Yma gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau tîm y Comisiynydd a’r ffyrdd y maent yn cefnogi ei gwaith.
Kelly Davies
Prif Swyddog Gweithredu
Fel Prif Swyddog Gweithredu, mae Kelly yn arwain holl weithrediadau mewnol swyddfa’r Comisiynydd, ac yn atebol amdanynt. Ei rôl yw sicrhau bod trefniadau cynllunio, adrodd a monitro effeithiol ar waith i helpu’r sefydliad i weithredu’n ddidrafferth ac i reoli ei berfformiad yn erbyn safonau, cyllidebau ac amcanion strategol allweddol. Mae Kelly hefyd yn gyfrifol am ganfod risgiau a’u rheoli ac am sicrhau bod systemau, prosesau, rheolaethau a gwybodaeth ar waith i gydymffurfio â dyletswyddau statudol y Comisiynydd. Fel Prif Swyddog Gweithredu, mae Kelly wedi’i dynodi’n ffurfiol yn Ddirprwy Gomisiynydd, ac mae wedi cael ei phenodi i gyflawni rôl y Comisiynydd os bydd y Comisiynydd yn ei chyfarwyddo i wneud hynny neu os na all gyflawni ei dyletswyddau statudol.
Katie Holliday
Pennaeth Cyllid ac Adnoddau
Fel Pennaeth Cyllid ac Adnoddau, Katie sy’n gyfrifol am sicrhau bod systemau, prosesau, rheolaethau a gwybodaeth effeithiol ar waith i alluogi’r Comisiynydd i gydymffurfio’n llwyr â’i dyletswyddau statudol mewn perthynas â systemau a rheolaethau ariannol, diogelu data ac iechyd a diogelwch. Mae Katie yn gyfrifol am weithrediad yr holl systemau cyfrifyddu ac adrodd ariannol o ddydd i ddydd, ac am gaffael (yn cynnwys tendrau a chontractau) a sicrhau bod yr holl ddeilliannau allweddol yn cael eu cyflawni yn unol â’r contractau y cytunwyd arnynt. Mae Katie hefyd yn gyfrifol am baratoi cyfrifon blynyddol ac am gyflwyno ffurflenni ariannol statudol.
Rachel Bowen
Cyfarwyddwr Polisi
Fel Cyfarwyddwr Polisi, mae Rachel yn gyfrifol am ansawdd ac effaith allbynnau, dadansoddiadau, a thystiolaeth ymchwil a pholisi. Mae Rachel yn arwain ar feysydd penodol o waith y Comisiynydd, gan sicrhau perthynas waith ragorol â phobl hŷn a rhanddeiliaid eraill. Mae Rachel yn sicrhau bod barn a lleisiau pobl hŷn yn sail i ymchwil a gwaith polisi’r Comisiynydd drwy ymgysylltu â’r boblogaeth hŷn yn ei hamrywiaeth.
Andrea Cooper
Arweinydd Diogelu
Mae Andrea yn arwain yn weithredol ar flaenoriaeth y Comisiynydd, sef atal cam-drin pobl hŷn yng Nghymru. Mae’n gweithio gyda sefydliadau allweddol (gan gynnwys Grŵp Gweithredu’r Comisiynydd) i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt os ydyn nhw’n cael eu cam-drin neu mewn perygl o gael eu cam-drin. Mae Andrea yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i wella dealltwriaeth o natur y gamdriniaeth a wynebir gan bobl hŷn a sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud o ran cefnogi pobl hŷn ar draws polisïau, arferion, deddfwriaeth ac adnoddau.
Anna Haf Mihangel
Uwch Weithiwr Achos
Mae Anna yn darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth i bobl hŷn a’u teuluoedd ar amrywiaeth o faterion fel amddiffyn oedolion, cyllid, iechyd, gofal a thai er mwyn herio arferion gwael ac i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u deall gan ddarparwyr gwasanaethau a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau.
David McKinney
Arweinydd Heneiddio’n Dda
Mae David yn gweithio gydag unigolion, sefydliadau a chymunedau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol i gefnogi, hysbysu a grymuso pobl leol i ddatblygu ffyrdd arloesol ac ymarferol o alluogi pobl hŷn i heneiddio’n dda. Mae’n arwain y gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso digwyddiadau lleol a rhanbarthol sy’n cefnogi ac yn grymuso pobl i ddweud eu dweud am yr hyn y byddent yn hoffi ei newid yn eu cymuned a nodi’r camau y gallent hwy (ac eraill) eu cymryd i helpu pobl hŷn i heneiddio’n dda mewn cymunedau ledled Cymru, ynghyd â chynhyrchu a hyrwyddo amrywiaeth o offer, adnoddau a chanllawiau ymarferol i gefnogi newid o fewn cymunedau ledled Cymru.
Mae David hefyd yn arwain blaenoriaeth y Comisiynydd o alluogi pob person hŷn i heneiddio’n dda.
Dewi John
Cynorthwy-ydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Fel Cynorthwy-ydd Polisi a Materion Cyhoeddus, mae Dewi yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Polisi i sicrhau bod gan y Comisiynydd strategaeth wleidyddol ac ymgysylltu effeithiol. Hefyd, mae Dewi yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Polisi i nodi materion, risgiau a chyfleoedd polisi a gwleidyddol sy’n dod i’r amlwg ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu dogfennau polisi allweddol.
Elizabeth Carr
Cydgysylltydd Ymgysylltu a Digwyddiadau
Mae Liz yn sicrhau bod y Comisiynydd a’i thîm yn ymgysylltu’n effeithiol ac yn systematig â phobl hŷn ledled Cymru. Hi sy’n gyfrifol am drefnu digwyddiadau ymgysylltu’r Comisiynydd er mwyn sicrhau bod y Comisiynydd a’i thîm yn cael cyfleoedd i gyfarfod a siarad ag amrywiaeth eang o bobl hŷn ac yn gallu clywed yn uniongyrchol ganddynt am y materion sydd o bwys iddynt. Liz sydd hefyd yn cynllunio ac yn trefnu digwyddiadau allanol y Comisiynydd, gan gynnwys cynadleddau a seminarau.
Hayley Bufton
Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol
Fel Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol, mae Hayley yn cefnogi’r Prif Swyddog Gweithredu a’r Pennaeth Cyllid ac Adnoddau i sicrhau rheolaeth swyddfa effeithiol ar draws y sefydliad drwy gefnogi’r swyddogaethau Adnoddau Dynol, TG, iechyd a diogelwch a diogelu data.
Helen Benjamin
Cynorthwyydd Gweithredol
Mae Helen yn darparu ystod eang o gymorth gweinyddol i’r Dirprwy Gomisiynydd a’r Pennaeth Cyllid ac Adnoddau, yn enwedig o ran trefniadau llywodraethu, adnoddau dynol a dysgu a datblygu. Mae Helen hefyd yn delio â chontractwyr allweddol sy’n ymwneud ag amgylchedd y swyddfa ac mae’n sicrhau cydymffurfiaeth o ran iechyd a diogelwch er mwyn hyrwyddo lles ymwelwyr a staff.
Kay Hennessy
Cynorthwyydd Cymorth Rhaglen Waith
Mae Kay yn cefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglen waith y Comisiynydd drwy ddarparu amrywiaeth o gymorth gweinyddol i brif flaenoriaethau’r Comisiynydd. Mae ei rôl yn cynnwys llunio adroddiadau cynnydd a diweddariadau ar gyfer cydweithwyr, paratoi deunyddiau a darparu cymorth mewn cyfarfodydd mewn digwyddiadau.
Lauren Cooper
Dadansoddwr Data ac Ymchwil
Mae Lauren yn sicrhau bod modd i’r Comisiynydd gael gafael ar ffynonellau data priodol a’u defnyddio fel gwybodaeth, data a thystiolaeth o safon fel sail ar gyfer ei rhaglen gwaith. Mae’n dadansoddi ffynonellau data, arwain ar y gofynion data a thystiolaeth ar gyfer yr adroddiad blynyddol ‘cyflwr y genedl’, datblygu dangosyddion a mesurau i asesu cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r rhaglen waith a pharatoi deunyddiau briffio am ddata a gwaith ymchwil manwl ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Nicola Evans
Arweinydd Hawliau a Chydraddoldeb / Pennaeth Cyngor a Chymorth
Mae Nicola yn arwain ar ddiogelu, datblygu a hyrwyddo hawliau a chydraddoldeb pobl hŷn. Mae hi’n sicrhau bod y Comisiynydd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth a’r datblygiadau diweddaraf sy’n ymwneud â hawliau pobl hŷn ac mae’n hyrwyddo’r ffyrdd y gellir cynnal a pharchu hawliau pobl hŷn, gan gynnwys hyrwyddo eiriolaeth a manteision hynny.
Rhiannon Rees
Uwch Weithiwr Achos
Mae Rhiannon yn darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth i bobl hŷn a’u teuluoedd ar amrywiaeth o faterion fel amddiffyn oedolion, cyllid, iechyd, gofal a thai er mwyn herio arferion gwael ac i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u deall gan ddarparwyr gwasanaethau a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau.
Rhys Jackson
Swyddog Cyfathrebu
Mae Rhys yn hyrwyddo gwaith y Comisiynydd yng Nghymru drwy gyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd a gweithgareddau digidol a marchnata i godi ymwybyddiaeth o rôl y Comisiynydd ymysg pobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol. Mae Rhys hefyd yn ysgrifennu datganiadau i’r wasg, mae’n cynnal presenoldeb y Comisiynydd ar gyfryngau Cymdeithasol, ac mae’n sicrhau bod gwefan y Comisiynydd yn cael ei diweddaru.
Richard Jones
Pennaeth Cyfathrebu
Mae Richard yn hyrwyddo gwaith y Comisiynydd ac yn sicrhau dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â phobl hŷn a rhanddeiliaid drwy sylw yn y cyfryngau, ymgyrchoedd, cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau marchnata. Ef sy’n gyfrifol am reoli gweithgareddau cyfathrebu ar draws sefydliad, drwy weithredu, monitro a gwerthuso strategaeth gyfathrebu a chynllun cyfathrebu blynyddol y Comisiynydd.
Sion Wyn Evans
Arweinydd Polisi ac Ymarfer
Mae Sion yn arwain ar agweddau ar waith sy’n ymwneud â meysydd polisi sy’n gysylltiedig â’r wyth maes sy’n ystyriol o oedran, yn ogystal â rhannu arfer da i wella profiadau i bobl hŷn, a datblygu a chynnal perthynas waith ragorol gyda phobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol.
Mae Sion yn arwain ar sefydlu a rheoli ‘Cymuned Ymarfer’ dynamig drwy annog a galluogi aelodau i ddysgu wrth ei gilydd, rhannu arfer da a chyfrannu at y mudiad oed-gyfeillgar sy’n datblygu yng Nghymru.
Valerie Billingham
Arweinydd Iechyd a Gofal
Mae Valerie yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i wella ansawdd a mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Nghymru. Mae hi hefyd yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r materion pwysicaf i bobl hŷn er mwyn gwneud cynnydd cyflymach tuag at ddarparu gwasanaeth cydgysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac sy’n cyflwyno newid effeithiol i bobl hŷn ac yn rhoi pobl hŷn yn ganolog iddo.