Senedd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Blaenoriaethau i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith
15 Medi 2023
Beth yw eich barn am dair blaenoriaeth strategol y Pwyllgor: Newid Hinsawdd; Cymunedau Cynaliadwy: a diogelu a gwella’r amgylchedd naturiol?
Mae blaenoriaethau’r Pwyllgor yn ddigon eang i alluogi amrywiaeth o feysydd i gael eu hystyried ar gyfer gweddill tymor y Senedd.
I ba raddau mae tair blaenoriaeth strategol y Pwyllgor yn berthnasol o hyd, gan ystyried datblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ers iddynt gael eu pennu ar ddechrau’r Chweched Senedd?
Mae tair blaenoriaeth strategol y Pwyllgor yn berthnasol o hyd. Mae cymunedau cynaliadwy wedi dod yn bwysicach byth fel blaenoriaeth oherwydd effaith yr argyfwng costau byw ar unigolion ac aelwydydd ledled Cymru, gan gynnwys pobl hŷn.1 Mae pwyslais y Pwyllgor ar drafnidiaeth, cysylltedd a bwyd fforddiadwy i’w groesawu, ond rhaid ystyried hefyd pa mor addas yw llefydd i fyw sy’n ymestyn y tu hwnt i bobl mewn gwaith cyflogedig. Mae angen ystyried ffactorau eraill sy’n cyfrannu at gymunedau cynaliadwy fel cyfrifoldebau gofalu a mynediad at wasanaethau lleol.
Bydd y dull Cymunedau Oed-gyfeillgar o ddiddordeb i’r Pwyllgor wrth feddwl yn y dyfodol am y flaenoriaeth i gymunedau cynaliadwy.2 Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn disgrifio Cymunedau Oed-gyfeillgar fel llefydd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i gefnogi a galluogi pob un ohonom i heneiddio’n dda. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi wyth nodwedd hanfodol i Gymunedau Oed-gyfeillgar, neu ‘yr wyth maes’ sef: Mannau awyr agored ac adeiladau; Trafnidiaeth; Tai; Cyfranogiad cymdeithasol; Parch a chynhwysiant cymdeithasol; Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth; Cyfathrebu a gwybodaeth; Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd. Gall yr wyth maes helpu i lunio model ar gyfer meddwl am gymunedau cynaliadwy.
Yn 2010, lansiodd Sefydliad Iechyd y Byd ei ‘Rwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar’. I ddod yn aelod o’r rhwydwaith, rhaid i arweinwyr lleol ymrwymo i’r pedwar cam a’u rhoi ar waith:
- ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl hŷn, a’u deall.
- cynllunio’n strategol i alluogi’r holl randdeiliaid i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd.
- rhoi cynllun gweithredu ar waith.
- mesur cynnydd y dull gweithredu oed-gyfeillgar yn ogystal â’i effaith ar fywydau pobl.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’u partneriaid, gan gynnwys pobl hŷn, i sbarduno’r gwaith o ddatblygu cymunedau oed-gyfeillgar a Chymru oed-gyfeillgar. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w weld yn ‘Cymru o blaid pobl hŷn: ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio’, a thrwy’r £1.1M o gyllid mae’n darparu i staff ymroddedig awdurdodau lleol i ddatblygu cymunedau sy’n oed-gyfeillgar drwy ymgysylltu a phartneriaethau lleol. Hyd yma, mae tri awdurdod lleol – Caerdydd, Ynys Môn a Sir y Fflint – wedi gwneud cais llwyddiannus i ymuno â’r Rhwydwaith Byd-eang ac mae llawer o awdurdodau lleol eraill wrthi’n gwneud cais, diolch i ymgysylltu cadarnhaol â phartneriaid a rhanddeiliaid. Mae corff cynyddol o arferion da i’w rhannu o’r datblygiadau hyn y byddai’r Comisiynydd yn falch o’u darparu i’r Pwyllgor.
Mae’r Comisiynydd yn argymell bod cymunedau oed-gyfeillgar yn rhan allweddol o agwedd y Pwyllgor tuag at ei flaenoriaeth cymunedau cynaliadwy. Mae hyn yn berthnasol i ystyriaethau seilwaith a bydd hefyd yn bwysig wrth gytuno ar waith ar greu lleoedd yn y dyfodol.
Mae Cymru eisoes yn gweld arwyddion o hinsawdd sy’n newid yn gyflym gyda mwy o achosion o dywydd gwael, fel gwres eithafol a mwy o berygl o lifogydd. Mae ymchwil yn dangos bod newid hinsawdd yn bryder ar draws y cenedlaethau yng Nghymru.3 Canfu’r arolygon a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2023 fod 67% o bobl hŷn yn teimlo’n bryderus am newid hinsawdd.4 Mae hyn yn parhau i wrth-ddweud unrhyw syniad nad yw pobl hŷn yn poeni am newid hinsawdd.
Fel un o flaenoriaethau’r Pwyllgor mae i newid hinsawdd oblygiadau penodol hefyd o safbwynt pobl hŷn yng Nghymru. Er enghraifft, roedd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd 20235 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar newid hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl hŷn mewn mwy o berygl yn ystod tywydd eithafol a llifogydd oherwydd y tarfu ar fynediad at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth.6 Mae pobl hŷn hefyd yn cael eu cynnwys mewn grwpiau risg uchel yn ystod digwyddiadau gwres eithafol, gyda’r risg o ddadhydradu, salwch sy’n gysylltiedig â gwres a marwolaeth.7 Bydd tywydd gwael a achosir gan newid hinsawdd hefyd yn arwain at fwy o ynysigrwydd cymdeithasol, yn ystod digwyddiadau fel tywydd poeth.8 Mae angen adlewyrchu effaith benodol newid hinsawdd ar bobl hŷn yn nhrafodaethau’r Pwyllgor.
Beth yw eich barn am flaenoriaethau manwl/rhaglen waith amlinellol y Pwyllgor ar gyfer Blynyddoedd 3 i 5 y Chweched Senedd (a nodir yn ei adroddiad, Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd)?
Mae blaenoriaethau/rhaglen waith amlinellol y Pwyllgor yn cwmpasu ystod o feysydd priodol. Mae bwriad y Pwyllgor o asesu cynnydd yn erbyn strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru o ddiddordeb arbennig, a bydd craffu ar y graddau y mae’n cyflawni ar gyfer pobl hŷn yn cael ei groesawu. Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru – Cynllun Cyflawni yn cynnwys cam gweithredu o dan ‘Cynhwysiant digidol’ sef ‘Gweithio gyda phob sector i sicrhau bod opsiynau amgen ar gyfer defnyddio gwasanaethau digidol ar gael i bawb ac wedi’u cynllunio i’r un safon â’r rhai a ddisgwylir gan wasanaethau digidol’.9 Dosbarthwyd y cam gweithredu hwn yn un ar gyfer y ‘dyfodol’: bydd yn ddefnyddiol gwybod am gynnydd arfaethedig yn y maes hwn wrth i’r mater penodol hwn ddod yn fwyfwy brys.
Mae pobl hŷn yn aml yn codi eithrio digidol gyda’r Comisiynydd. Canfu’r arolygon a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2023 nad yw traean o bobl 60 oed a hŷn yn defnyddio ffôn clyfar, ac ymysg y rheini sy’n gwneud hynny, mae sgiliau a hyder yn amrywio’n fawr.10 Yn yr un modd, canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru nad yw 32% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw) ac nad oes gan 29% o bobl dros 75 oed fynediad at y rhyngrwyd gartref.11
Mae’n bosib bod y Pwyllgor eisoes yn ymwybodol bod y Comisiynydd wedi cyhoeddi Canllawiau Adran 12 i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn nodi’r mathau o gamau y dylent fod yn eu cymryd fel bod gan bobl nad ydynt yn gallu (neu nad ydynt yn dymuno) mynd ar-lein ffyrdd o gael mynediad at wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol, ac i gefnogi pobl hŷn i fynd ar-lein.12
Mae’r Canllawiau’n tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i unrhyw newid i wasanaethau digidol gael ei ategu gan fesurau i sicrhau bod hawliau dynol pobl hŷn yn cael eu diogelu, a bod modd cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau drwy sianeli all-lein. Dylid darparu cymorth hefyd iddynt feithrin y sgiliau a’r hyder i allu cysylltu ar-lein.13 Felly, mae’n bwysig bod strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gyfer pobl hŷn i sicrhau bod pawb yn cael yr un mynediad at wybodaeth a gwasanaethau p’un a ydynt yn defnyddio technoleg ai peidio.
I ba raddau mae blaenoriaethau manwl/rhaglen waith amlinellol y Pwyllgor yn berthnasol o hyd, gan ystyried datblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ers iddynt gael eu pennu ar ddechrau’r Chweched Senedd?
Mae ffocws y Pwyllgor ar strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru yn dod yn fwyfwy perthnasol wrth i wasanaethau a gwybodaeth fynd ar-lein ar raddfa gyflymach. Mae pobl hŷn yn dweud wrth y Comisiynydd bod dewisiadau all-lein ar gael yn llai aml neu ei bod yn anoddach cael gafael arnynt.
A oes unrhyw faterion eraill yn ymwneud â blaenoriaethau/rhaglen waith/ffyrdd o weithio y Pwyllgor yr hoffech roi sylwadau arnynt?
Mae tudalen we’r ymgynghoriad presennol yn datgan y dylid cyflwyno pob ymateb drwy’r ffurflen ar-lein ac mae’r Comisiynydd wedi ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor ar wahân yn tynnu sylw at sut mae hyn yn eithrio pobl nad ydynt ar-lein, gan gynnwys nifer o bobl hŷn. Er bod ymchwil yn dangos bod newid hinsawdd yn fater sy’n peri pryder i bobl hŷn, ni fyddai nifer fawr o bobl hŷn yn gallu ymateb i’r ymgynghoriad oherwydd bod dulliau eraill o ymateb yn cael eu diystyru.
Dylai holl Bwyllgorau’r Senedd sicrhau bod y gwaith maen nhw’n ei wneud, gan gynnwys ymchwiliadau, mor hygyrch â phosibl i bobl sy’n dymuno ymateb. Mae hyn yn golygu annog ymatebion mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys rhai nad ydynt yn ddigidol.
1 Dangosodd arolygon a gynhaliwyd ar ran y Comisiynydd ym mis Mawrth 2023 fod 64% o bobl dros 60 oed wedi lleihau eu gwariant yn ystod y 12 mis blaenorol. O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi gwario llai, roedd 84% wedi defnyddio llai o ynni, ac roedd 83% yn dweud eu bod wedi cwtogi ar siopa bwyd. Canlyniadau Arolygon Mawrth 2023 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2023). Ar gael ar gais.
2 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (di-ddyddiad) Beth yw Cymunedau o blaid pobl hŷn? Ar gael yn: Beth yw cymunedau o blaid pobl hŷn? – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (comisiynyddph.cymru)
3 Iechyd Cyhoeddus Cymru (2022) Arolwg cyhoeddus Cymru yn datgelu effeithiau niweidiol tybiedig newid hinsawdd ar iechyd meddwl a chostau byw. Ar gael yn Saesneg yn: Welsh public survey reveals perceived harmful impacts of climate change on mental health and cost of living – Public Health Wales (nhs.wales)
4 Arolygon Mawrth 2023 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2023). Ar gael ar gais.
5 Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023) Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. Ar gael yn: Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd – Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (phwwhocc.co.uk)
6 Ibid.,
7 Ibid.,
8 Ibid.
9Llywodraeth Cymru (2021) Strategaeth ddigidol i Gymru: cynllun cyflawni, diweddarwyd Tachwedd 2022. Ar gael yn: Strategaeth ddigidol i Gymru: cynllun cyflawni [HTML] | LLYW.CYMRU
10Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2022) Eithrio digidol yn creu rhwystrau newydd i bobl hŷn. Ar gael yn: Eithrio digidol yn creu rhwystrau newydd i bobl hŷn – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
11 Llywodraeth Cymru (2023) Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill 2022 – Mawrth 2023. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2022-i-fawrth-2023
12 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2022) Sicrhau mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o ymatebion awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Ar gael yn: Sicrhau mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o ymatebion awdurdodau lleol a byrddau iechyd – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
13 Ibid.