Angen Help?

Atal Cam-drin Pobl Hŷn

Mae miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn profi camdriniaeth – gweithred sy’n digwydd unwaith neu drosodd a throsodd, neu ddiffyg gweithredu priodol, sy’n achosi niwed neu ofid – ac nid yw troseddau yn erbyn pobl hŷn yn cael eu riportio’n ddigon aml.

Mae’r mathau o gam-drin mae pobl hŷn yn ei wynebu yn cynnwys cam-drin corfforol; cam-drin domestig; cam-drin rhywiol; cam-drin seicolegol neu emosiynol; cam-drin ariannol neu faterol; cam-drin sefydliadol neu gyfundrefnol; esgeulustod; a rheoli dan orfodaeth.

Er bod y ddealltwriaeth o hyd a lled, ac o natur cam-drin a throseddau yn erbyn pobl hŷn yn tyfu, mae diffyg data ystyrlon o hyd am y lefelau o gam-drin yng Nghymru ac mae’r ymwybyddiaeth o’r materion hyn yn dal yn rhy isel o lawer ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithas yn gyffredinol.

Mae’r Comisiynydd yn cymryd camau i atal y cam-drin hwn drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gwella cefnogaeth a gwasanaethau, cynnal ymchwil a gwella data, casglu lleisiau a phrofiadau pobl hŷn, cefnogi staff drwy hyfforddiant a chefnogaeth, a dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth.

Mae Rhaglen Waith 2022-24 y Comisiynydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y camau y mae’r Comisiynydd yn eu cymryd i roi diwedd ar gam-drin pobl hŷn yng Nghymru.

Darllenwch Rhaglen Waith 2022-24 y Comisiynydd

Archwilio Mwy

Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin

Mae Grŵp Gweithredu’r Comisiynydd ar Atal Cam-drin yn dwyn ynghyd dros 30 o sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i'w cadw'n ddiogel ac i’w hamddiffyn rhag camdriniaeth a throsedd.

Rhagor o wybodaeth

Cymorth os ydych chi'n cael eich cam-drin

Dod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth os ydych chi'n cael eich cam-drin neu os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod.

Cael help

Cyngor a Chymorth

Cysylltwch â thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd

Cysylltwch

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges