Annwyl John Griffiths AS,
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd: Ymgynghoriad ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
Rwy’n falch o weld bod yr ymgynghoriad presennol yn galluogi pobl i gyflwyno eu sylwadau drwy’r post yn ogystal ag yn electronig. Mae allgáu digidol yn broblem gynyddol i bobl hŷn ledled Cymru.
Mewn perthynas â hyn, nodaf mai un o’r cynigion yn y Bil uchod sy’n ymwneud â system y dreth gyngor yw disodli’r gofyniad presennol i gyhoeddi gwybodaeth mewn papurau newydd gyda gofyniad i gyhoeddi hysbysiad o’r taliadau treth gyngor ar wefan yr awdurdod lleol a “rhoi trefniadau amgen addas ar waith i sicrhau bod gwybodaeth o’r fath ar gael i ddinasyddion sy’n ei chael yn anodd cael mynediad at gyfleusterau ar-lein”.
Mae hyn yn destun pryder gan fod Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru yn dangos nad oes gan 31% o bobl dros 75 oed fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nad yw 33% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw), o’i gymharu â 13% o bobl 65-74 oed a 0% o bobl 25-44 oed. Mae hyn yn golygu nad yw oddeutu 101,200 o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Felly, mae’r newid hwn yn debygol o gael effaith anghymesur ar bobl hŷn. Mae ‘trefniadau amgen addas’ hefyd yn ddisodliad niwlog o’r gofyniad mwy penodol i gyhoeddi mewn papurau newydd, ac mae perygl y bydd yn ddewis amgen annigonol.
Ym mis Tachwedd 2021, fe wnes i ddefnyddio fy mhwerau cyfreithiol i gyhoeddi canllawiau Adran 12 i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynghylch mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol er mwyn helpu i fynd i’r afael â hawliau pobl hŷn nad ydynt ar-lein.
Ar hyn o bryd rwy’n gwneud rhagor o waith ar allgáu digidol. Mae dros 150 o bobl hŷn wedi rhannu eu profiadau diweddar o allgáu digidol gyda mi a byddaf yn cyhoeddi adroddiad ar y mater hwn cyn bo hir. Mae pobl hŷn yn disgrifio teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl, ‘wedi gweld eu dyddiau gwell’, ac wedi’u hynysu o ganlyniad i gymaint o fusnes bob dydd yn symud i fod ar-lein yn unig neu ddigidol yn gyntaf. Mae perygl y bydd y cynigion yn y Bil presennol yn ychwanegu at hyn ymhellach fyth ac maent yn ddiangen.
Mae’n bosibl y bydd dinasyddion yn fwy tebygol o weld gwybodaeth ddefnyddiol nad oeddent yn ymwybodol ohoni (ac felly ddim yn bwriadu chwilio amdani’n benodol) wrth bori drwy bapurau newydd cyhoeddedig. Mae’n ymddangos yn llai tebygol y bydd pobl yn pori drwy wefannau awdurdodau lleol.
Am y rhesymau uchod, dylid cadw’r gofyniad i gyhoeddi hysbysiadau o’r taliadau treth gyngor mewn papurau newydd a dylid dileu’r ddarpariaeth yn y Bil i hyn fod drwy wefannau awdurdodau lleol, gyda darpariaeth all-lein amgen amhenodol. Nid oes rheswm pam na all y Bil bennu bod taliadau’r dreth gyngor yn cael eu cyhoeddi ar-lein ac mewn papurau newydd.
Byddwn yn hapus i drafod mater allgáu digidol ymhellach. Cysylltwch â Ruth Thomas (ruth.thomas@olderpeople.wales) os hoffech drefnu cyfarfod.
Yn gywir
Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru