Diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn
Mae’r ymateb i’r pandemig wedi dangos bod llawer o waith i’w wneud o hyd nes bydd hawliau a dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau wedi’u gwreiddio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.
At hynny, mae materion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi amlygu bod hawliau rhai pobl hŷn – megis pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal – yn ddiffygiol iawn o gymharu â gweddill y gymdeithas.
Mae Rhaglen Waith 2022-24 y Comisiynydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y camau y mae’r Comisiynydd yn eu cymryd i roi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yng Nghymru.
Darllenwch Rhaglen Waith 2022-24 y ComisiynyddExplore More

Hawliwch Eich Hawliau
Mae’r Comisiynydd wedi cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau i rymuso pobl hŷn.
Dysgwch ragor
Grŵp Hawliau Pobl Hŷn sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal
Sefydlodd y Comisiynydd Grŵp Hawliau Pobl Hŷn sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal i ddod â sefydliadau o bob rhan o’r DU sy’n cydweithio i gryfhau hawliau pobl hŷn at ei gilydd.
Dysgwch ragor
Cael yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch mewn byd digidol: Gwybod eich hawliau
Oeddech chi’n gwybod bod hawl gennych i gael yr wybodaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch mewn ffordd sy'n addas i chi?
Rhagor o wybodaeth