru allu ei wneud. Fe ddylid ystyried pobl hŷn yn rhan hollbwysig o gymdeithas a dylen nhw allu cael rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan yn ein heconomi a’n cymunedau, ac i gyfrannu atynt.
Ond, efallai na fyddwn yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig i ni wrth inni fynd yn hŷn. Mae problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, yn golygu bod rhai pobl hŷn yn methu mynd a dod – i wirfoddoli, i dreulio amser gyda theulu a ffrindiau, i ofalu am anwyliaid, neu er mwyn cyrraedd apwyntiadau meddygol. Mae llawer o bobl hŷn heb fynediad at y rhyngrwyd, ac maent mewn perygl o gael eu gadael ar ôl wrth i fwy a mwy o wasanaethau symud i fod yn wasanaethau ar-lein.
Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn golygu bod miloedd o bobl hŷn yn cael trafferthion ariannol, gyda llawer heb gael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl i’w gael.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru’n genedl o gymunedau o blaid pobl hŷn lle mae pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed, eu cynnwys a’u parchu, a lle gallant fynd a dod; bod yn wybodus; fforddio gwneud pethau maen nhw eisiau eu gwneud; a byw bywydau iach ac egnïol.
Beth sy’n gwneud cymuned yn un o blaid pobl hŷn?
Mae cymunedau sydd o blaid pobl hŷn yn helpu i sicrhau ein bod yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, ein clywed, ein cynnwys a’n parchu, a’n bod yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig wrth i ni heneiddio.
Rhagor o wybodaethRhwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar
Sefydlwyd Rhwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd gyda’r weledigaeth gyffredin o wneud cymunedau’n lleoedd gwych i heneiddio ynddynt.
Rhagor o wybodaeth